'Branwen, Bendigeidfran and the Banking Crisis' - published in Y Faner Newydd Issue 77 2016
“O’r holl foddau posib sydd gennym o drefnu bancio, yr un sy’ gennym heddiw yw’r gwaethaf”
Mervyn King, Governor of the Bank of England (2003-2013) ar 25ain o Hydref 2010 (tud. 21 Modernising Money)
Efallai mai’r peth pwysicaf am chwedlau yw’r gallu i ddysgu i ni wersi oesol. Mae’r themâu a geir yn y Mabinogi mor bwysig a pherthnasol ag erioed. Ond hyd yn oed wrth wybod hyn, ces i fy synnu’n ddiweddar wrth ganfod cysylltiad posib rhwng y chwedl am Ynys y Cedyrn ac Iwerddon a’r argyfwng ariannol a welir yn ein canrif ni. Wedi’r cyfan, yn y bôn, stori am ddyled yw stori Branwen ferch Llŷr ac hefyd stori am ymdrechion ofer i gadw heddwch. Oes hyd yn oed mwy o wersi i ni ddysgu o’n chwedlau heddiw yn ein byd ôl-Brexit? Rydw i wedi ymddiddori yn syniadau mudiad o’r enw ‘Positive Money’ ers y chwalfa ariannol diweddaraf yn 2008. Roeddwn i eisiau dysgu mwy am ein system ariannol ond doedd y cyfryngau na’r llywodraeth yn cynnig atebion a oedd yn hawdd llyncu heb llond bwced o halen. Roedd angen cyd-destun arnaf er mwyn deall y system economaidd a oedd yn diswyddo fy ffrindiau, bwgwth cau ysgolion fy mro ac roedd yn ceisio gwneud iechyd yn nodwedd y cyfoethog yn unig. Daeth yr ateb i mi ar ôl ymuno â Twitter. Gyda chymorth y deryn bach, fe ddarganfyddais syniadau newydd i mi wrth ddarllen gwybodaeth er wefan y mudiad ac wrth wylio’u fideos effeithiol a syml ar bynciau fel ‘Beth yw arian?’, ‘Pam mae gymaint o ddyled?’ a ‘Pam mae’r cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach fyth?’ Dysgais lawer mewn prynhawn. Ond roeddwn i eisiau dysgu llawer mwy. Penderfynais brynu copi o lyfr a gyhoeddwyd gan y dyn ifanc a sefydlodd ‘Positive Money’ sef Ben Dyson. Dechreuodd y mudiad ar ôl iddo synhwyro diddordeb yn ei syniadau ar ei flog www.BenDyson.com Enw ei lyfr yw ‘Modernising Money’ a’r dyn arall gyda’i enw arno yw Andrew Jackson. Fel mae Ben Dyson yn dweud wrth y trosiad hwn ar ei flog, roedd sylwebwyr ac ‘arbenigwyr’ yn ceisio esbonio chwalfa y system bancio fel esbonio chwalfa adeilad gan ddweud... “... mai pwysau’r bobl ynddo yn ormod. Doedd dim cais i ofyn a oedd strwythur yr adeilad ar fai.” Dyma ddetholiad o ffeithiau ysgytwol o'r llyfr: • Ceir argyfwng bancio bob 15 mlynedd ar gyfartaledd ers 1945 (Reinhart & Rogoff tud. 21) • Ceid 147 argyfwng bancio ledled y byd rhwng 1970 – 2011 (Laeven & Valencia tud.21) • Oherwydd argyfwng bancio 2008 collwyd arian gwerth o leiaf un flwyddyn gyfan o gynnyrch y byd i gyd - efallai gymaint â thair blynedd (Haldane tud.21) • Heddiw mae dros 97% o’r arian a ddefnyddir gan bobl yn y Deyrnas Unedig yn arian digidol a grëir gan y banciau preifat (broliant y clawr) • Byddai diwygio ddim ond un deddf o 1844 i stopio banciau rhag cynhyrchu eu harian eu hunain, yn ddigon i ddarparu’r DU gyda system ariannol sefydlog, llai o ddyled personol, llai o ddyled cenedlaethol ac economi llewyrchus (broliant y clawr) Mae’r awduron yn denu sylw at y diffyg tystiolaeth sydd gan esboniadau clasurol ar gyfer gwreiddiau ein system o ddefnyddio arian. Maen nhw’n cyfeirio at Aristotle ac Adam Smith sy’n cytuno bod arian wedi tarddu’n naturiol ar ôl i lafur gael ei rhannu. Yn ôl y ‘cewri’ hyn roedd rhaid i gymdeithas droi at system o gyfnewid (‘barter’) a datblygodd hynny yn system cyfnewid darnau o fetel nes ymlaen. Yn ôl y cysyniad hwn nid yw arian ddim ond arwydd neu ‘token’, neu yn ôl John Stuart Mill yn 1848 (tud. 32 MM) “There cannot, in short, be intrinsically a more insignificant thing, in the economy of society, than money...It is a machine.” Dyma’r cysyniad a gredir gan lawer heddiw o hyd. Yn ôl y dehongliad hanesyddol hwn, daw banciau nes ymlaen fel dim byd mwy na lle i bobl gadw eu metel / arian yn ddiogel. Ac felly, gan fod arian yn beth corfforol yn unig, nid yw benthyg arian yn cael effaith ar yr economi gan ei bod yn gwneud dim ond trosglwyddo adnoddau o un person i’r llall. Yn y cysyniad hwn mae banciau yn ddim byd ond ‘middle-man’. Am y rheswm hwn fe gredir gan y rhan fwyaf o arbenigwyr economaidd heddiw nad yw arian na banciau yn cael effaith economaidd. Hynny yw, dylid anwybyddu banciau wrth ystyried sut mae’r economi yn gweithio. Yn ôl tudalen 33 ar MM... “This belief means that today hardly any economic models have a place for banks, money or debt.” I’r person sy’ newydd colli ei swydd ar ôl cyflwyniad ‘Austerity’ ar ôl trychineb 2008, i’r plentyn heb ysgol lleol ac i’r claf sy’n aros am sgan ers wythnosau - mae’r diweddglo hwn i’w weld yn hollol absẃrd. A’r rheswm yw hyn; heddiw mae banciau yn creu arian o ddim. Wrth gwrs mae derbyn hwn yn beth anodd iawn i lawer o Gymry gan fod gennym barch traddodiadol enfawr at farn yr ‘ysgolheigion’ ac ar yr un pryd wedi dewis anghofio hanes ein radicaliaeth. Os bydd Cymry yn llewyrchus yn y ganrif hon a dal yn aros yn ‘Gymru’, bydd rhaid ail-ddarganfod ein radicaliaeth yn fy marn i. Ond os rydyn ni yn derbyn bod llawer o’r arbenigwyr economaidd yn anghywir beth felly yw gwir wreiddiau ein system ariannol? Yr ateb, yn ôl y llyfr hwn a’r anthropolegwr David Graeber yw hyn; dyled. Mae gennyf barch enfawr at syniadau David Graeber, anthropolegwr sydd yn gweithio nawr yn LSE yn Llundain ar ôl gael ei ‘wrthod yn ddadleuol’ o fyd academaidd yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Iâl. Yn MM mae Graeber yn mynnu “nad oes dim tystiolaeth” a ddatblygodd arian o’r system gyfnewid a bod “llwyth o dystiolaeth” o blaid honni bod hanes confensiynol ein system ariannol yn wyneb i waered. Hynny yw, ni ddechreuodd pethau gyda’r system gyfnewid cyn datblygu arian ac yna system o ddyled a chredyd. Yn hytrach, daeth y system o ddyled a chredyd yn gyntaf sef beth rydyn ni’n galw heddiw yn ‘arian rhithwir’ – ‘virtual money’. Yn ôl Graeber mae tystiolaeth anthropolegol yn cyfeirio at gymdeithas, ar ôl y rhaniad llafur, lle roedd adnoddau a nwyddau a roddwyd am ddim o fewn y gymdeithas ar yr amod y byddai’r person a dderbyniodd y nwyddau yn talu yn ôl rhywbryd yn y dyfodol. Yn ôl Graeber, byddai’r syniad o ‘berchen’ ar rywbeth yn y gymdeithas hon wedi achosi rhwygau tu fewn iddi felly datblygodd arferion y byddai’n ceisio osgoi arwain at ymryson, lladd a rhyfel. Mae Graeber yn cyfeirio at wraidd y ferf Saesneg ‘to pay’ sy’n dod o air sy’n meddwl ‘tawelu’ neu ‘to appease’. Nod arian felly oedd cadw cymdeithas yn un, yn heddychol ac yn sefydlog ac hwn felly oedd system o ddyled a chredyd. Hwn felly, yn ôl David Graeber, oedd y system a ddatblygodd yn gyntaf yn ein cymdeithas. Wrth ystyried hyn atgoffir o ddeddfau Hywel Dda. Ai chwalu ei ddeddfau call ef oedd dechrau ein system ariannol presennol a’i gelwyddau beryglus, rhyfelgar? Mae’r llyfr MM yn parhau wrth gyfeirio at y ffaith bod y ceiniogau mwyaf cynnar wedi ymddangos llawer o amser ar ôl y systemau dyled a chredyd hyn (yn Tsiena, India a’r Môr Aegeaidd rhwng tua 600-500 C.C.) Roedd hi’n ddiddorol iawn i nodi’r pwynt nesaf gan Graeber ar dud.35. Mae’n gofyn ai cyd-ddigwyddiad oedd creu system arian yn ystod cyfnod lle roedd bwgwth rhyfel a thrais ymhobman? Y bygwth hwn a fynnodd y byddai’r system dyled a chredyd, mor effeithiol rhwng pobl mewn cymdeithas sefydlog, yn newid i ddefnyddio metelau gwerthfawr. Mae Graeber yn esbonio’r newid fel hyn... “On the one hand, soldiers tend to have access to a great deal of loot, much of which consists of gold and silver, and will always seek a way to trade it for the better things in life. On the other hand, a heavily armed itinerant soldier is the very definition of a poor credit risk. The economists’ barter scenario might be absurd when applied to transactions between neighbours in the same small rural community, but when dealing with a transaction between the resident of such a community and a passing mercenary, it suddenly begins to make a great deal of sense...” (tud.35 MM) Ond sut mae hwn i gyd yn perthyn i fyd y chwedlau a’r stori am Branwen, Bendigeidfran a Matholwch? Wel, mae ambell gymhariaeth rhwng y chwedl a stori yr Eurozone a Groeg heddiw yn fy marn i. Yn y chwedl mae Iwerddon eisiau ymuno â grym Ynys y Cedyrn ac yn derbyn gwobr (priodas Branwen) sy’n creu disgwyl y byddant yn talu nôl yn y dyfodol. Nid yw cynnig ceffylau Matholwch yn wobr cystal â llaw merch y Brenin Llŷr ond dyna i gyd sydd gan wlad dlawd. Er heddwch mae Bendigeidfran yn cytuno i’r cais ac mae pawb yn dathlu. Wedyn, fe ddaw Efnisien yn ôl o hela a chwalu’r cytundeb ac mae’n rhaid i Bendigeidfran gynnig mwy o wobrau i Matholwch i gadw’r heddwch a sicrhau undeb a heddwch rhwng Ynys y Cedyrn ac Iwerddon. Mae Iwerddon yn derbyn y Pair Dadeni, gwobr fwyaf y wlad. Mae hwn yn ddigon i gynnal undeb am gyfnod ac mae mab yn cael eni i Branwen a Matholwch o’r enw Gwern. Yn y cyfamser mae teulu Matholwch, sy’n methu anghofio trais y gorffennol, yn meddwl y gallen nhw elwa’n fwy byth o’r trefniant gydag Ynys y Cedyrn ac yn ei berswadio fe i gam-drin eu gwobr fwyaf, sef Branwen. Mae’r brâd hwn yn gyfrinach nes bod Bendigeidfran yn dysgu amdano ac yno mae’n rhaid ymateb i’r sarhad rhag ofn colli awdurdod ymhlith ei bobl. Mae’r penderfyniad i rhyfela yn un emosiynol ac yn un wleidyddol er mwyn peidio colli parch ymhlith gwledydd eraill. Ond nid un rhesymegol yw. Mae’r canlyniad yn drychinebus. Ar ôl cyfnod hir o ryfela yn Iwerddon mae Ynys y Cedyrn yn ennill y frwydr ond yn colli popeth wrth ddychwelyd adre i weld bod eu gwlad wedi cael ei goresgyn gan estronwyr tramor. I mi, dyma stori Ewrop ers 2008. Iwerddon Matholwch yw gwledydd bychain fel Groeg sydd eisiau manteisio ar rym gwledydd mawr ac yn meddwl eu bod yn haeddu manteisio arnynt oherwydd y gorffennol. Bendigeidfran yw’r gwledydd mawr, pwerus, cyfoethog fel Yr Almaen sydd eisiau cadw heddwch gan wybod bod pris rhyfel yn ddrud ac yn gwerthfawrogi mantais masnach. Branwen yw braint yr Undeb Ewropeaidd a’i marchnad rydd sydd yn ffrwythlon ond sy’n cael ei cham-drin yn ofnadwy gan ddynion barus. Ond pwy (neu beth) felly yw Efnisien? Y bancwyr seicopathig yn Llundain sy’n trin yr economi fel gêm? Mae’n debyg. Mae hela a rhyfel yn gêm i Efnisien ac mae’n dwlu arni. Does dim ots ganddo am ddioddefaint nes ei bod hi’n rhy hwyr ac mae ei genedl wedi’i difetha. A dyma ni nawr wrth wynebu chwalfa Ynys y Cedyrn unwaith eto ar ôl 2008 ac ar ôl Brexit 2016. Mae ‘hedge funds’ yr estronwyr dramor yn plymio ar ein drysorau cyhoeddus fel adar ysglyfaethus er mwyn eu llowcio a’u defnyddio er mwyn hwb tymor-byr i economi sy’n creu gormodedd o gwningod tlawd. Ble mae Cymru Sydd yn y chwedl hon tybed? Ai Gwern ydyn ni? Yn grwt diniwed heb allu amddiffyn ei hunan? Ai y cyrff yn y pair dadeni ydym? Wedi ein taflu yno gan ein gwleidyddion mewn gobaith bydd rhyw hen hud yn llwyddo i greu cenedl unwaith eto? Ydyn ni’n aros ar Ynys Gwales mewn rhyw freuddwyd o genedlaetholdeb diwylliannol, wedi meddwi ar gerddi a chanu? Neu, mewn gwirionedd, ydyn ni ar goll o’n chwedl ein hunain erbyn hyn? Ydyn ni y Cymry wedi diflannu o lwyfan y prif gymeriadau? Sefyllfa bregus yw sefyllfa ein cenedl fach ar hyn o bryd. Rydyn ni ar drothwy. Gallen ni ddadeni yn y ganrif hon pe bai modd mwy o bobl ddeall y system sydd wedi bod yn ein cam-drin ni ers dros mil o flynyddoedd a’u newid er mwyn daioni pawb yng Nghymru. Neu gallem foddi mewn pair o anwybodaeth a terfysgaeth mewn byd llawn dynion fel Efnisien sy’n dychwelyd dro ar ôl dro i’n treisio ni. Mae’n amser ail-ddysgu gwers ein chwedlau mae’n debyg. Ond efallai mai’r wers hanesyddol bwysicaf i ddysgu wedi canrifoedd oll yw hyn; dydy dynion ddim yn dda wrth ddysgu gwersi hanes. Dyna’r wers gyntaf. I’r gad? ‘Modernising Money’ - Andrew Jackson & Ben Dyson 2014 - Cyhoeddwyr TJ International Ltd. Positive Money www.postivemoney.org ‘Debt: The First 5000 years’ - David Graeber 2011 - New York, Melville House Diolch hefyd i @EinCymraeg ar Trydar (a sawl deryn bach arall a’u negeseuon bach pwysig) Stephen Mason 23.07.16