Adolygiad gan Stephen Mason (Review published in Y Faner Newydd Oct 2013)
Os mae plant bach gyda chi ac rydych chi’n becso am sut maen nhw’n dod ymlaen yn yr ysgol o ran dysgu darllen mae’na lyfr i chi sy’n gallu helpu goleuo’r holl broses. Mae “Proust and the Squid” gan y niwrolegydd Maryanne Wolf yn rhoi cais go dda ar egluro beth yw darllen yn ei hanfod a beth yw’r anawsterau posib mae plant yn dod ar eu traws wrth ddysgu’r sgiliau maen nhw angen i wneud y broses o ddarllen yn effeithiol. Wrth geisio gwneud hyn nid yw’r awdur yn siarad yn rhy wyddonol ar y cyfan ond yn hytrach mae hi’n cyfeirio’n aml at ‘wyrthiau’ darllen a’r pethau mae dynoliaeth wedi cyflawni o’u herwydd. Mae hwn yn llyfr sy’n gallu ysbrydoli ac yn addysgu ac sy’n gallu apelio at rieni ac athrawon yn eu tro. Nid oedd y pethau sy’ yn y llyfr hwn yn cael eu dysgu i mi fel darpar athro dros bymtheg mlynedd yn ôl a dw i’n amau bod y wybodaeth allweddol am y broses sy’n ganolog i addysg yn cael sylw haeddiannol o hyd gan y rhai sy’n hyfforddi athrawon yn y colegau heddiw. Cytunaf â’r awdur wrth iddi fynnu taw heddiw mae gyda ni fwy na digon o wybodaeth i gydnabod anhawster darllen bob plentyn sy’ mewn peryg o’i ddatblygu a mwy na digon o wybodaeth i ddysgu bron bob un ohonyn nhw i ddarllen yn effeithiol. Rhaid gofyn y cwestiwn ‘Pam dydyn ni ddim te?’
Yn yr erthygl hon hoffwn i godi sawl pwynt o’r llyfr er mwyn tanio dadl a thrafodaeth ac wrth wneud hynny cadw mewn cof un peth pwysig sef y cwestiwn hwn – os, fel mae Wolfe yn honni, taw’r iaith lafar sy’n allweddol i ddysgu darllen yn effeithiol oes argyfwng tawel ym myd darllen yn y Gymraeg na allai ein hysgolion datrys ar eu pennau eu hunain?
Dydy darllen ddim yn naturiol.
Yn ôl Wolfe dydy’r broses o ddarllen ddim yn naturiol ac mae goblygiadau’r ffaith hon yn gallu bod yn fendigedig ac yn drasig i lawer o bobl ond yn enwedig plant. Nid yw darllen yn datblygu’n naturiol i blant yn yr un modd â golwg a’r iaith lafar sydd wedi’i ‘rhaglennu’ ynddon ni yn barod. Mae gan blant ddawn cynhenid am synau ond mae argraff yn opsiwn atodol bod rhaid i ni ychwanegu’n ddiwyd ac yn ofalus. Mae’r safbwynt hon yn wahanol iawn i’r un sy’n llunio ein strategaethau darllen yn ein hysgolion heddiw sy’n ffocysu ar un neu ddwy elfen o’r broses ddarllen a dim mwy.
Yr iaith lafar
Yn ôl Wolfe, mae plentyn dosbarth canol cyffredin yn clywed 32 miliwn mwy o eiriau na phlentyn tlawd, difreintiedig erbyn pump oed. Mae hwn yn swnio’n nifer anhygoel. Y rhai fydd yn cael dysgu darllen yn anodd yw’r rhai sy heb gael stori ei darllen iddynt, sy heb glywed hwiangerddi, rhigymau a cherddi, sy ddim yn dychmygu ymladd â dreigiau a phriodi tywysog. Ond, fel y dywedir yn uchod mae Wolfe yn mynnu taw heddiw mae gyda ni fwy na digon o wybodaeth i gydnabod anhwaster darllen bob plentyn sy’ mewn peryg o ddioddef tlodi geiriau a mwy na digon o wybodaeth i ddysgu bron bob un ohonyn nhw i ddarllen yn effeithiol.
“Mewn llyfrau dw i wedi teithio, dim dim ond i fyd pobl eraill ond i mewn i’m byd fy hun. Yna dysgais pwy oeddwn i a phwy roeddwn i eisiau bod.”
Anna Quindlen
Dyslecsia
Un o’r pethau mwyaf diddorol am y llyfr hwn yw’r diffiniad pendant mae’r awdur yn rhoi am ‘beth yw dyslecsia’. Yn ôl Wolfe nid anhwylder darllen yw dyslecsia gan nad yw’n bosib dioddef diffyg mewn ‘adran darllen’ yr ymennydd. Y rheswm am hyn yw nid yw’r fath beth fel ‘adran darllen’ yn bodoli yn yr ymennydd. Ystyr dyslecsia yw bod bob ymennydd yn cael ei drefnu’n wahanol ac i rai sy’n ddyslecsig mae’r trefniant hwn yn cael hi’n anodd dysgu sgiliau darllen. Felly mae’n bosib bod yn ddyslecsig ym mhob iaith hyd yn oed iaith fel y Gymraeg sy’n weddol ffonetig. Mae’n anhygoel i glywed athrawon cynradd y dyddiau yma sy’n honni nad yw’n bosibl bod yn ddyslecsig yn y Gymraeg gan ei bod hi’n iaith ffonetig. Dylai sylwadau fel hyn codi pryderon mawr os rydyn ni’n credu Wolfe. Yn ogystal felly mae’n bosib bod pob plentyn sy’n dioddef o ddyslecsia yn dioddef yn wahanol. Efallai taw hwn yw’r peth sy wedi helpu creu’r myth dros y blynyddoedd taw plant diog yw llawer sy’n ddyslecsig. Nid plant diog mohonynt ond plant sy’n dioddef mewn ffordd nad yw’n bosib cydnabod yn hawdd. Ar ochr arall y geiniog mae Wolfe yn sôn hefyd am sut mae trefnu’r ymennydd yn wahanol yn gallu cynnig doniau anhygoel fel y rhai oedd gan Albert Einstein a Leonardo da Vinci a’u tebyg. Eto mae’n drist bod rhaid pwysleisio i rai heddiw efallai nad yw plant sy’ gyda dyslecsia yn ‘dwp’. Ond oni bai bod plentyn yn gallu cael gafael ar ei addysg wrth ddarllen yn effeithiol mae’n wir i awgrymu na fydd llawer o blant dyslecsig yn dueddol o ddysgu mor effeithiol ac mor gyflym ag eraill. Yn enwedig yn ein system addysgu heddiw sy’ dal mor hen ffasiwn.
Mae’r wybodaeth hon am hanfod dyslecsia yn arwain yn amlwg at y ffaith hon sef – os mae trefn yr ymennydd yn elfen enetig mae dyslecsia yn gallu bod yn enetig hefyd ac mae rhieni yn gallu pasio eu math o ymennydd ymlaen i’w plant. Felly mae’n wir i gredu os rydych chi wedi cael hi’n anodd dysgu darllen mae’n bosib y bydd eich plant hefyd. Mae Wolfe yn esbonio bod plant dyslecsig fel hyn yn tueddu bod yn llai sensitif i rythm yr iaith lafar a’r pwyslais a phatrymau curiadau.
Rhagweld Dyslecsia
Y rhagfynegydd gorau o ddyslecsia ym mhob iaith a brofir gan Wolfe oedd prawf perthynol i amser o’r enw “cyflymder enwi”. Yn ôl y llyfr enghraifft addas o hwn fyddai gofyn plentyn i enwi lliwiau. Mae’r gallu enwi lliwiau yn gyflym yn gallu rhagfynegi methiant neu lwyddiant dysgu sgiliau darllen. Mae plant dyslecsig yn gallu enwi lliwiau ond ddim yn gyflym. Yn syml iawn does dim amser i feddwl drwy’r cyfrwng o brint gan lawer o blant sy’n ddyslecsig.
Mathau o Ddyslecsia
Yn ôl Wolfe mae tri math o ddyslecsia:
Math 1: problemau ymwybyddiaeth o ffonemau (synau iaith)
Math 2: cyflymder enwi araf (prosesu)
Math 3: cymysgedd o fath 1 a 2 (yn aml gelwir hwn yn ‘ddyslecsia delfrydol’ /’classic dyslexia’)
Yn ôl y llyfr mae gan tua 25% o siaradwyr Saesneg gwael y fath gyntaf (Math 1). Mae Math 1 yn fwy cyffredin yn Saesneg oherwydd system ysgrifennu yn yr iaith fain yn weddol anghyson. Mewn ieithoedd fel Almaeneg a Sbaeneg (a’r Gymraeg?) sy’ ganddynt system ysgrifennu fwy cyson mae Math 2 yn fwy cyffredin. Yn Saesneg mae anhawsterau rhuglder yn cael eu colli gan nad yw athrawon yn canfod problemau ‘dadgodio’ iaith ond dydyn nhw ddim yn gweld nad yw’r plentyn yn gallu darllen yn ddigon cyflym er mwyn deall. Yn fwy diddorol byth yw ffaith nad yw tua 10% o ddarllenwyr gwael yn gallu cael eu dosbarthu o ran y tri math hyn. Mae hwn yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil a mwy o ddosbarthu. Un diffyg posib fyddai diffyg o ran cof tymor byr. Ar ôl darllen llyfr Wolfe dyma’r diffyg dw i’n weddol sicr sy gyda fi ers blynyddoedd maith ond dim ond wrth gyrraedd deugain oed yn ei sylweddoli. Dyma ddiffyg sy’n gallu achosi fi ddarllen yr un paragraff drosodd a throsodd heb ddeall ei hystyr, hyd yn oed o ran pynciau weddol syml. Mae’n bosib dyna pam dw i wedi datblygu strategaeth o ddefnyddio mapiau meddwl i wneud nodiadau wrth ddarllen dros y blynyddoedd heb sylweddoli pam. Ond pwy a ŵyr? Efallai taw dim ond twpsyn diog ydw i.
Niwroleg
Yn ei llyfr hynod o ddiddorol mae Wolfe yn trafod ei gwyddoniaeth hi sef niwroleg ac mae hi’n gwneud e’n syml ac yn gall. Mae hi’n trafod y dechnoleg newydd mae hi’n yn ei ddefnyddio fel niwrolegydd i ‘weld’ sut mae’r ymennydd yn darllen a beth sy’n digwydd cyn ac ôl i ddarllen yn datblygu yn yr ymennydd. Mae hi’n dweud bod y rheswm am y gallu darllen sy gyda ni yw plastigrwydd yr ymennydd ac wrth ddysgu darllen mae’r ymennydd yn newid yn ffisiolegol and yn ddeallusol. O ganlyniad hyn mae hi’n casglu rhywbeth pwysig; sef i ryw raddau ‘ninnau yw ein darllen’ – ‘we are what we read’. Mewn oes lle mae cyfryngau torfol yn fwyfwy dylanwadol mae’n bosib taw hwnnw yw’r honiad mwyaf ysgytwol. Wedyn mae’n anodd i riant beidio becso a oes gobaith am eu plant ddatblygu’n ddeallusol wedi eu corlannu gan ffonau, sgriniau, gemau a hysbysebion sy’n bwydo cymaint â sbwriel? Ond mae goblygiadau eraill i beidio darllen yn dda a dim ond darllen ystod gul o bynciau. I ystyried y pryderon hyn yn bellach mae Wolfe yn trafod barn yr athronydd Socrates a gredai bod y gair ysgrifenedig yn mynd i arwain at fyd llawn gwybodaeth heb ddoethineb ac felly un heb rinwedd chwaith. Credai Socrates bod rhaid i berson drosglwyddo gwybodaeth a bod heb ‘athro’ i addysgu gallai geiriau ysgrifenedig cael eu camddeall a’u gwyrdroi. Fel athro profiadol byddwn yn cydymdeimlo â Socrates i raddau mawr. Un o’r pethau rydw i’n gweld yn yr ysgol heddiw yw plant yn caffael ar wybodaeth heb ddealltwriaeth. A’r prif reswm am hyn wrth gwrs yw’r we. Mae Wolfe yn cydnabod hwn hefyd ac yn gofyn y cwestiwn a ddylai rhieni heddiw bryderu am effeithiau’r byd digidol ar ddyfnder addysg eu plant. Mae hi’n gofyn a fydd y byd hwn yn cynhyrchu ‘balchder gwag’ mewn cymdeithas sy’n cynhyrchu plant sy’n dadgodio iaith ond yn methu deall hi gan fod eu ffug-ddoethineb yn stopio nhw rhag dwysáu eu gwybodaeth. Felly, mae Wolfe yn dweud, nid yw’n ddigon i ddysgu plant i ddarllen ond i ddarllen yn dda. Gan gynnwys y rhai sy’n ddyslecsig.
Y Gwyddorau
Mae Wolfe yn dweud bod gwyddor iaith yn bwysig wrth ddysgu darllen. Mae plant sy’n dysgu ieithoedd â gwyddorau mwy cyson, fel Groeg, Eidaleg ac Almaeneg (a Chymraeg?) yn dod yn rhugl yn fwy cyflym na phlant sy’n dysgu gan ddefnyddio gwyddorau llai cyson, fel Saesneg a Ffrangeg. Yn yr ieithoedd ‘cyson’ hyn mae darllenwyr yn dysgu’n gyflymach ac yn osgoi llawer o amser o ddysgu rheolau ffonetig. Mae darllenwyr yr ieithoedd hyn yn cyrraedd eu llabedau’r arlais (temporal lobes) yn fwy cynnar ac yn defnyddio nhw’n fwy na darllenwyr yn ieithoedd fel Saesneg a Ffrangeg. Mae’n ymddangos bod yr amser byrrach sydd angen i ddadgodio yn caniatáu mwy o amser am ddeall. Yn fwy anhygoel unwaith eto yw’r honiad bod gwyddorau yn adeiladu ymenyddiau gwahanol ac nid dim ond ‘ninnau yw ein darllen’ ond ‘ninnau yw ein gwyddorau’. Mae system ein gwyddorau a’r iaith (neu ieithoedd) rydyn ni’n gallu darllen ynddynt yn gallu dylanwadu ar sut rydyn ni’n gweld y byd.
“Heb eiriau, heb ysgrifennu a heb lyfrau ni fyddai dim hanes, dim syniad am ddynolryw.”
Hermann Hesse
Darllen ac Empathi
Mae gallu darllen yn anrheg i ni medd Wolfe gan fod e’n galluogi ni i gydymdeimlo ag eraill a hefyd yn caniatáu i ni weld taw unigolion ydyn ni ond nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain yn y byd. Mae darllen yn rhugl ac yn effeithiol yn mynd â ni i mewn i feddyliau pobl eraill, i mewn i fyd arall a thu hwnt i ystyr y geiriau eu hunain. Oherwydd hyn mae Wolfe yn honni bod darllen wedi galluogi dyn i feddwl yn fwy ‘gwreiddiol’.
Llythrennedd Cynnar
Mae Wolfe yn dweud bod y ffordd gorau o ddysgu darllen yw yng nghol yr oedolyn. Mae cysylltu clywed y gair a gweld y gair yn gosod y sylfaen am y broses o ddarllen yn ogystal â chysylltu darllen a theimlo cariad a chael sylw. Mae gwaith Wolfe yn dangos bod gallu enwi pethau yn ifanc ac wedyn i enwi llythrennau wrth dyfu yn rhoi rhagfynegydd sylfaenol i ba mor effeithiol y bydd y gallu darllen yn datblygu mewn plentyn dros amser. Mae hi’n esbonio bod y gallu hwn yn dibynnu ar broses o’r enw ‘myelination’ yn yr acsonau niwronol (neuron axons) sy’n datblygu’n ddigonol rhwng 5 a 7. Felly mae Wolfe yn honni (ar dud.96) bod “ymdrechion i ddysgu darllen cyn 4 neu 5 oed yn fyrbwyll yn fiolegol ac yn wrthgynhyrchiol i lawer o blant.” Mae hi’n ychwanegu taw athrylith darllen fel y cymeriad scout yn y nofel ‘To Kill A Mockingbird’ yn brin mewn realiti. Beth sy’n bwysig yw gwrando ar eiriau a cherddoriaeth ac awchu’r gallu i glywed synau geiriau – y ffonemau (phonemes). Un peth arall sy’n ddiddorol iawn yw bod Wolfe yn dweud bod hi’n bosib bod y broses hon yn datblygu yn fwy araf mewn bechgyn. Pe bai hwn yn wir a fyddai’n werth ail-edrych ar sut rydyn ni’n dysgu ein bechgyn i ddarllen?
Dwyieithrwydd
Does dim llawer o sôn am ddwyieithrwydd gan Wolfe yn ei llyfr ac ar y cyfan cartrefi sy’n siarad Sbaeneg adre a Saesneg yn yr ysgol mae hi’n trafod. Ond dyma un dyfyniad pwysig yn y Saesneg gwreiddiol,
“Language enrichment at home provides an essential cognitive and linguistic foundation for all learning and it does not need to be in the school language to be of help to the child. Children who have impoverished environment in their home language, on the other hand, have no cognitive or linguistic foundation for either their first or the second, school language.”
Darllen yn rhugl
Mae gan Wolfe ddiffiniad ei hunan am beth yw darllen yn rhugl. Mae hi’n dweud,
“Fluency is not a matter of speed, it is matter of being able to utilise all the special knowledge a child has about a word – its letters, letter patterns, meanings, grammatical functions, roots and endings – fast enough to have time to think and comprehend. And everything about a word contributes to how fast it can be read.”
Mae Wolfe yn disgrifio cyrraedd y safon yma yn ôl disgrifiad Graham Greene, sef y ‘dangerous moment’. Dyma’r safon lle mae person yn gallu CASGLU (INFER) beth mae’r sefyllfa arwr mewn stori yn ei feddwl, RHAGFYNEGI (PREDICT) beth fydd y dyn drwg yn ei wneud, TEIMLO (FEEL) sut mae’r arwres yn dioddef a MEDDWL (THINK) amdanyn nhw eu hunain a’u hymateb i beth maen nhw’n darllen. Dyma’r foment rydyn ni’n gallu UNIAETHU (IDENTIFY) ag eraill.
I mi dyma’r rheswm pam fod darllen mor bwysig; mewn byd sy’n cyfeirio at ddyfodol ansicr beth dydyn ni ddim eisiau ein plant a phlant ein plant i wneud yw stopio cydymdeimlo ac uniaethu â’i gilydd. Dyna drychineb y gallen ni osgoi yn ôl Maryanne Wolfe.
“Proust and the Squid – The Story and Science of the Reading Brain” Maryanne Wolf