Beth yw bod yn Gymro?

neu ‘Dynol; rywsut

(ar ôl darllen cyfieithiad Saesneg o gerdd Bwyleg gan Anna Kamieńska)

“Beth yw bod yn Gymro?”

Gofynnodd y Sais.

Baich dybiwn i,

Trymedd traddodiad y tadau hen

A gollodd fy iaith ganrifoedd yn ôl,

O dan domen rhagrith crefydd

A sothach y crachach cain

A werthodd fy ngwlad

Am gadair wag yn y neuadd wen.

Cyn i mi ei hail-hawlio hi,

Cyn i mi ei hail-hennill hi,

Erw am erw, Gair am air,

Yn boenus o lafurus, o gwm i gwm.

Braint suais i,

Cân i’w chanu hi er nad oes neb

Yn gwrando; alaw werin

Sy’n ffin rhwng ddoe a heddi;

Nodau sy’n dynodi dyn.

Dewis meddwn i,

Gwacter a alwai arnaf i’w lenwi.

Ystafell aros athroniaeth estron, ac

Yn ifanc fe ddysgais hon –

Bod mur sy rhyngof innau a hithau; ac

Ni all hiraeth a hanes ddysgu

Dim ond geiriau.

Carchar gwaeddais i,

Lle mae gan eich

Cyd-garcharorion

Yr allweddi i’ch cell.

Dihangfa sibrydais i,

Hafan estron.

Lloches beryglus.

Gobaith enbyd.

“O” meddai’r Sais.

Cyn codi ei ddryll

yn ddiymdrech.

Published in Y Faner Newydd Issue 88 2019

Rhagolygon anwybodaeth a hiliaeth gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg ar gyfer Dydd Llun y deunawfed o Fedi 2017.

(cerddoriaeth heddychlon yn tawelu…) Ac yn awr, rhagolygon anwybodaeth a hiliaeth gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg ar gyfer Dydd Llun y deunawfed o Fedi 2017.

Cyflwynwyd gan Gymdeithas y Cerrig Blewog.

Mam Môn Cymru – Ynys y Cofis: trafferth mewn tafarn 8 o’r gloch, ffeit wrth y ffrwti erbyn deg, hiliaeth coc yn tawelu erbyn bore.

Penllŷn-Llithfaen: Caer wrth y môr mei ffwt 7 o’r gloch, naws conteflig erbyn nos. Siôn Corn yn siarad Saesneg erbyn fory.

Eryri-Ffestiniog: Rhybudd coch: Tai Haf; Codiad amlwg ar fryn gerllaw, arwydd newydd erbyn nos. Siawns o ffrwydrad wedyn. Trychineb economaidd erbyn bore.

Betws y Coed-Capel Curig a’r Bala: Dechrau gwlyb yng nghwm Tryweryn, gwynt cas o’r dwyrain yn parhau am ganrif. Posibilrwydd o fwy o gawodydd o gyfeiriad Lerpwl. Mor dawel â’r bedd erbyn bore.

Rhosllanerchrugog a’r Cylch: Cadw yn cael ei boddi gan ddirmyg gerllaw, deiseb erbyn nos, callio erbyn bore.

Castell Harlech-Penrhyndeudraeth: dan warchae gerllaw, cipars yn codi fel cocs conteflig ond diflannu erbyn bore, synnwyr cyffredin yn codi o’r gorllewin erbyn fory.

Machynlleth: hipi ddim yn deall hambôn yn siop y cigydd, dwrn mawr yn codi erbyn cinio, rhagrithwr yn ffoi nol i’r ffin erbyn bore. Clais coch fory.

Pontrhydybendigeidfran: Welsh Not wedi ei anghofio, hiliaeth eithafol, ymerodraethol yn codi o gyfeiriad y dwyrain.

Rhaeadr Gwy-Cwm Elan-Cwmddeuddwr: Siawns o eitem shite ar BBC Newsnight. Welsh language expert my arse. Gwahoddiad i ffasgwyr gan gorfforaeth Prydain. Gwrthod talu trwydded teledu erbyn nos. Boicott erbyn bore.

Llanbedr-Pont-Steffan-Cwm-Ann-Caio: iaith estron ar stryd wrth swyddfa’r bost, iesu bost, sais sy’n cwyno. Sen enfawr siŵr. Naws conteflig yn aros am sbel.

Mynydd Llanybydder-Llanllwni: baner croes goch yn hedfan o ffenest fflat rhyw dwat. strange looks in local shop erbyn bore. It’s rude to speak Welsh when I don’t understand erbyn fory.

Preseli: corwynt Beca yn codi, peryg i dai haf, tywydd braf wedyn.

Dinbych y Pysgod-Rhingyll y Wasgod Wen: Llyfrau Gleision, Carnhuanawc yn troi yn ei fedd erbyn nos, ysgolion Cymraeg yn codi yn de erbyn fory er poer yn codi mewn ambell gawod o’r cymoedd.

Bancyfelin-Cranc y Delyn: ffrae yn Llangennech yn ffrwydro, Western Mail yn mwydro drwy’r prynhawn, dim clem erbyn nos, llywodraeth Cymru dim polisi erbyn bore. Gweledigaeth gwael.

Merthyr Tudful: jôc am gnychu defaid erbyn fory, ha ha ffycin ha erbyn nos.

Maesteg-Rhondda: Churchill sending in the troops 1910, Nigel Farage, sending in the clowns 2016. Rhagolwg tymor hir – dim newid.

Caerffili-Credufe: dying language, waste of money i ddechrau. forced down my throat wedyn. Posibilrwydd we all speak English anyway erbyn prynhawn. Naws conteflig yn codi o’r dwyrain erbyn nos.

Penybont ar Ogwr: Rhybudd Coch: Sgymraeg: nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd, anfonwch unrhyw gwaith i’w gyfieithu. Codiad y ffordd yma wedyn. Diod Caca Mwnci a Dant y Llew. Rhybudd: Llwybr Hiliol erbyn nos.

Ystrad Mynach a Mynwy: Mandarin yn mwy o iws i blant Cymru erbyn y prynhawn, pennaeth ysgol breifat yn ymddiheuro erbyn nos, honni bod addysg Gymraeg yn beryg i blant erbyn fory.

Pont-y-Pŵl-y Fenni: despite being taught in Welsh yn codi’n gryf, I’m not anti the language but erbyn nos, posibilrwydd it’s just a Principality erbyn fory.

Y Gelli Gandryll: posibilrwydd Urdd Gobaith Cymru yn eithafol yn y bore, Boris yn Brif weinidog yn beth blydi marfles erbyn nos. Naws conteflig o gyfeiriad Llundain dan gwmwl parchusrwydd dosbarth canol erbyn fory.

Epynt-Pont-Senni: Ayho gyrcali, bara menyn MOD i ddechrau, hyfforddi ar ffermydd ar hyd y nos, dim siawns o ddychwelyd erbyn fory.

Abergwesyn-Cilmeri: Rhybudd: Llifogydd mis Rhagfyr; anodd croesi rhyd o’r gogledd, siawns bod twysog yn colli pen erbyn nos, wylit wylit erbyn fory.

Caerdydd: Rhybudd Coch: coc yn canu’r anthem, John Redwood, erchyll gychwyn cynta’, rhonc wedyn, ac yn lladd y Gymraeg bob cyfle wedyn.

Ac yn nawr, cyn darlleniad fyw Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc, nôl at ein sylwebaeth ar Garnifal Aberaeron… (cerddoriaeth reggae yn dechrau canu… fadeout)

Graddfa Hiliaeth Gwrth-Gymreig
crëwyd gan Gymdeithas y Cerrig Blewog