(Welsh translation of the poem 'Refugees' by Brian Bilston 2016)
Does dim angen help arnyn nhw
Felly peidiwch â dweud wrtho i
Gallai’r un wynebau blinderus berthyn i chithau a minnau
Pe bai tynged wedi bod yn fwy caredig iddynt
Mae angen i ninnau eu gweld nhw am bwy ydyn nhw go iawn
Gwastraffwyr a segurwyr
Pwdrod a diogwyr
Gyda bomiau yn eu bagiau
Lladron a llofruddion
Does dim pwynt sôn amdanynt yn
Cael croeso yma
Dylem sicrhau eu bod nhw’n
Mynd adre
Allan nhw ddim
Rhannu ein bwyd
Rhannu ein pentrefi
Rhannu ein gwledydd
Yn lle, gadewch i ni
Codi wal i gadw nhw mas
Dyw hi ddim yn iawn i ddweud
Dyma eneidiau sy’ fel ninnau
Dyle fro berthyn i’r rhai sy’n cael eu geni yno
Peidiwch fod mor dwp i feddwl
Gallai ddyn edrych ar y byd mewn ffordd arall
(nawr, darllenwch hon o’r waelod i’r ddechrau)
gan Brian Bilston https://brianbilston.com/
(Cyfieithiad o’r Saesneg gan Stephen Mason)