Daeth Y Gaeaf Mawr, a gwisgodd y tywydd yn glown â’i esgidiau llwyd, lletchwith yn dansang drwy strydoedd Aberdamp, a glawio’n ddibaid ers dwy fis, ers tair mis, ers pedair mis gan foddi bob enaid o dan fensicus cas. Ac anghofiwyd gan bawb erbyn hyn, dyma’r amser y daeth y morloi mawr cochion i rwstio ar doeon llech y dref. Daethon nhw fel hen atgofion wedi’i herthylu uwch ein pennau, fel miloedd o addunedau wedi’i torri erbyn yr ail ddiwrnod o phob blwyddyn newydd. Eisteddent yn fud o fore tan nos a dweud yn ddieiriau y byddant yn byw yno yn hir ar ôl i drigolion Aberdamp gladdu ei gilydd. Addurnent y dref fel tafodau tew chwilfrydig a flasai pob munud a wastraffwyd islaw’r llech ansad. Pam morloi? Ni fentrai neb ateb gwestiwn mor astrus.
Ar doeon tamp Aberdamp, llithro wnaethai sawl morlo mawr coch ar y llech llwyd slic, gan floeddio, poeri a pheswch rhaeadr o floneg ar ei ffordd i lawr i lanio ar ben yr hen bobl tlawd islaw. Gallai dirgelwch disgyrchiant a más morlo mawr ladd yr hen a’r araf a’r twp - mor hawdd â glaw yn gwlychu afon a daeth angau yn ffordd o fyw y gaeaf hwnnw a daeth gwadu yn ffordd o fod.
Erbyn y gwanwyn roedd hi’n glawio morloi. Roedd crwydro mas o’ch tai fel chwarae’r loteri, ond gyda mwy o siawns fyth o golli a llawer mwy byth o golli’ch bywyd. Doedd neb yn gwybod o ble daeth y morloi mawr cochion na pham roedden nhw wedi dewis ymgartrefu ar doeau’r dref yn lle aros ar y traeth gerllaw. Doedd neb yn gwybod sut y llwyddon nhw gyrraedd y toeau gan nad oedd adennydd na fforclifft gyda nhw. Doedd neb eisiau gwybod. Roedd bywyd yn ddigon anodd heb feddwl am y fath beth nad oedd synnwyr cyffredin yn gallu cael gafael ynddi.
Carfan fach o bobl a fynnai mai nhw a ragwelasai hyn oll flynyddoedd yn ôl. Carfan fach arall o bobl a fynnai mai nhw a rybuddiodd pawb o’r perygl o adael anifeiliaid eraill rwstio ar doeau dynion. Ar ôl croesawu’r adar, medden nhw, roedd disgwyl morloi cochion yn anochel. Ond sibrwd wnaeth y rhai hyn wrth gymharu â gwaedd y garfan fechan a fynnai’n uchel ac yn groch nad oedd y morloi yn bodoli o gwbl a mai twyll a rhith oedd y nonsens morloi hyn i gyd. Roedd y fath beth â morloi yn byw ar doeau yn gelwydd amlwg na ddylai neb call gredu pe bai’n byw yn gant oed. Dyna oedd craidd maniffesto Maniffesto – mudiad y rhai nad oedd yn credu eu llygaid, na chredu pobl eraill, na chredu mewn dim byd ond gwadu’r gwir; bod morloi cochion yn rwstio ar doeon llech y dref ac yn llithro i lawr a lladd ei thrigolion.
Mrs Modlen Slafignoma oedd un o’r rhai cyntaf i farw; ar ei ffordd i gasglu ei phensiwn o’r hen swyddfa’r bost oedd bellach yn siop a werthai crisialau, dalwyr breuddwydion a crap o bob siap. Ar ei ffordd oedd hi i brynu sexy stockings i hudo’i gwr oedd wedi hen farw ac yn ei fedd ers ugain mlynedd. Ar ei ffordd yn y glaw mân oedd hi, gan wrgnach ar ei gŵr am beidio golchi’r llestri y bore hwnnw. Dyna pan laniodd lwmpyn mawr o forlo fenyw, o’r enw Bien-ffw, ar ei phen a’i lladd hi yn y fan a’r lle. Llithro ar y llech llwyd slic uwchben wnaethai Bien-ffw, a phob chwarae teg iddi, bloeddio rhybudd uchel i’r wlad i gyd wrth blymio tuag at y palmant. Rhybudd mor uchel nad oedd modd i neb ar dir byw i’w hanwybyddu. Ond roedd Modlen yn ymgorfforiad o’r ddadl ein bod ni i gyd yn marw o funud gyntaf ein geni; roedd hi wedi bod yn hen wraig ers gadael yr ysgol yn un ar bymtheg ac yn fyddar ers hanner canrif. Yn ei gwedd a’i harfer roedd hi’n hen ers talwm. Time capsule o ddynes oedd Modlen nad oedd neb wedi cofio ei hagor. Roedd cof Modlen yn llawn chwedlau coll y chwedegau nad oedd yn sôn am haf y cariad, hawliau sifil na gwrthryfel ffeministaidd. Darllenai Mills and Boon a gwyliai ddim byd ond rhaglenni’r BBC heb yr isdeitlau. Roedd hi’n prynu UK Knitting Magazine bob mis a byth wedi cyffwrdd â ffôn symudol. Glaniodd Bien-ffw ar gefn Modlen gan chwalu ei fertebra seithgwaith yn syth cyn malu ei phenglog fregus ar gerrig y stryd jyst tu allan i Asiantwyr Tai Machen & Tosh. Dyna lanast.
Wrth glywed y sŵn, brysiasai Mr Machen a Mr Tosh, oedd yn digwydd bod yn ffans mawr o CSI Aberystwyth, allan i archwilio’r lle roedden nhw’n glanhau mor dwt bob bore cyn agor eu siop. Gwelon nhw olygfa ffilm arswyd o’r radd isaf. Doedd dim modd dweud beth roedd yn garthen a beth roedd yn gnawd. Chwydodd Mr Tosh yn y fan a’r lle wrth i Bien-ffw, oedd yn fyw ac yn iach, garlamu i ffwrdd i lawr i London Lane er mwyn dychwelyd i’w chynefin a gweddil y morloi ar lech llwyd slic toeon tamp Aberdamp.
O fewn funudau, fe ffrwydrodd bomiau moc-sioc gan y rhai clyfr-syfrdan ar Ffesbwc a difa pawb yn y dre.
Ond ro’n ni i gyd yn lwcus, gallai mwy wedi marw, ond bendith o’dd hi t’wel, bendith mowr i Modlen, o’t ti’n nabod hi? Naddo ro’dd hi’n hen iawn t’wel, a ddim yn iawn yn ei phwyll, she’d lost her marbles, ers colli ei gwr hi? Mae’n debyg, hedd ar ei llwch hi, ro’dd hi mor fregus a thenau, ‘rhen wrach, ‘dw i’n siwr o’dd hi’n unig iawn, do’dd ‘run ffrind ‘da hi, sai’n credu ro’dd hi’n fenyw anhapus iawn er ‘yn, ro’dd hi wedi byw bywyd llawn a llon, o’dd teulu gyda hi? Gellid prynu marbles ar marbles.com, pam? Ti wedi colli rhai ti? Wes wes, rodd mab ‘da hi byw yn Llunden, gweitho mewn banc teithio’r byd mewn awyren wedi’i ladd mewn damwen sgïo yn Tanzania, dyna dr’eni, o’s rhywun wedi dwêd wrtho? Ma’ fe wedi marw ychan! Wedi marw? ‘Na dr’eni, sgïo yn Tanzania wedest ti? Dewch ar wyliau i Tanzania! Sgïo gorau’r cyfandir! Wel, pwy fysa’n meddwl? Bendith iddo fe hefyd mae’n debyg, do’s dim becso amdani bellach, sut ma’n nhw’n sgïo yn Tanzania? Mae fe wedi marw ychan! Pwy? Ei gwr hi, ei gwr hi? Na, ei mab hi. Roedd ei gwr Colin yn hen fastad slei, fe glywes i fod e’n shelffo gwragedd y golf club ers talwm, o’dd pawb yn gwbod hynny cariad, o’dd y dref i gyd yn gwbod ond am Modlen druan, o’dd hi’n gwbod? Yr hen bastad slei ‘nath e farw o AIDS yn ôl y Journal. A Hepatitis A. A Hepatitis B. Hedd ar ei lwch ef, hedd ar ei hepatitis ef hefyd, mae teimladau gan firysys hefyd t’wel’ glywes i, maen nhw’n fyw fel ninne, gafodd ei amlosgi? Pwy? Hepatitis. Dangos canlyniadau am ‘Ei gwr hi’. Chwilio yn lle am ‘Ei mab hi’. Est ti i angladd Modlen? Os mae smotiau coch fel hyn gennych mae’n bosib bod Hepatitis X gyda chi. Ewch i weld eich GP. Do, o’dd good turnout yno? Naddo, o’n i’n dost, gannoedd yno yn ôl y Journal ond dim ond o achos y morlo coch, ie wrth gwrs, o achos y morlo mawr coch, gallai wedi bod yn un ohonon ni siwr dduw! Drwy ras Duw! Ti ‘di arwyddo’r deiseb? Do, pe bai rhywun arall wedi bod yn cerdded i’r hen swyddfa’r bost bydden nhw wedi ca’l hi, siwr dduw! Diolch i dduw! Ro’dd y te wedyn yn siomedig iawn ti’mod dim digon o sandwiches fysech chi wedi meddwl bydden nhw wedi trefnu digon o sandwiches - MA’ PAWB YN BY’TA BLYDI SANDWICHES! So fi’n lico rhai brown dim ond bara gwyn, o’dd digon o rai gwyn yno? Naddo? Sgandal! Do’dd neb yn haeddu hynny am ffordd i farw hap a damwain oedd hi ‘dyn ni i gyd yn un gam i ffwrdd o fflamau uffern! Ro’dd Modlen yn anlwcus iawn, one in a million chance medden nhw, mae’n ddigon hawdd osgoi morlo coch os chi’n ddigon ifanc i glywed nhw’n cwympo, dim ond yr hen sy’ mewn peryg mae’n debyg, arhoswch adref ac achub eich bywyd, wel, dyna ni te, gwell i ni i gyd aros adre felly, man a man, ‘sdim byd gyda ni i wneud tu fas ta beth, mae’n ffycin piso lawr ‘to, ma’r palmant yn slic, slica’r pafin, tryma’r morlo glywes i, fe glywes i fod ei gwr Colin yn baedoffeil fel Jimmy Saville, hollol wir, wedes i do? Ro’dd hi’n fendith mowr i Modlen t’wel. Diolch i dduw am y morloi.
Wythnos wedyn, roedd y glaw dal yn bwrw’n drymach na dryll awtomatig ac roedd Bien-ffw yn lladd unwaith eto. Yr un nesaf i farw ar ôl Mrs Slavicnoma oedd Mr Khan ar ei ffordd i agor Siop Cebab Cymru tra bod yn ymlwybro’n hamddenol ar hyd Churchill Street. Roedd Bien-ffw yn ei rwst uwchben a daeth haid o frain i brotestio iddi am golli eu cynefin. Crawciodd y brain a becso Bienffw fel dosbarth drwg yn herio athro cyflenwi. Chwarddodd y brain yn ei hwyneb a chan fod Bien-ffw’n feichiog erbyn hyn roedd hi’n trio peidio symud gormod a gobeithio am help o weddill y morloi cochion. Ond fe ddaeth dim help oddi wrth gweddill ei math. Roedd bob un yn canolbwyntio’n hunanol ar aros ar lech slic eu toeon nhw. Bodolaeth gwegil yw rwstio ar do Cymreig. Felly parhaodd y brain i’w herio a dechrau pigo ar groen ei chefn. Er peidio trio, fflachiodd Bien-ffw ei chynffon byr a bwrw un brân yn glatsien ar ei big mawr du. Ond wrth fflicio’n grac mor sydyn, wnaeth hi golli gafael unwaith eto ar y llech llwyd slic a dechrau rholio i lawr y to uwchben Mr Khan tra bod y brain yn crawcio buddugoliaeth ar y llech. Bloeddiodd Bien-ffw yn uchel yn iaith Morloëg a rhoi rhybudd i’r byd i gyd ond doedd e ddim yn rhybudd o gwbl i Mr Khan oedd yn gaeth i’w glustffonau a phodlediad diweddara’ Radio Cymru. Roedd e’n gwrando ar raglen Tudur Owen. Torrodd Bienffw (a’r llo bach yn ei groth) wddf Mr Khan a’i gadael ef yno yn marw yn araf, mewn poen ofnadwy, gyda’i glustffonau’n ynghrog yn ei linyn cefn. Fel carreg yn glanio ar bancosen.
Nes ymlaen, byddai rhai yn rhoi’r bai am y morloi mawr cochion ar Tudur Owen a’i raglen radio.
Daeth dicter arlein o fewn yr awr.
Am ddamwain ofnadwy! Ergyd mawr i’w deulu, maen nhw i gyd yn ein meddyliau ni ar yr adeg hon, pwy ydyn nhw? Sai’n nabod nhw, mae ein cydymdeimlad ni gyda nhw i gyd hefyd, mae ein cariad gyda nhw hefyd, pwy? Beth am #hashnod? Ma’ fe’n haeddu #hashnod o leiaf, fe oedd un o’r rhai da ohynyn nhw #heddareilwchmrkhan, #sorimrkhan #safwngydaMrKhan, am drueni! Hoffwn alw ar bob gymuned i weddio dros deulu Mr Khan, dyw blydi gweddïo ddim yn helpu neb g’boi, ydyn nhw’n gweddïo hefyd? Nhw? Ie, nhw. Sain gwbod, wrth gwrs maen nhw’n gweddïo maen nhw’n gweddïo ddegwaith y diwrnod mewn masg, doedd mr khan ddim yn gwisgo masg, roedd e’n gwisgo tyrbin y twpsyn, o’n in meddwl fod e’n hindw o Bacistan, roedd e’n hollol iach, heb golli diwrnod o waith yn ei fywyd, roedd e wastad yn gwenu a jocan yn y siop cebab, ‘shwmae bois?’ meddai fe, ‘be chi moyn bois?’ meddai fe, ‘dewch eto bois!’ meddai fe, on i wastad yn lico fe, o’dd fy mam yn ffrind gyda’i wraig e, byddai’n gweld hi yn Aldis dy’ sadwrn ond sai’n lico’r ffaith bod nhw’n gwisgo’r pants mawr od, pwy? Nhw. Pwy ‘dyn nhw felly? Nid ninnau, nhw! Mormons myn, mae’n sôn am mormons. Mae’r pants mawr hyn ar gael nawr am £3.99 am becyn o wyth, un am bob dydd o’r wythnos Celtiadd, Dangos canlyniadau am ddillad isaf. Chwilio eto am Victoria’s Secret lingerie, pa bants? Dillad isaf gorau Ewrop gboi. Ydyn nhw sy’n lico canu? Pwy? Mormyns myn. Un ohonyn nhw sgwennodd ‘Delilah’ i tom jones, doedd mr khan ddim yn lico canu weles i fe byth yn canu gyda’r male voice, yeah, typical paki, never bothered integrating, fydd ei deulu yn aros neu mynd adref? Mynd adref? send them all home retweet if you agree Maen nhw’n byw lan yr heol myn uffern i, mae ei blant Heledd a Jac yn y ffrwd Gymraeg yn y cynradd, ware teg iddyn nhw yfe, ware teg am drio dysgu’r iaith, dysgu? O’dd Leo Khan yn rhugl, es i i’r ysgol gyda fe, cafodd ei eni yma yn Aberdamp, bollocks did he! BLOCKED. Beth am y morloi? ‘Sdim bai ar y morloi, mae’n ffws mawr dros ddim byd pwy sy’n dweud bod morloi ar y toeon? Wyt ti wedi gweld nhw? NHW? NHW!!?? So fi wedi gweld un morlo mae hwn i gyd yn fake news g’boi, mae llawer mwy o fai ar y clustffonau twp roedd e’n gwisgo a’r rhaglen dwp ‘na ar y radio, sneb yn gwrando ar y radio bellach, wastraff o arian y trethdalwyr, so fi’n talu treth i dalu am y sothach sy’ ar blydi EsPedwarEc, ers pryd ti’n talu treth? Fi’n talu digon diolch yn fawr, ond ma’ pawb yn cadw stash yn y Caymans y dyddie hyn, ma’ pobl yn byw yn eu byd eu hunain y dyddie hyn, hen bryd i ni gael gwared o Radio Cymru, ydy’r siop cebab dal ar agor? Odi, mae ei frawd Geraint wedi dod lan o Gaerdydd i redeg e, brawd pwy? Leo Khan. Boi siop y cebab? Ie. Fi’n lico Mr Khan. Ma’fe wedi marw myn. Sut? Ffycin morlo coch. Bastads! Ro’dd yn meddwl am ymddeol. O’dd yn meddwl am ymddeol? Dim ond tri deg pump o’dd e, ond ro’dd stash gyda fe yn y Caymans medden nhw, nhw? Nhw. PWY YFFACH YDYN NHW!!? Ma’r ffycar wedi blocio fi. Rydyn ni’n gallu rhoi’r cyngor gorau am sut i gael eich arian i weithio’n galetach, ffoniwch am ddim ar 0800 555123, wi’n ffansio cebab nawr, ti moyn peint gynta’? so fi’n mynd mas, alet ti ôl tecâwê i mi? Man a man, ot ti’n nabod mr khan? pwy? Do, ro’n i yn yr ysgol gyda fe, wir? Ie. Rhaid i fi ga’l ffags gynta, oes gêm arno? Wedi’i gohirio, o achos y morloi.
Ar ôl ei hail lofrudd, cafodd Bien-ffw ei hachub gan elusen lleol o’r enw ‘Cyfeillion y Morloi Aberdamp’ a’i hail-leoli i rwst newydd yn bell bell i ffwrdd o ganol y dref, yn bellach lan Dyffryn Nobath. Fyddai llawer llai o siawns llithro a lladd neb yna. Roedd gwirfoddolwyr brwd Cyfeillion y Morloi Aberdamp yn weddol siwr nad oedd Wendy (yr enw a roddwyd iddi ganddynt) yn llofrudd ond roedd ofn arnynt y byddai rhywun cyn bo hir yn mynnu dial ar y morlo coch druan pe bai ei bloneg yn digwydd bownsio ar ben un person arall. Cyhoeddodd y grŵp lythyr yn y Journal hefyd i ddatgan nad oedd Wendy yn ‘forlo ffyrnig’ a ‘laddai dynion er mwyn yfed eu gwaed’. Cyhoeddwyd y llythyr gan fod si ar led bod Wendy yn ‘llofrudd di-drugaredd’ ac roedd y grŵp eisiau rhoi stop ar y clecs wrth gyflwyno’r ffeithiau. Wrth gwrs gweithwyr y Journal wnaeth ddechrau’r clecs am y morloi yn yfed gwaed eu ‘fictims’. Felly, yn anffodus, gwnaeth y llythyr ddim byd ond corddi mwy o ddiddordeb yn ‘Wendy’ a’i llo newydd oedd yn cael ei alw’n yn ‘hedyn y diafol’ yn barod. O ganlyniad hyn oll, symudwyd Wendy yn bellach allan o’r dref i fyw ar do hen gapel gwag mewn pentref anghysbell. Yno, cwympodd mewn cariad â hwrdd cryf o’r enw Berwyn o’r cae drws nesaf a dechrau busnes bach lleol yn gwerthu gwlân. Ond dyna stori arall.
Yn y cyfamser, nôl yn Aberdamp, roedd hi’n dal yn bwrw glaw ac roedd y trigolion yn frysur newid y ffordd roedden nhw’n byw a cheisio ‘byw gyda’r morloi’. Gosodwyd rhwydi mawr cryf ar ymylon y toeau i ddala morloi wnaeth lithro a chwympo. Er hynny, fe gerddai pawb o gwmpas wrth edrych lan ar doeon y dref, rhag ofn bod morlo yn llithro o’r llech a syrthio’n seren gwlyb ar eu pennau. Er hynny roedd rhai a fynnai syllu i lawr ar dyllau’r heol gan obeithio am angau glou i orffen eu bywydau di bwrpas diysytyr. Am ryddhad fyddai angau mor glou, meddai eu meddyliau cudd. Y rheswm am y fath agwedd? Nid angau fel ‘na oedd ar gael yn Aberdamp fel arfer. Roedd marw fel ‘na braidd yn egsotig. Nawr, roedd bob trip i’r Co-op yn antur. Nawr, roedd siopa yn saffari peryglus. Roedd y morloi mawr coch wedi dod â phawb yn y dref i fyw yn y foment a gwerthfawrogi bob munud ohoni. Roedd y morloi mawr wedi agor epoch newydd.
Ond yna, fe stopiodd y glaw. Am dri diwrnod cyfan ym mis Mawrth. A thorheulodd y morloi a’r brain ar doeon llech sych y dref heb gwympo mas. Cerddodd pawb o gwmpas y dref gan wenu’n braf a siarad ac oedi’n ddigonol wrth fynd o gwmpas Aberdamp. Ond, tu fewn, roedd eu calonnau’n suddo.
Ond ar ôl tri diwrnod sych dan awyr las Duw ei hunan, dechreuodd y glaw unwaith eto (yn ôl y rhai digon lwcus i fyw gyda ffenestri a gweld y newid heb ddibynnu ar ffynhonnell ail law). Yn ôl Lorna Lloyd o’r Lamb Hotel, ar ei ffôn gyda’i chwaer, ‘roedd hi’n piso lawr’. Roedd yr heol yn afon a’r afon yn fôr. Ac roedd y môr yn, wel, anghofiwn ni am y môr am nawr. Ond mae’r llanw yn codi ac yn codi.
Digwyddodd tra bod Lorna Lloyd ar ei ffôn gyda’i chwaer ac roedd ei merch Lisi yn rhedeg drwy’r glaw yn trio dala lan gyda hi, yn trio ymestyn am law diogel ei mam er mwyn croesi’r heol i fynd i’r dry cleaners. Digwyddodd tra bod Lorna Lloyd ar ei ffôn gyda’i chwaer gan ddweud wrthi bod hi’n pisio i lawr ac felly nid oedd Lorna Lloyd yn sylwi’n syth bod ei merch tair oed pum mis wedi marw. Trueni mawr nad oedd ffenest yn nhŷ chwaer Lorna Lloyd. Gyda chymorth ffenestri, efallai na fyddai angen i’w chwaer ffonio hi a dweud ei bod hi’n bwrw glaw yn y dre’.
Byddai rhai yn rhoi’r bai ar y llywodraeth a rhaglen Tudur Owen.
Byddai rhai yn rhoi’r bai ar ddiffyg ffenestri.
Byddai rhai yn galw ar ddeiseb i osod deddf oedd yn gorfodi pawb i edrych allan o’r ffenest bob bore i weld pa fath o dywydd oedd hi. Rhag ofn i rywbeth mor erchyll ddigwydd eto yn Aberdamp.
Byddai llawer mwy yn rhoi’r bai ar y morloi cochion. Digon oedd digon. Lladdwyd merch fach. Digwyddodd fel hyn. Cwerylodd, llithro a syrthio wnaeth tri tarw mawr o forloi oddi ar do’r banc a glanio’n glep ar Lisi Lloyd fach. Yn hytrach, glaniodd un ar Lizzy Lloyd a’r ddau arall ar yr un cyntaf. Doedd dim byd ar ôl o’r ferch fach ond rhyw salsa Haribos a darnau o esgyrn cawslyd.
Gwaeddodd ei mam. Y tro yma fe glywodd pawb y sgrech.
...y ffycin bastads! wna i ffycin lladd nhw i gyd! tair oed oedd hi! tair blydi oed! mae meddwl amdani yn hala fi’n dost, roedd degau o’r morloi cochion yno yn ôl bob sôn cant! mil! Lisi oedd ei henw hi. doedd dim siawns gyda hi i ddianc doedd dim cyfle i’w achub hi meddai ei mam bob un yn darw yn ysu am waed dynol! rhwygodd ei chnawd yn rhacs yn ddi-drugaredd medden nhw, dydyn nhw ddim yn haeddu trugaredd – lladdwch nhw i gyd! roedd hi ar ei ffordd i gael te yn nhŷ ei mamgu medden nhw roedd hi ar lwybr drwy’r coed tywyll pan ddaeth y blaidd a llowcio hi’n gyfan, roedd hi’n methu mynd i’r ball, roedd y frenhines gas wedi hala heliwr i’w lladd hi, ble ma’ ffwcin gwn fi? Lisi oedd ei henw hi. Mae’n hen bryd i ni ddangos iddyn nhw pwy sy’n byw yma yn aberdamp y ffycin bastads! wna i ffycin lladd nhw i gyd! tair oed oedd hi! tair blydi oed! mae meddwl amdani yn hala fi’n dost roedd cannoedd yno yn ôl bob sôn! cannoedd! miloedd! drych ar y lluniau hyn, mae’r lluniau hyn yn dweud y cyfan, drych ar y fideo o’r CCTV, doedd dim siawns gan y ferch beth pe bai dy ferch di’n cwrdd a morlo? fyset ti’n fodlon iddi fynd mas ar ei phen ei hunan nawr? na! pe ba’i diawled yn trio fe gyda teulu fi bydden nhw’n ‘difaru glei, welest ti hi? do weles i bopeth ro’n i yno, a fi ro’n i yno ‘fyd , ro’n i yno weles i bopeth roedd hi’n lladdfa do’dd dim siawns ‘da hi, pam wnaethoch chi ddim helpu hi te? BLOCKED - mae angen dial dros ei henw hi mae’n rhaid cael dial, beth roedd ei henw hi? enw pwy? y ferch? pa ferch? sdim ots beth o’dd ei henw hi mae hi’n symbol o bob merch aberdamp Lisi oedd ei henw hi, mae’n rhaid i ni ladd y morloi i gyd cytuno i’r carn ble mae fy ffwcin gwn fi? Lisi oedd ei henw hi, sdim gwn ‘da fi rhaid i chi gael gwn, Lisi oedd ei henw hi, os na rhaid i chi brynu gwn, os na rhaid i chi ddwyn gwn.
Anrhefn oedd ei henw hi.
Digwyddodd Y Gaeaf Mawr flynyddoedd cyn i wyddonwyr ddarganfod bod goblygiadau newid hinsawdd yn waeth byth na’r rhagweliadau cytun gan 99% ohonynt. Ar ben y cynnydd o ran llifogydd, sychder, tymheredd a nerth y gwyntoedd, darganfuwyd y gallai ardaloedd penodol mor fach â thref farchnad ddenu cymysgedd gwahanol o nwyon o’r atmosffer. Gan fod cymysgedd y nwyon yn yr atmosffer yn newid mor gyflym oherwydd newid hinsawdd, gallai rhai nwyon yn cynyddu mewn rhai mannau a lleihau mewn mannau eraill - yn yr un ffordd mae sbwriel plastig yn cronni yn y cefnforedd. O ganlyniad y ffenomena hon, gallai ddiffyg ocsigen achosi poblogaeth gyfan i brofi rhithweliadau anhygoel a rhyfedd o bryd i’w gilydd ond gadael iddynt gario ymlaen a byw heb symptomau amlwg ar yr un pryd, dim ond ychydig o flinder ychwanegol a phennau tost.
Ond y darganfyddiad mwyaf syfrdanol efallai oedd chwant y ras dynol i aros fel cymuned tra bod yn dioddef. Fel y gwyddys, mae’r ras dynol yn canfod y byd o’u cwmpas fel cyfres o straeon a wnaed gan yr ymennydd ac mae rhannu’r fath straeon wedi bod yn graidd ac yn sylfaen i wareiddiad dynol ers cyn cof. Felly, wrth ddioddef o ddiffyg ocsigen, yn lle profi rhithweliadau gwahanol, penderfynodd pawb yng nghymuned tref Aberdamp rannu’r un rhithweliadau. Wel, bron pawb. Mae’na rai ym mhob cymuned sydd ar gyrion y gymdeithas gan nad ydyn nhw’n cyd-weld ag eraill nac yn perthyn i feddylfryd y gymuned.
Roedd peryg mawr i unigolion hyn ar gyrion y gymuned nad oedd yn fodlon cydymffurfio i’r un rhith ag eraill. Roedd peryg mawr i unigolion a fyddai’n cwestiynu ei synhwyrau a chwestiynau realiti y byd o’u cwmpas. Ond ni heriwyd y twyll gan y rhain hyn oherwydd, ar y cyfan, penderfynon nhw aros adre a gwylio Netflix.
Tua dwy flynedd ar ôl Y Gaeaf Mawr, darganfuwyd bod rhai rhannau o’r byd yn dioddef yn waeth nac eraill o ran y ffenomena hon. Yn ôl arbenigwyr, oherwydd newid mawr o ran y llif a ddaethai o’r Gwlff ym Mecsico, y lle a ddioddefai’r rhithweliadau gwaethaf oedd Ynys Prydain...