Cwm Cnau Mwnci

Stori i blant (2010)

Un tro (neu efallai dau neu tri), mewn bydysawd pell-ac-eitha-agos, bu planed bach twt o’r enw Elipenelin.

Roedd Elipenelin yn blaned hynod o daclus. Roedd bob dim yn ei le a roedd lle i bob dim. Yn wir, bob blwyddyn cafodd Elipenelin wobr am fod ‘Y Planed taclusaf yn yr Alaeth’.

Ar y planed Elipenelin doedd y dail ar y coed ddim yn beiddio cwympo oddi ar y coeden ac felly arhoson nhw’n wyrdd ac yn berffaith ar y canghennau drwy’r flwyddyn i gyd.

Stryd taclus Elipenelin

Ar y planed Elipenelin blodeuodd y planhigion ddegwaith y flwyddyn ac felly roedd y planed yn lliwgar ac yn llachar fel gardd alban gwanwyn drwy’r flwyddyn i gyd.

Y dref taclusaf ar y planed taclusaf oedd Cwm Cnau Mwnci. Roedd popeth yng Nghwm Cnau Mwnci yn berffaith ei olwg. Roedd y ffyrdd, heblaw am leiniau gwyn syth, yn ddu fel y fagddu. Roedd y tai i gyd, heblaw am y ffenestri glân a gloyw yn wyn fel losin mintys. Roedd y caeau, heblaw am y blodau hyfryd, yn wyrdd fel letys ffres ac doedd dim un peth bach o sbwriel i’w cael unrhywle yn y dref.

Yng Nghwm Cnau Mwnci roedd hi yn erbyn y gyfraith i anadlu’n rhy drwm rhag ofn bod rhywbeth yn cael ei symud mas o’i le. Roedd hi hefyd yn erbyn y gyfraith i disian neu rhechen tu allan i’ch ty.

Yn ogystal, bu grwp o bobl tal, o’r enw ‘Y Glenlu’ a aethai o gwmpas y dref yn ystod y dydd yn gwneud yn siwr bod popeth yn dwt ac yn lan ac yn daclus bob amser.

O ganlyniad Y Glenlu, roedd y bobl yng Nghwm Cnau Mwnci yn hapus dros ben gan taw eu tref nhw oedd y gorau yn eu byd.

Ond am ryw reswm ddaeth dim llawer o ymwelwyr i’r dref fach rhyfedd er taw hi oedd y lle gorau yn yr alaeth. Y gwir oedd, nad oedd Cwm Cnau Mwnci yn lle croesawgar iawn. Yn lle ‘Bore da’ byddai trigolion Cwmcnoi yn cyfarch ei gilydd bob dydd gyda ‘Bydd yn daclus!’. Hefyd byddai unrhywun nad oedd yn edrych yn smart ac yn gwisgo dillad newydd yn cael eu arestio a’u taflu allan o’r dref yn syth. O ganlyniad daethai neb i aros yn y dref. (Wel, dim o fwriad ta beth!)

Ond un diwrnod daeth un ymwelydd annisgwyl, anffodus.

Drwmfolwyn Drimdod

Fel mae’n digwydd roedd dewin bach o’r enw Drwmfolwyn Drimdod ar daith olaf ei flwyddyn allan cyn mynd i goleg y dewiniaid. Roedd e wedi teithio drwy deunaw galaeth cyn cyrraedd ar Elipenelin ac roedd e wedi cael amser wych ar bob un ohonynt.

Roedd e wedi sgio i lawr mynyddoedd mawreddog Mwmbojymbo. Roedd e wedi nofio ym moreodd melyn Llyn Llaca-Sudd-Bolgi. Roedd e wedi hwylio dros rhaeadr rheibus rhewlyn Rhajacistani. 

Ac roedd e wedi goroesi bob un.

Ond wrth wneud hyn, roedd e hefyd wedi gwario ei arian i gyd ac ar ei ffordd adre roedd e’n gobeithio aros ar Elipenelin achos roedd e wedi clywed bod y gwestai am ddim. Wrth gwrs roedd rheswm da pam roedd aros mewn gwestai ar Elipenelin yn costio dim. Ond erbyn i Drwmfolwyn Drimdod gyrraedd y planed taclusaf yn yr alaeth doedd e ddim yn gwybod am hynny ac yn waeth byth roedd e’n anniben iawn ei olwg. Roedd ei wallt yn wyllt ac yn hir mewn sioc drydan o lanast gan gael ei chwythu gan y gwynt gwyllt Ogofgonstondin. Roedd ei ddillad dewinol yn frwnt ac yn llawn tyllau fel hen hances cawr ar ol parasitio yng ngheunant Jengobontwenwyn. Roedd ei het yn gam ac yn rhacs ar ol hela teigrod tanllyd Tomitintitfa.

Mrs Cola Clustdew

Felly ar ddechrau mis Mafon ar Ddydd Neifion am tua pedwar o’r gloch y prynhawn fe swyniodd y dewin ifanc ei hunan i lawr i’r planed o’i longofod a chyrhaeddodd Drwmfolwyn Drimdod ar stepen drws gwesty Mrs Cola Clustdew.

Wrth i Mrs Cola Clustdew agor ei drws a gweld y dewin bach aflan dywedodd hi

“O glendid mawr! Pwy ar Elipenelin ydych chi?”

“Helo” dywedodd y dewin bach bawlyd “Dw i’n chwilio am le i aros yn y dref fach hyfryd hon. Oes stafell gyda chi?”

Edrychodd menyw y gwesty mawr taclus ar y dewin fel pe bai’n sefyll mewn sach o sic saith mis oed. Esboniodd y dewin ei fod e wedi bod yn teithio’r alaeth ers blwyddyn ac roedd e ar fin orffen ei daith hir ac nad oedd dim dime coch gyda fe ar ôl i dalu am westy.

“Cerwch o ‘ma!” gwaeddodd Mrs Cola Clustdew mor uchel ag arth gwyllt “Rydych chi’n llygru fy llygaid ac yn halogi harddwch fy hen dref dwt a thaclus!”

Ac ar hynny caeodd y drws yn glep ar ei wyneb.

Synnodd y dewin bach bawlyd. Siomodd e hefyd. Roedd pawb ar ei daith wedi bod mor gwrtais hyd yn hyn. Ond nid felly yng Nghwm Cnau Mwnci. Am fenyw anghwrtais! Symudodd e ymlaen.

Chwifiodd y dewin ifanc ei hudlath wrth ddweud

“Wpla-bob-wpla, Jimi-gam-jam, Bant a fi, Wym-wam-bam!”

…a symudodd yn syth i stepen drws gwesty Mr Tango Wigwam.

Wrth i Mr Tango Wigwam agor ei ddrws a gweld y dewin bach bawlyd dywedodd e “O glendid mawr! Pwy ar Elipenelin ydych chi?”

“Helo” dywedodd y dewin bach bawlyd “Dw i’n chwilio am le i aros yn y dref fach hyfryd hon. Oes stafell gyda chi?”

Edrychodd dyn y gwesty mawr taclus ar y dewin fel pe bai’n sefyll mewn llaid llo llaes. Esboniodd y dewin ei fod e wedi bod yn teithio’r alaeth ers blwyddyn ac roedd e ar fin orffen ei daith hir diddorol yn y dref.

“Cerwch o ‘ma!” gwaeddodd Mr Tango Wigwam mor uchel ag arth wen wyllt “Rydych chi’n llygru fy llygaid ac yn halogi harddwch fy hen dref dwt a thaclus!”

Ac ar hynny caeodd y drws yn glep ar ei wyneb.

Synnodd y dewin bach bawlyd eto. Siomodd e eto hefyd. Roedd pawb ar ei daith hyd yn hyn wedi bod mor gwrtais a chyfeillgar. Felly, symudodd ymlaen. Tri drws i’r dewin! meddyliodd a chwifio ei hudlath unwaith eto a dweud

“Wpla-bob-wpla, Jimi-gam-jam, Bant a fi, Wym-wam-bam!”

…a symud yn syth i stepen drws y gwesty olaf yn y dref sef gwesty Mr Glawtyrfe Fan Hambon.

Wrth i Mr Glawtyrfe Fan Hambon agor ei ddrws a gweld y dewin bach bawlyd fe ddywedodd e

“O glendid mawr! Pwy ar Elipenelin ydych chi?”

“Helo” dywedodd y dewin bach aflan “Dw i’n chwilio am le i aros yn y dref fach hyfryd hon. Oes stafell gyda chi?”

Edrychodd dyn y gwesty mawr taclus ar y dewin fel pe bai’n sefyll mewn crawn cranc crychlyd y planed Crapa. Esboniodd y dewin ei fod e wedi bod yn teithio’r alaeth ers blwyddyn ac roedd e ar fin orffen ei daith hir diddorol yn y dref.

“Cerwch o ‘ma!” gwaeddodd Mr Glawtyrfe Fan Hambon mor uchel ag hen lew blinedig “Rydych chi’n llygru fy llygaid ac yn halogi harddwch fy hen dref dwt a thaclus!” Ac ar hynny caeodd y drws yn glep ar ei wyneb.

Aeth y dewin bach i symud ei hudlath unwaith eto ond cyn iddo swynio a symud i le arall tisianodd yn uchel

“Aaaaaaaaaaaaa-tisiwww!”

Roedd y dewin bach bawlyd wedi bod yn teithio mor hir ac yn cael amser mor wych roedd e wedi anghofio ffaith pwysig amdano ei hunan. Dewin bach o’r planed  Didarog 12 oedd ef ac roedd pawb o’r planed hapus hynny yn mynd yn sal pe bai’n cael eu siomi oherwydd unrhyw dristwch mawr. Roedd pobl Cwm Cnau Mwnci wedi siomi fe gymaint mewn deg munud wrth wrthod e dairgwaith fe allai Drwmfolwyn Drimdod deimlo annwyd mawr yn tyfu o tu fewn ei drwyn.

Ac ar hynny fe ddechreuodd y dewin bach bawlyd disian fel trên ager mynd lan allt serth ar llethrau mynyddoedd mawreddog Mynmbojymbo.

“Aaa-tisw! Aaa-tisw! Aaa-tisw!” ffrwydrodd y dewin

A chyda bob tisian diflanodd. A chyda’r un nesaf ymddangosodd rhywle arall yn y dref. A chyda bob tisian taflodd ei drwyn y snotiau mwya lliwgar dros y palmant mawr perffaith. A chyda bob tisian roedd y dewin bach aflan yn creu cawlach o lanast mawr yn y dref daclusaf yn y alaeth.

Erbyn pump o’r gloch ar Ddydd Neifion ym mis Mafon ar y planed Elipenelin roedd smotiau gwyrdd, glas a gwyn dros bob stryd a phalmant, ym mhob cae a gardd ac ar bob to a wal Cwm Cnau Mwnci.

Fel arfer roedd dewiniaid o’r planed Didarog 12 yn tisian am ddim mwy na deg munud ar ôl cael eu siomi ond roedd Dromfolwyn Drimodod wedi’i siomi gymaint gan ddiffyg groeso pobl Cwm Cnau Mwnci roedd e’n dal i disian ar ôl awr. Ac roedd e’n methu stopio.

Cyn bo hir, cyrhaedodd ‘Y Glenlu’ i weld y llanast ac arestio pwy bynnag roedd wedi creu sut cawl o liw ar strydoedd tref lanaf yr aleath. Daeth Mrs Cola Clustdew allan hefyd. A Mr Tango Wigwam . A Mr Glantyrfe Fan Hambon. Chwiliodd pawb am y trosdeddwr drwg a oedd wedi llygru eu llygaid ac wedi halogi harddwch eu hen dref dwt a thaclus.

Ond roedd y dewin wedi diflannu.

Felly, fe geisiodd ‘Y Glenlu’ i olchi’r snot o’r palmant a’r waliau ond er gwaethaf bob ymdrech enfawr a phob math o lanedydd cryf a glanhedydd hylif a glanhedydd llawndrochion – methon nhw olchi’r staenau oddi ar y dref.

Y Flwyddyn nesaf, collodd Cwm Cnau Mwnci y wobr am Dref Daclusaf yr alaeth.

Felly, y tro nesaf rydych chi’n cerdded i lawr y stryd yn eich tref chi, edrychwch ar y palmant. Oes smotiau gwyn brwnt fel snot dewin bach bawlyd? A fyddai’ch tref chi ennil wobr am dref taclusaf yr alaeth?

2010

Y Diwedd

Morloi

Daeth Y Gaeaf Mawr, a gwisgodd y tywydd yn glown â’i esgidiau llwyd, lletchwith yn dansang drwy strydoedd Aberdamp, a glawio’n ddibaid ers dwy fis, ers tair mis, ers pedair mis gan foddi bob enaid o dan fensicus cas. Ac anghofiwyd gan bawb erbyn hyn, dyma’r amser y daeth y morloi mawr cochion i rwstio ar doeon llech y dref. Daethon nhw fel hen atgofion wedi’i herthylu uwch ein pennau, fel miloedd o addunedau wedi’i torri erbyn yr ail ddiwrnod o phob blwyddyn newydd. Eisteddent yn fud o fore tan nos a dweud yn ddieiriau y byddant yn byw yno yn hir ar ôl i drigolion Aberdamp gladdu ei gilydd. Addurnent y dref fel tafodau tew chwilfrydig a flasai pob munud a wastraffwyd islaw’r llech ansad. Pam morloi? Ni fentrai neb ateb gwestiwn mor astrus. 
Ar doeon tamp Aberdamp, llithro wnaethai sawl morlo mawr coch ar y llech llwyd slic, gan floeddio, poeri a pheswch rhaeadr o floneg ar ei ffordd i lawr i lanio ar ben yr hen bobl tlawd islaw. Gallai dirgelwch disgyrchiant a más morlo mawr ladd yr hen a’r araf a’r twp - mor hawdd â glaw yn gwlychu afon a daeth angau yn ffordd o fyw y gaeaf hwnnw a daeth gwadu yn ffordd o fod.
Erbyn y gwanwyn roedd hi’n glawio morloi. Roedd crwydro mas o’ch tai fel chwarae’r loteri, ond gyda mwy o siawns fyth o golli a llawer mwy byth o golli’ch bywyd. Doedd neb yn gwybod o ble daeth y morloi mawr cochion na pham roedden nhw wedi dewis ymgartrefu ar doeau’r dref yn lle aros ar y traeth gerllaw. Doedd neb yn gwybod sut y llwyddon nhw gyrraedd y toeau gan nad oedd adennydd na fforclifft gyda nhw. Doedd neb eisiau gwybod. Roedd bywyd yn ddigon anodd heb feddwl am y fath beth nad oedd synnwyr cyffredin yn gallu cael gafael ynddi. 

Carfan fach o bobl a fynnai mai nhw a ragwelasai hyn oll flynyddoedd yn ôl. Carfan fach arall o bobl a fynnai mai nhw a rybuddiodd pawb o’r perygl o adael anifeiliaid eraill rwstio ar doeau dynion. Ar ôl croesawu’r adar, medden nhw, roedd disgwyl morloi cochion yn anochel. Ond sibrwd wnaeth y rhai hyn wrth gymharu â gwaedd y garfan fechan a fynnai’n uchel ac yn groch nad oedd y morloi yn bodoli o gwbl a mai twyll a rhith oedd y nonsens morloi hyn i gyd. Roedd y fath beth â morloi yn byw ar doeau yn gelwydd amlwg na ddylai neb call gredu pe bai’n byw yn gant oed. Dyna oedd craidd maniffesto Maniffesto – mudiad y rhai nad oedd yn credu eu llygaid, na chredu pobl eraill, na chredu mewn dim byd ond gwadu’r gwir; bod morloi cochion yn rwstio ar doeon llech y dref ac yn llithro i lawr a lladd ei thrigolion. 

Mrs Modlen Slafignoma oedd un o’r rhai cyntaf i farw; ar ei ffordd i gasglu ei phensiwn o’r hen swyddfa’r bost oedd bellach yn siop a werthai crisialau, dalwyr breuddwydion a crap o bob siap. Ar ei ffordd oedd hi i brynu sexy stockings i hudo’i gwr oedd wedi hen farw ac yn ei fedd ers ugain mlynedd. Ar ei ffordd yn y glaw mân oedd hi, gan wrgnach ar ei gŵr am beidio golchi’r llestri y bore hwnnw. Dyna pan laniodd lwmpyn mawr o forlo fenyw, o’r enw Bien-ffw, ar ei phen a’i lladd hi yn y fan a’r lle. Llithro ar y llech llwyd slic uwchben wnaethai Bien-ffw, a phob chwarae teg iddi, bloeddio rhybudd uchel i’r wlad i gyd wrth blymio tuag at y palmant. Rhybudd mor uchel nad oedd modd i neb ar dir byw i’w hanwybyddu. Ond roedd Modlen yn ymgorfforiad o’r ddadl ein bod ni i gyd yn marw o funud gyntaf ein geni; roedd hi wedi bod yn hen wraig ers gadael yr ysgol yn un ar bymtheg ac yn fyddar ers hanner canrif. Yn ei gwedd a’i harfer roedd hi’n hen ers talwm. Time capsule o ddynes oedd Modlen nad oedd neb wedi cofio ei hagor.  Roedd cof Modlen yn llawn chwedlau coll y chwedegau nad oedd yn sôn am haf y cariad, hawliau sifil na gwrthryfel ffeministaidd. Darllenai Mills and Boon a gwyliai ddim byd ond rhaglenni’r BBC heb yr isdeitlau. Roedd hi’n prynu UK Knitting Magazine bob mis a byth wedi cyffwrdd â ffôn symudol. Glaniodd Bien-ffw ar gefn Modlen gan chwalu ei fertebra seithgwaith yn syth cyn malu ei phenglog fregus ar gerrig y stryd jyst tu allan i Asiantwyr Tai Machen & Tosh. Dyna lanast.
Wrth glywed y sŵn, brysiasai Mr Machen a Mr Tosh, oedd yn digwydd bod yn ffans mawr o CSI Aberystwyth, allan i archwilio’r lle roedden nhw’n glanhau mor dwt bob bore cyn agor eu siop. Gwelon nhw olygfa ffilm arswyd o’r radd isaf. Doedd dim modd dweud beth roedd yn garthen a beth roedd yn gnawd. Chwydodd Mr Tosh yn y fan a’r lle wrth i Bien-ffw, oedd yn fyw ac yn iach, garlamu i ffwrdd i lawr i London Lane er mwyn dychwelyd i’w chynefin a gweddil y morloi ar lech llwyd slic toeon tamp Aberdamp.
O fewn funudau, fe ffrwydrodd bomiau moc-sioc gan y rhai clyfr-syfrdan ar Ffesbwc a difa pawb yn y dre.

Ond ro’n ni i gyd yn lwcus, gallai mwy wedi marw, ond bendith o’dd hi t’wel, bendith mowr i Modlen, o’t ti’n nabod hi? Naddo ro’dd hi’n hen iawn t’wel, a ddim yn iawn yn ei phwyll, she’d lost her marbles, ers colli ei gwr hi? Mae’n debyg, hedd ar ei llwch hi, ro’dd hi mor fregus a thenau, ‘rhen wrach, ‘dw i’n siwr o’dd hi’n unig iawn, do’dd ‘run ffrind ‘da hi, sai’n credu ro’dd hi’n fenyw anhapus iawn er ‘yn, ro’dd hi wedi byw bywyd llawn a llon, o’dd teulu gyda hi? Gellid prynu marbles ar marbles.com, pam? Ti wedi colli rhai ti? Wes wes, rodd mab ‘da hi byw yn Llunden, gweitho mewn banc teithio’r byd mewn awyren wedi’i ladd mewn damwen sgïo yn Tanzania, dyna dr’eni, o’s rhywun wedi dwêd wrtho? Ma’ fe wedi marw ychan! Wedi marw? ‘Na dr’eni, sgïo yn Tanzania wedest ti? Dewch ar wyliau i Tanzania! Sgïo gorau’r cyfandir! Wel, pwy fysa’n meddwl? Bendith iddo fe hefyd mae’n debyg, do’s dim becso amdani bellach, sut ma’n nhw’n sgïo yn Tanzania? Mae fe wedi marw ychan! Pwy? Ei gwr hi, ei gwr hi? Na, ei mab hi. Roedd ei gwr Colin yn hen fastad slei, fe glywes i fod e’n shelffo gwragedd y golf club ers talwm, o’dd pawb yn gwbod hynny cariad, o’dd y dref i gyd yn gwbod ond am Modlen druan, o’dd hi’n gwbod? Yr hen bastad slei ‘nath e farw o AIDS yn ôl y Journal. A Hepatitis A. A Hepatitis B. Hedd ar ei lwch ef, hedd ar ei hepatitis ef hefyd, mae teimladau gan firysys hefyd t’wel’ glywes i, maen nhw’n fyw fel ninne, gafodd ei amlosgi? Pwy? Hepatitis. Dangos canlyniadau am ‘Ei gwr hi’. Chwilio yn lle am ‘Ei mab hi’. Est ti i angladd Modlen? Os mae smotiau coch fel hyn gennych mae’n bosib bod Hepatitis X gyda chi. Ewch i weld eich GP. Do, o’dd good turnout yno? Naddo, o’n i’n dost, gannoedd yno yn ôl y Journal ond dim ond o achos y morlo coch, ie wrth gwrs, o achos y morlo mawr coch, gallai wedi bod yn un ohonon ni siwr dduw! Drwy ras Duw! Ti ‘di arwyddo’r deiseb? Do, pe bai rhywun arall wedi bod yn cerdded i’r hen swyddfa’r bost bydden nhw wedi ca’l hi, siwr dduw! Diolch i dduw! Ro’dd y te wedyn yn siomedig iawn ti’mod dim digon o sandwiches fysech chi wedi meddwl bydden nhw wedi trefnu digon o sandwiches - MA’ PAWB YN BY’TA BLYDI SANDWICHES! So fi’n lico rhai brown dim ond bara gwyn, o’dd digon o rai gwyn yno? Naddo? Sgandal! Do’dd neb yn haeddu hynny am ffordd i farw hap a damwain oedd hi ‘dyn ni i gyd yn un gam i ffwrdd o fflamau uffern! Ro’dd Modlen yn anlwcus iawn, one in a million chance medden nhw, mae’n ddigon hawdd osgoi morlo coch os chi’n ddigon ifanc i glywed nhw’n cwympo, dim ond yr hen sy’ mewn peryg mae’n debyg, arhoswch adref ac achub eich bywyd, wel, dyna ni te, gwell i ni i gyd aros adre felly, man a man, ‘sdim byd gyda ni i wneud tu fas ta beth, mae’n ffycin piso lawr ‘to, ma’r palmant yn slic, slica’r pafin, tryma’r morlo glywes i, fe glywes i fod ei gwr Colin yn baedoffeil fel Jimmy Saville, hollol wir, wedes i do? Ro’dd hi’n fendith mowr i Modlen t’wel. Diolch i dduw am y morloi.

Wythnos wedyn, roedd y glaw dal yn bwrw’n drymach na dryll awtomatig ac roedd Bien-ffw yn lladd unwaith eto. Yr un nesaf i farw ar ôl Mrs Slavicnoma oedd Mr Khan ar ei ffordd i agor Siop Cebab Cymru tra bod yn ymlwybro’n hamddenol ar hyd Churchill Street. Roedd Bien-ffw yn ei rwst uwchben a daeth haid o frain i brotestio iddi am golli eu cynefin. Crawciodd y brain a becso Bienffw fel dosbarth drwg yn herio athro cyflenwi. Chwarddodd y brain yn ei hwyneb a chan fod Bien-ffw’n feichiog erbyn hyn roedd hi’n trio peidio symud gormod a gobeithio am help o weddill y morloi cochion. Ond fe ddaeth dim help oddi wrth gweddill ei math. Roedd bob un yn canolbwyntio’n hunanol ar aros ar lech slic eu toeon nhw. Bodolaeth gwegil yw rwstio ar do Cymreig. Felly parhaodd y brain i’w herio a dechrau pigo ar groen ei chefn. Er peidio trio, fflachiodd Bien-ffw ei chynffon byr a bwrw un brân yn glatsien ar ei big mawr du. Ond wrth fflicio’n grac mor sydyn, wnaeth hi golli gafael unwaith eto ar y llech llwyd slic a dechrau rholio i lawr y to uwchben Mr Khan tra bod y brain yn crawcio buddugoliaeth ar y llech. Bloeddiodd Bien-ffw yn uchel yn iaith Morloëg a rhoi rhybudd i’r byd i gyd ond doedd e ddim yn rhybudd o gwbl i Mr Khan oedd yn gaeth i’w glustffonau a phodlediad diweddara’ Radio Cymru. Roedd e’n gwrando ar raglen Tudur Owen. Torrodd Bienffw (a’r llo bach yn ei groth) wddf Mr Khan a’i gadael ef yno yn marw yn araf, mewn poen ofnadwy, gyda’i glustffonau’n ynghrog yn ei linyn cefn. Fel carreg yn glanio ar bancosen.
Nes ymlaen, byddai rhai yn rhoi’r bai am y morloi mawr cochion ar Tudur Owen a’i raglen radio.
Daeth dicter arlein o fewn yr awr.

Am ddamwain ofnadwy! Ergyd mawr i’w deulu, maen nhw i gyd yn ein meddyliau ni ar yr adeg hon, pwy ydyn nhw? Sai’n nabod nhw, mae ein cydymdeimlad ni gyda nhw i gyd hefyd, mae ein cariad gyda nhw hefyd, pwy? Beth am #hashnod?  Ma’ fe’n haeddu #hashnod o leiaf, fe oedd un o’r rhai da ohynyn nhw #heddareilwchmrkhan, #sorimrkhan #safwngydaMrKhan,  am drueni! Hoffwn alw ar bob gymuned i weddio dros deulu Mr Khan, dyw blydi gweddïo ddim yn helpu neb g’boi, ydyn nhw’n gweddïo hefyd? Nhw? Ie, nhw. Sain gwbod, wrth gwrs maen nhw’n gweddïo maen nhw’n gweddïo ddegwaith y diwrnod mewn masg, doedd mr khan ddim yn gwisgo masg, roedd e’n gwisgo tyrbin y twpsyn, o’n in meddwl fod e’n hindw o Bacistan, roedd e’n hollol iach, heb golli diwrnod o waith yn ei fywyd, roedd e wastad yn gwenu a jocan yn y siop cebab, ‘shwmae bois?’ meddai fe, ‘be chi moyn bois?’ meddai fe, ‘dewch eto bois!’ meddai fe, on i wastad yn lico fe, o’dd fy mam yn ffrind gyda’i wraig e, byddai’n gweld hi yn Aldis dy’ sadwrn ond sai’n lico’r ffaith bod nhw’n gwisgo’r pants mawr od, pwy? Nhw. Pwy ‘dyn nhw felly? Nid ninnau, nhw! Mormons myn, mae’n sôn am mormons. Mae’r pants mawr hyn ar gael nawr am £3.99 am becyn o wyth, un am bob dydd o’r wythnos Celtiadd, Dangos canlyniadau am ddillad isaf. Chwilio eto am Victoria’s Secret lingerie, pa bants? Dillad isaf gorau Ewrop gboi. Ydyn nhw sy’n lico canu? Pwy? Mormyns myn. Un ohonyn nhw sgwennodd ‘Delilah’ i tom jones, doedd mr khan ddim yn lico canu weles i fe byth yn canu gyda’r male voice, yeah, typical paki, never bothered integrating, fydd ei deulu yn aros neu mynd adref? Mynd adref? send them all home retweet if you agree Maen nhw’n byw lan yr heol myn uffern i, mae ei blant Heledd a Jac yn y ffrwd Gymraeg yn y cynradd, ware teg iddyn nhw yfe, ware teg am drio dysgu’r iaith, dysgu? O’dd Leo Khan yn rhugl, es i i’r ysgol gyda fe, cafodd ei eni yma yn Aberdamp, bollocks did he! BLOCKED. Beth am y morloi? ‘Sdim bai ar y morloi, mae’n ffws mawr dros ddim byd pwy sy’n dweud bod morloi ar y toeon? Wyt ti wedi gweld nhw? NHW? NHW!!?? So fi wedi gweld un morlo mae hwn i gyd yn fake news g’boi, mae llawer mwy o fai ar y clustffonau twp roedd e’n gwisgo a’r rhaglen dwp ‘na ar y radio, sneb yn gwrando ar y radio bellach, wastraff o arian y trethdalwyr, so fi’n talu treth i dalu am y sothach sy’ ar blydi EsPedwarEc, ers pryd ti’n talu treth? Fi’n talu digon diolch yn fawr, ond ma’ pawb yn cadw stash yn y Caymans y dyddie hyn, ma’ pobl yn byw yn eu byd eu hunain y dyddie hyn, hen bryd i ni gael gwared o Radio Cymru, ydy’r siop cebab dal ar agor? Odi, mae ei frawd Geraint wedi dod lan o Gaerdydd i redeg e, brawd pwy? Leo Khan. Boi siop y cebab? Ie. Fi’n lico Mr Khan. Ma’fe wedi marw myn. Sut? Ffycin morlo coch. Bastads! Ro’dd yn meddwl am ymddeol. O’dd yn meddwl am ymddeol? Dim ond tri deg pump o’dd e, ond ro’dd stash gyda fe yn y Caymans medden nhw, nhw? Nhw. PWY YFFACH YDYN NHW!!? Ma’r ffycar wedi blocio fi. Rydyn ni’n gallu rhoi’r cyngor gorau am sut i gael eich arian i weithio’n galetach, ffoniwch am ddim ar 0800 555123, wi’n ffansio cebab nawr, ti moyn peint gynta’? so fi’n mynd mas, alet ti ôl tecâwê i mi? Man a man, ot ti’n nabod mr khan? pwy? Do, ro’n i yn yr ysgol gyda fe, wir? Ie. Rhaid i fi ga’l ffags gynta, oes gêm arno? Wedi’i gohirio, o achos y morloi.

Ar ôl ei hail lofrudd, cafodd Bien-ffw ei hachub gan elusen lleol o’r enw ‘Cyfeillion y Morloi Aberdamp’ a’i hail-leoli i rwst newydd yn bell bell i ffwrdd o ganol y dref, yn bellach lan Dyffryn Nobath. Fyddai llawer llai o siawns llithro a lladd neb yna. Roedd gwirfoddolwyr brwd Cyfeillion y Morloi Aberdamp yn weddol siwr nad oedd Wendy (yr enw a roddwyd iddi ganddynt) yn llofrudd ond roedd ofn arnynt y byddai rhywun cyn bo hir yn mynnu dial ar y morlo coch druan pe bai ei bloneg yn digwydd bownsio ar ben un person arall. Cyhoeddodd y grŵp lythyr yn y Journal hefyd i ddatgan nad oedd Wendy yn ‘forlo ffyrnig’ a ‘laddai dynion er mwyn yfed eu gwaed’. Cyhoeddwyd y llythyr gan fod si ar led bod Wendy yn ‘llofrudd di-drugaredd’ ac roedd y grŵp eisiau rhoi stop ar y clecs wrth gyflwyno’r ffeithiau. Wrth gwrs gweithwyr y Journal wnaeth ddechrau’r clecs am y morloi yn yfed gwaed eu ‘fictims’. Felly, yn anffodus, gwnaeth y llythyr ddim byd ond corddi mwy o ddiddordeb yn ‘Wendy’ a’i llo newydd oedd yn cael ei alw’n yn ‘hedyn y diafol’ yn barod. O ganlyniad hyn oll, symudwyd Wendy yn bellach allan o’r dref i fyw ar do hen gapel gwag mewn pentref anghysbell. Yno, cwympodd mewn cariad â hwrdd cryf o’r enw Berwyn o’r cae drws nesaf a dechrau busnes bach lleol yn gwerthu gwlân. Ond dyna stori arall.

Yn y cyfamser, nôl yn Aberdamp, roedd hi’n dal yn bwrw glaw ac roedd y trigolion yn frysur newid y ffordd roedden nhw’n byw a cheisio ‘byw gyda’r morloi’. Gosodwyd rhwydi mawr cryf ar ymylon y toeau i ddala morloi wnaeth lithro a chwympo. Er hynny, fe gerddai pawb o gwmpas wrth edrych lan ar doeon y dref, rhag ofn bod morlo yn llithro o’r llech a syrthio’n seren gwlyb ar eu pennau. Er hynny roedd rhai a fynnai syllu i lawr ar dyllau’r heol gan obeithio am angau glou i orffen eu bywydau di bwrpas diysytyr. Am ryddhad fyddai angau mor glou, meddai eu meddyliau cudd. Y rheswm am y fath agwedd? Nid angau fel ‘na oedd ar gael yn Aberdamp fel arfer. Roedd marw fel ‘na braidd yn egsotig. Nawr, roedd bob trip i’r Co-op yn antur. Nawr, roedd siopa yn saffari peryglus. Roedd y morloi mawr coch wedi dod â phawb yn y dref i fyw yn y foment a gwerthfawrogi bob munud ohoni. Roedd y morloi mawr wedi agor epoch newydd.
Ond yna, fe stopiodd y glaw. Am dri diwrnod cyfan ym mis Mawrth. A thorheulodd y morloi a’r brain ar doeon llech sych y dref heb gwympo mas. Cerddodd pawb o gwmpas y dref gan wenu’n braf a siarad ac oedi’n ddigonol wrth fynd o gwmpas Aberdamp. Ond, tu fewn, roedd eu calonnau’n suddo.
Ond ar ôl tri diwrnod sych dan awyr las Duw ei hunan, dechreuodd y glaw unwaith eto (yn ôl y rhai digon lwcus i fyw gyda ffenestri a gweld y newid heb ddibynnu ar ffynhonnell ail law). Yn ôl Lorna Lloyd o’r Lamb Hotel, ar ei ffôn gyda’i chwaer, ‘roedd hi’n piso lawr’. Roedd yr heol yn afon a’r afon yn fôr. Ac roedd y môr yn, wel, anghofiwn ni am y môr am nawr. Ond mae’r llanw yn codi ac yn codi.
Digwyddodd tra bod Lorna Lloyd ar ei ffôn gyda’i chwaer ac roedd ei merch Lisi yn rhedeg drwy’r glaw yn trio dala lan gyda hi, yn trio ymestyn am law diogel ei mam er mwyn croesi’r heol i fynd i’r dry cleaners. Digwyddodd tra bod Lorna Lloyd ar ei ffôn gyda’i chwaer gan ddweud wrthi bod hi’n pisio i lawr ac felly nid oedd Lorna Lloyd yn sylwi’n syth bod ei merch tair oed pum mis wedi marw. Trueni mawr nad oedd ffenest yn nhŷ chwaer Lorna Lloyd. Gyda chymorth ffenestri, efallai na fyddai angen i’w chwaer ffonio hi a dweud ei bod hi’n bwrw glaw yn y dre’.
Byddai rhai yn rhoi’r bai ar y llywodraeth a rhaglen Tudur Owen.
Byddai rhai yn rhoi’r bai ar ddiffyg ffenestri. 

Byddai rhai yn galw ar ddeiseb i osod deddf oedd yn gorfodi pawb i edrych allan o’r ffenest bob bore i weld pa fath o dywydd oedd hi. Rhag ofn i rywbeth mor erchyll ddigwydd eto yn Aberdamp.
Byddai llawer mwy yn rhoi’r bai ar y morloi cochion. Digon oedd digon. Lladdwyd merch fach. Digwyddodd fel hyn. Cwerylodd, llithro a syrthio wnaeth tri tarw mawr o forloi oddi ar do’r banc a glanio’n glep ar Lisi Lloyd fach. Yn hytrach, glaniodd un ar Lizzy Lloyd a’r ddau arall ar yr un cyntaf. Doedd dim byd ar ôl o’r ferch fach ond rhyw salsa Haribos a darnau o esgyrn cawslyd. 
Gwaeddodd ei mam. Y tro yma fe glywodd pawb y sgrech.

...y ffycin bastads!  wna i ffycin lladd nhw i gyd! tair oed oedd hi! tair blydi oed! mae meddwl amdani yn hala fi’n dost, roedd degau o’r morloi cochion yno yn ôl bob sôn cant! mil! Lisi oedd ei henw hi. doedd dim siawns gyda hi i ddianc doedd dim cyfle i’w achub hi meddai ei mam bob un yn darw yn ysu am waed dynol! rhwygodd ei chnawd yn rhacs yn ddi-drugaredd medden nhw, dydyn nhw ddim yn haeddu trugaredd – lladdwch nhw i gyd! roedd hi ar ei ffordd i gael te yn nhŷ ei mamgu medden nhw roedd hi ar lwybr drwy’r coed tywyll pan ddaeth y blaidd a llowcio hi’n gyfan, roedd hi’n methu mynd i’r ball, roedd y frenhines gas wedi hala heliwr i’w lladd hi, ble ma’ ffwcin gwn fi? Lisi oedd ei henw hi. Mae’n hen bryd i ni ddangos iddyn nhw pwy sy’n byw yma yn aberdamp y ffycin bastads!  wna i ffycin lladd nhw i gyd! tair oed oedd hi! tair blydi oed! mae meddwl amdani yn hala fi’n dost roedd cannoedd yno yn ôl bob sôn! cannoedd! miloedd! drych ar y lluniau hyn, mae’r lluniau hyn yn dweud y cyfan, drych ar y fideo o’r CCTV, doedd dim siawns gan y ferch beth pe bai dy ferch di’n cwrdd a morlo? fyset ti’n fodlon iddi fynd mas ar ei phen ei hunan nawr? na! pe ba’i diawled yn trio fe gyda teulu fi bydden nhw’n ‘difaru glei, welest ti hi? do weles i bopeth ro’n i yno, a fi ro’n i yno ‘fyd , ro’n i yno weles i bopeth roedd hi’n lladdfa do’dd dim siawns ‘da hi, pam wnaethoch chi ddim helpu hi te? BLOCKED - mae angen dial dros ei henw hi mae’n rhaid cael dial, beth roedd ei henw hi? enw pwy? y ferch? pa ferch? sdim ots beth o’dd ei henw hi mae hi’n symbol o bob merch aberdamp Lisi oedd ei henw hi, mae’n rhaid i ni ladd y morloi i gyd cytuno i’r carn ble mae fy ffwcin gwn fi? Lisi oedd ei henw hi, sdim gwn ‘da fi rhaid i chi gael gwn, Lisi oedd ei henw hi, os na rhaid i chi brynu gwn, os na rhaid i chi ddwyn gwn. 
Anrhefn oedd ei henw hi.

Digwyddodd Y Gaeaf Mawr flynyddoedd cyn i wyddonwyr ddarganfod bod goblygiadau newid hinsawdd yn waeth byth na’r rhagweliadau cytun gan 99% ohonynt. Ar ben y cynnydd o ran llifogydd, sychder, tymheredd a nerth y gwyntoedd, darganfuwyd y gallai ardaloedd penodol mor fach â thref farchnad ddenu cymysgedd gwahanol o nwyon o’r atmosffer. Gan fod cymysgedd y nwyon yn yr atmosffer yn newid mor gyflym oherwydd newid hinsawdd, gallai rhai nwyon yn cynyddu mewn rhai mannau a lleihau mewn mannau eraill - yn yr un ffordd mae sbwriel plastig yn cronni yn y cefnforedd. O ganlyniad y ffenomena hon, gallai ddiffyg ocsigen achosi poblogaeth gyfan i brofi rhithweliadau anhygoel a rhyfedd o bryd i’w gilydd ond gadael iddynt gario ymlaen a byw heb symptomau amlwg ar yr un pryd, dim ond ychydig o flinder ychwanegol a phennau tost.
Ond y darganfyddiad mwyaf syfrdanol efallai oedd chwant y ras dynol i aros fel cymuned tra bod yn dioddef. Fel y gwyddys, mae’r ras dynol yn canfod y byd o’u cwmpas fel cyfres o straeon a wnaed gan yr ymennydd ac mae rhannu’r fath straeon wedi bod yn graidd ac yn sylfaen i wareiddiad dynol ers cyn cof. Felly, wrth ddioddef o ddiffyg ocsigen, yn lle profi rhithweliadau gwahanol, penderfynodd pawb yng nghymuned tref Aberdamp rannu’r un rhithweliadau. Wel, bron pawb. Mae’na rai ym mhob cymuned sydd ar gyrion y gymdeithas gan nad ydyn nhw’n cyd-weld ag eraill nac yn perthyn i feddylfryd y gymuned. 
Roedd peryg mawr i unigolion hyn ar gyrion y gymuned nad oedd yn fodlon cydymffurfio i’r un rhith ag eraill. Roedd peryg mawr i unigolion a fyddai’n cwestiynu ei synhwyrau a chwestiynau realiti y byd o’u cwmpas. Ond ni heriwyd y twyll gan y rhain hyn oherwydd, ar y cyfan, penderfynon nhw aros adre a gwylio Netflix.

Tua dwy flynedd ar ôl Y Gaeaf Mawr, darganfuwyd bod rhai rhannau o’r byd yn dioddef yn waeth nac eraill o ran y ffenomena hon. Yn ôl arbenigwyr, oherwydd newid mawr o ran y llif a ddaethai o’r Gwlff ym Mecsico, y lle a ddioddefai’r rhithweliadau gwaethaf oedd Ynys Prydain... 

Y Bont

“Ro’n i’n stiff ac yn oer, pont oeddwn, gorweddais dros geunant.”

Y Bont – Franz Kafka

Annwyl Rhianona,

Mae’n bleser pur i ysgrifennu atat ti ond yn loes enfawr nad wyt ti yma gyda fi heddiw. Gobeithio fod di’n hapus ac yn iach yn y dyddiau rhyfedd newydd hyn. Mae’r pellter sydd rhyngddom yn gallu teimlo’n enfawr weithiau ond dyw hi ddim. Ond os rydyn ni’n cario ymlaen i ddweud storïau wrth ein gilydd, nid oes y fath bellter. Diolch am dy gwestiwn diweddaraf. Dyma fy stori yn isod. Bydd yn gryf.

llawer o gariad,

Tadcu x

Mae llwybr bywyd yn dibynnu ar y fath o storïau mae person yn dewis i’w credu a’r math o storïau mae person yn dewis i beidio eu credu. Mae’na reswm syml am hyn; gwelwn ein byd ni drwy ein storïau ni. Ac mae’r ffordd rydyn ni’n gweld y byd yn penderfynu ar ba fath o berson y byddi di. Wyt ti’n credu storïau Dafydd a Goliath a’r Samariad Da? Neu wyt ti’n credu stori Ela Ulw a Branwen a Rhiannon? Efallai dy fod di’n credu’r ddwy. Wyt ti’n credu stori democratiaeth, tegwch a chyfartalwch? Neu wyt ti’n credu storïau Hitler, Stalin, Pinochet a Trump? Wyt ti’n credu storïau Rosa Parkes ac Eileen Beasley? Neu wyt ti’n credu’r mîms ar Ffesbwc ac Instagram?  Mae’r ymennydd yn dy ben yn fraster plastig sy’n gaeth mewn penglog tywyll. Nid octopws wyt ti. Mae’r ymennydd hwnnw yn creu storïau i wneud synnwyr o’r byd er mwyn helpu ti i oroesi. Dyna’i swydd ers miloedd o flynyddoedd; dy storïwr personol neu ‘cyfarwydd’ yng ngeiriau’r hynafiaid, os mynni di. Ac mae’r braster plastig yn dy ben sy’n stôrïwr yn newid o hyd ond yn enwedig yn ystod yr arddegau. Felly, mae’n bwysig dros ben bod dy ben yn casglu’r straeon cywir yn y dyddiau rhyfedd hyn, oherwydd erbyn hyn, dydy dim ond goroesi ddim yn ddigon i ddyn na ddynes. Nid dafad wyt ti. Mae’n rhaid darllen pobl hefyd.

Mae gan bob stori dechrau, canol a diwedd ac mae gan bob fywyd ddechrau, canol a diwedd. Felly beth fydd dy stori di? Pwy a ŵyr. Ond dyna ein byd ni; dewis credu neu dewis i beidio credu, fesul stori. Storïau newyddion, storïau am sêr enwog, storïau trychinebau, storïau am arwyr. Does dim llawer wedi newid llawer ers oes Taliesin a ganodd am eiriau dewr Urien Rheged ym mrwydr Argoed Llwyfain yn erbyn arweinydd y gelyn o’r enw Fflamddwyn. 

‘...ac fe fyddwn yn ymosod ar Fflamddwyn yng nghanol ei fyddinoedd ac fe fyddwn yn lladd Fflamddwyn ynghyd â’i fintai!’

Digwyddodd y frwydr hon yn nheyrnas Rheged sydd bellach yn rhan o Loegr yn ardal Cumbria. A dyna stori ddiddorol hefyd. Mae un enw yn gallu dweud stori, hyd yn oed os dyw neb yn rhannu’r un dealltwriaeth o beth yw ystyr y gair hwnnw. Enw od yw Lloegr. Does neb yn siŵr beth yw ystyr y gair erbyn heddiw; rhyfelwyr, bobl tu hwnt i’r ffin, gwlad y Saeson, tir coll, eraill, gelyn, ymerodraeth, gormes, estronwyr. 
Does dim llawer wedi newid ers oes Lao Tsu yn Tseina chwaith. Canrifoedd cyn i’r Saeson ddod i Brydain, fe ganodd,

‘Mae Tao fel lle gwag,
na ellir byth ei lenwi.
Er hynny mae’n cynnwys popeth...’

Yn ôl traddodiad, dyn o’r enw Lao Tsu a ysgrifennodd y llyfr Tao de Ching sef ‘Llyfr y Ffordd a’i rhinweddau’. Yn y dyfyniad uchod rydw i weithiau yn meddwl ei fod yn disgrifio Cymru a’i hanes.
Does dim llawer wedi newid ers oes Aristotle chwaith a ganodd,
‘Mae pawb yn gallu bod yn grac – dyna hawdd, ond i fod yn grac gyda’r person cywir, i’r eithaf cywir ac ar yr amser cywir ac am y rheswm cywir ac yn y modd cywir – ni all pawb wneud hynny ac dyw hi ddim yn hawdd.’
Dw i’n siwr dy fod di’n grac ar hyn o bryd. Dw i mor flin am hynny. Mae llawer yn y byd yn newid ar hyn o bryd. Ac mae un peth sydd wedi newid llawer; cyflymdra lledu straeon. 
Yn wahanol i straeon Taliesin, Lao Tsu ac Aristotle mae straeon heddiw yn tyfu’n gryf yn gyflym a theithio o gwmpas y byd mor glou â golau oherwydd dyfodiad y radio, y teledu, y lloerenni, ffiseg cwantym, y we a’r ffonau symudol. Ond ‘sdim dwywaith amdani; mae’r stori isod yn stori wahanol. Ond ydy’n bwysig? Mae hawl gennyt i benderfynu hynny. A chan fod canwaith gwell yw apêl y sgrin i ti y dyddiau hyn, man a man dechrau’r stori isod fel ffilm. Yn y modd yna, gei di ddod i weld pethau’n llawer haws, fy mhwdren fach.

Gawn ni ddechrau wrth aros i logo saith cwmni mawr amlgenedlog i ddiflannu o’r sgrîn yn eu tro. Ie, does dim ffordd osgoi enwau di-enaid fel hyn, hyd yn oed yn ein stori ni. Diwedd y gân yw’r geiniog. 
Logo’r llew, logo’r pysgotwr yn y lleuad.
Logo’r mynydd, logo’r sêr yn saethu drwy’r awyr las.
Logo’r Bîb, logo’r Cadno, logo’r Madfall.
Oesoedd yn ôl, roedd un person yn sefyll o flaen tân yn ddigon i greu stori a allai difyrru aelwyd a gwlad ond heddiw mae angen miloedd o bobl o gannoedd o gwmnïau i wneud yr un peth. Sut aeth ein straeon mor soffistegedig a chymhleth tybed? Pwy a wyr.
 
Felly, mae enw cwmni ar ôl cwmni yn ymddangos ar ein sgrin ni a fesul un yn diflannu fel rhithiau yn cael eu tynnu i mewn i dwll du’r sgrîn gwag ond o’r diwedd mae’r sgrîn yn toddi i’r dduwch dechreuol ac yna toddi eto i ddangos darlun o gefnfor enfawr gwag glas tawel. Ar y cefnfor gwag glas tawel mae ewyn gwyn yn sboncio’n dyner ar y tonnau.
Mae’r cefnfor yn lasaidd-las ond yn oer. Mae’r cyfarwyddwr wedi gwneud yn siwr bod naws llugoer i’r saethiad felly rydyn ni’n gwybod nad yn y moroedd twym mae’r lle hwn ond rhywle mwy tymherus; rhywle fel Cymru ond rhywle sy’ bendant ddim yn Gymru rhywfodd. Mae’r ddarlun agoriadol hon yn ein atgoffa ni am ba mor fawr yw’r cefnfor; y tarddle gwreiddiol lle cawsom ni i gyd ein geni filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddarlun hon yn ein hatgoffa ni o ba mor fach ydyn ni - yr epaod moel balch sy’ wedi lledu i lygru bob twll a chornel o’r un byd enfawr yna. 
Ond edrychwch. O dan y môr. Mae’na dinc o gysgod o rywbeth o dan y môr, sy’n disgleirio bron, a rhywsut, gan fod y cyfarwyddwr mor fedrus, mae Cymry sy’n gwylio yn cael eu hatgoffa o hanes Cantre’r Gwaelod, sef y gwareiddiad a gollwyd o dan donnau’r cefnfor fawr yn lledu’n ddibaid, a lyncodd tir, a ddifethodd gobeithion ofer dynion bach ymhobman. 
Hen stori bwysig. 	

Ond mae’r darlun yn symud ac yn chwyddo i mewn yn araf ac rydyn ni’n dechrau sylwi bod rhywbeth bach ynghanol y gwacter sydd yn cael ei hanner llyncu gan y tonnau cyn i’r tonnau chwydu fe lan eto ar frig yr ewyn unwaith eto. Mae rhywbeth eiddil a di-nod yn mynnu byw yno gan herio’r gwacter. Ai dolffin yw e yn neidio’n chwaraeus? Efallai taw stori am ddolffin heb gynffon yw hon, un sy’n cynnwys bachgen bach a’i dad sy’n dod yn agosach yn eu perthynas wrth iddynt frwydro achub bywyd yr anifail deallus yn eu pwll nofio mewn parc adloniant. Ti wedi gweld ffilm fel honno? Wyt siwr. Ond nid y fath o ffilm yna rwyt ti’n gwylio nawr. Ai morfil yw e efallai? Neu hen angenfil mawr dinosoraidd sy’ wedi ailgreu gan wyddonwyr llwgr er mwyn ennill arian a chlod? 
Na. Mae’n rhy fach am fonster. Ai cwch yw e? 
Ie, mae’n bosib taw cwch yw e. Cwch bach gwyrdd. Cwch bach rhwyfo, maint coragl bron, sydd mewn brwydr ynghanol y cefnfor anferth. 
Ac mae’n wag. 
Ond torra’r cyfarwyddwr i saethiad agos tu fewn i’r cwch a gwelwn ni law cyhyrog cryf yn gafael ar erchwyn y cwch. Mae’n llaw sy’n gadarn; llaw na fydd byth yn gollwng ei afael ar ochr y cwch bach gwyrdd. 
Mae’r saethiad yn lledu. Yna, fel eog heini, mae dyn yn catapwltio ei hun i mewn i’r cwch yn wlyb ac yn heini fel pe bai’r môr wedi rhoi nerth uwchddynol iddo. Ai dyn cyffredin yw hwn neu rhyw fôr-ddyn? Ond pam mae wedi bod yn nofio? Pam mae wedi gadael diogelwch y cwch? Gwelwn ddim byd ond traed y dyn ar waelod y cwch. Mae’r dwr hallt yn rhaeadru ar lawr pren y cwch bach gwyrdd. 
Saethiad agos.
Gwelwn gip sydyn o rywbeth yn ei law pan mae ei ddwrn yn agor; gwelwn rywbeth bach pefriog; maint dis; lliw aur. Mae’n disgleirio fel yr haul. Ond cyn i ni allu cael cip go iawn ar y dyn hynod a’r trysor yn ei law, mae’r cyfarwyddwr yn dwyn ni i ffwrdd unwaith eto’n bell, bell. 
Gwelwn wacter y cefnfor eto. Mae’r dyn a’i gwch ar goll ar ein sgrin unwaith eto.
Er ein bod ni’n bell i ffwrdd fe allen ni weld siâp y dyn yn y cwch nawr. Mae e’n symud yn rhythmig yn ôl ac mlaen, yn ôl ac mlaen, yn ymladd yn erbyn y llif sy’n codi’n storm. Mae e’n rhwyfo nawr. Gwelwn ddyn bach yn rhwyfo’n arwrol yn erbyn y tonnau a’r gwacter o’i gwmpas. Mae e’n rhwyfo fel deg dyn, na, yn hytrach fel cant o ddynion. Mae e’n rhwyfo fel petai’n gadlong deisel gan dorri trwy’r tonnau fel torpedo. 
Sblash! Sblash! Sblash!
Mae e’n rhywfo fel y caethweision ar yr hen ffilmiau am yr hen oesoedd, ond ble mae’r chwip anweledig? 

Sblash! Sblash! Sblash!

Mae e’n rhywfo yn rheibus gan fwyta’r llath llydan o’i flaen bob eiliad gyda’i ysgwyddau gwydn. 
Wrth i’r saethiad chwyddo i mewn ac agosáu unwaith eto gwelwn ei fod e’n nawr yn gwisgo pâr o drowsus du eu lliw a chrys sy’n wyrdd fel y cwch. Mae ei gyhyrau main yn amlwg ar ei freichiau a’i goesau. Mae‘r modd mae’r cyhyrau’n cynhyrchu egni fel petai egni yn ddibaid ac yn ddiddiwedd. Mae ei gorff yn sgleinio â chwys a distrych y don. 
‘Am ddyn!’ meddwn ni i gyd ar yr adeg hon, ‘Mae hwn yn arwr go lew!’ 
Mae’r pawb yn y gynulleidfa yn ysu gweld wyneb yr arwr ond welwn ni mohono eto. Mae rhai yn y gynulleidfa’n genfigennus gan nad oes awch cyntefig yn bodoli tu fewn iddyn nhw gan fod eu hoes nhw bellach yn ddiystyr, wedi’i dofi gan dechnoleg a doethineb annoeth. Mae rhai yn y gynulleidfa yn teimlo rhywbeth cyntefig yn corddi ynddynt, yn ddwfn ac yn ddwys. Maen nhw i gyd yn ysu’n isymwybodol am fywyd fel bywyd y rhwyfwr. Mae gan y rhwyfwr bwrpas. Mae gan y rhwyfwr rywbeth sy’n werth peryglu ei fywyd drosto ac sy’n werth ffocysu bob medr dyn arno, yn lle chwarae rygbi, yn lle gweithio mewn swyddfa, yn lle prynu car newydd, yn lle petruso am ba fwyty i ddewis ar ôl i’r ffilm orffen. 
Saethiad agos.
Tra bod y dyn yn rhwyfo’n ffyrnig, fe welwn datŵ bach ar gefn ei wddf ond mae’n anodd gweld beth yw e ond rydyn ni’n gwybod taw tatŵ pwysig yw hwn a gafodd ei greu am reswm ac nid oherwydd diflastod na ffasiwn. Bydd arwyddocâd y tatw yn cael ei esbonio rhywbeth nes ymlaen, mae’n debyg. Mae’n gliw. 
Cawn weld gwallt yr arwr nawr. Mae’n hirach. Wedi’i glymu tu ôl ei ben. 
Ond pam dydyn ni ddim yn gweld ei wyneb eto. Pam? Mae’r dyn yma yn beiriant o ddyn a does dim wyneb gan beiriant; peiriant rhwyfo. Mae hwn wedi cael ei greu a’i fagu i rwyfo. Mae rhwyfo hwn yn ei DNA. Mae e wedi bod yn rhwyfo cyn gallu cerdded. Ond pam? Pwy fyddai eisiau gwneud sut beth? Dim ond dyn a gafodd ei eni mewn lle oedd yn garchar gan y môr. Dim ond ar ynys fechan unig. Ond dyna’r cwestiwn amlwg sydd yn ein pennau ni nesaf, ‘Pam mae’r dyn mawr cryf yn rhwyfo mewn cwch bach gwyrdd ar draws y cefnfor mawr?’ Ydy’n ffoi rhag rhywbeth? Ydy’n droseddwr efallai? Dyw peth fel hyn ddim yn gwneud synnwyr i ni yn ein sinema cyfforddus gyda’n llond bwced o bobcorn a galwn o Coca-cola neu Pepsi neu 7-up. 
Ac yna, saethiad weddol agos. 
Gwelwn ni goesau’r dyn a blwch pren maint bocs sgidiau o’i flaen yn y cwch. Mae’r blwch wedi’i gadwyno’n dyn i lawr ar waelod y cwch rhag ofn bod y môr yn ei ddwyn. 
‘A!’ meddwn ni eto, dyna pam mae e’n rhywfo. Mae rhywbeth pwysig yn y blwch mae’n debyg. Mae’n mynd â rhywbeth pwysig i rywle, i rywun. Efallai taw meddyg yw e. Efallai taw moddion sydd yn y blwch. Dyna arwr go iawn!
Mae’r saethiad yn tynnu allan i ddangos y gwacter eto. 
Nawr mae cerddoriaeth yn dechrau. Mae’n drac cân roc Americaniadd o’r wythdegau o’r ugeinfed ganrif; canrif creulonaf hanes dynion. Clywn ni ddyrnod drym uchel a styfnig yn bwrw ein synhwyrau fel cyfanrifau, tra bod riff bywiog, ysgafn gitâr trydan yn cynghaneddu fel rhif cysefin ar ei ochr. 
Gwelwn ni saethiad o’r cwch a’r dyn eto ond nawr gwelwn ni ynys yn y pellter tu ôl iddo ac rydyn ni’n sylwi bod y dyn yn rhwyfo tuag at yr ynys, efallai i drosglwyddo beth bynnag sy’ yn y blwch i’w fam sy’n dost neu i’w gariad sy’n aros amdano neu rhyw ddyn cas sydd wedi herwgipio ei gariad a’i fam gan fygwth i ladd y ddwy ohonynt. 
Yna, ar ôl dau far o’r alaw godigalon gawn ni dri fflic ar gloch wartheg ac mae llais yn dechrau canu. Mae’n llais achwynydd braidd ond stoig yn gwmws fel y dyn yn y cwch. Mae’r llais fel llais y cantor Nick Cage ond mae’n mwmian llawer mwy. Ar yr un adeg mae sŵn gitâr bas deallus yn ymuno gan arwain y gân i gyd rywsut yn yr un modd mae dramodydd yn arwain drama, hynny yw, wrth greu strwythur cudd o fewn yr alaw amlwg. 
Mae rhieni y rhai sy’ yn y gynulleidfa yn cydnabod y llais ac arddull y gân o’u mebyd ond dydyn nhw ddim yn nabod y gân ei hun. Maen nhw wedi anghofio pethau fel hyn erbyn eu canol oed. Mae’n gân gan un o fandiau roc mwya’r byd, sef cân o’r enw ‘Saith Brawd Tseinïg’. Mae’n gân sy’n sôn am hen stori o Dseina. Mae’n stori am un o’r saith brawd yn llyncu’r cefnfor i gyd er mwyn helpu crwt bach bysgota gasglu holl drysorau’r môr i gyd ond wrth i’r crwt mynd yn hunanol ac yn wancus mae’r brawd yn methu dal y môr i mewn rhagor ac yn boddi’r crwt. Mae’n stori am drachwant sy’n dod yn wreiddiol o stori werin sy’n dweud am bump brawd oedd ganddynt nerthoedd goruwchnaturiol. Mae’r gân yn fyrhoedlog, ailadroddus ac yn syml. Mae geiriau’r penillion yn farddonol ac yn ddigon amwys ac yn ôl arddull y band a phrif leisydd y band ar yr adeg honno yn eu gyrfa, maen nhw’n cael eu mwydro ychydig ac felly maen nhw’n aneglur braidd; fel rhyw Dafydd ap Gwilym ar asid yn siarad drwy dwnel casgen clyd Diogenes. 
Mae’n gân berffaith am gyflwyno’r stori hon. Marciau llawn i’r cyfarwyddwr. 
Mae’r gân yn creu awyrgylch sy’n achosi i ni ddisgwyl gweld pwy sy’n aros am yr arwr a’r blwch ar yr ynys fach. Tra bod y gân yn prancio yn ein clustiau mae’r saethiad yn ehangu fwyfwy byth a gwelwn ni nad yw’r cefnfor yn wag o gwbl. Yn hytrach, mae’r dyn yn rhwyfo o dan rhywbeth mawr, rhywbeth enfawr sy’n taflu cysgod llythrennol a throsiadol drosto fe a’i gwch bach. Ai dyma’r anghenfil? Ai dyma’r gelyn? Gwelwn ni taw siâp pont sy’n taflu’r cysgod du ond nid pont o faint arferol yw hi – mae’n bont enfawr sy’n ymestyn o ryw arfordir pell dros gulfor mawr tuag at yr ynys o flaen y dyn yn y cwch. Mae’n bont fawr ddu â phedair telyn dieflig ar eu cefnau, gefn wrth gefn, gefn wrth gefn, a’u tannau ynghrog fel bariau cell carchar wedi’i cuddio gan niwl trwchus sy’n stopio ni rhag gweld y miloedd o geir a loriau sy’n gwibio i lan ac i lawr ei hyd uwchben ein harwr gwallgof yn y cwch bach gwyrdd. Mae’n bont llawer hirach na phont Akashi-Kaikyō yn Siapan, y bont hiraf yn y byd hwn. Mae’n bont anferth yn wir; canwaith hirach na phontydd Hafren, y pontydd sydd ynghrog rhwng de Cymru a de Lloegr. Mae’n bont hirach na’r bont a grewyd gan y cawr-dduw Bendigeidfran. Ac nawr, nid y cefnfor sy’n llenwi ein golwg ond y bont. Gwaith crand yr epaod moel, balch a chlyfar. Mae’n anghenfil-gyfandir-sgrech o bont.
Damia! A ddylen nhw wedi dangos wyneb y dyn erbyn hyn? Sut arall y gallwn ni gael y gynulleidfa i gydymdeimlo â’i sefyllfa a’i broblemau. Sut allen ni magu empathi tuag ato? Man a man torri i saethiad agos o’r dyn yn rhwyfo felly. Man a man dangos y bont dros ei ysgwydd fel bwgan yn llechu tu ôl iddo o hyd. 
Saethiad agos. Wyneb. Wyneb merch.
Mae wyneb y ferch yn hala ofn ar y gynulleidfa rhywsut. Mae’n sgytwad braidd. Roedd popeth cyn hyn wedi awgrymu mai dyn oedd yn rhwyfo’r cwch bach gwyrdd. A beth mae merch yn gwneud tu allan mewn cwch bach gwyrdd ynghanol y cefnfor enfawr? Nid gwaith merch yw gwaith arwr yn ôl straeon heddiw. Mae’n sioc i’w gweld hi. Ond edrych arni. Mae ei wyneb yn wyneb hudoles. Mae ei wyneb hi yn gadarn fel rhyw Buddug cyntefig wedi’i cerfio allan o garreg gleision Sir Benfro; un garreg fawr i bob boch ac un enfawr ar draws ei thalcen fel drws Pentre Ifan. Gwelwn ei llygaid gleision tu fewn yn llonydd fel llyn ond yn aflonyddus braidd; digon aflonyddus i ti gredu taw merch wallgof yw hon; ond digon caredig i ti beidio bod yn hollol siwr eto. 
Chware teg, mae’r cyfarwyddwr a’r criw castio wedi dewis y ferch gywir i chwarae’r rôl hon heb os nac oni bai. Mae hon yn arwres mewn argyfwng. Dyma Gwenllian ar glân dôn, Branwen mewn bad, Ceridwen gyda’i phair hudol, Supergirl mewn sospan. Mae hi’n debyg i ti fy mhwdren fach.
Ond i ble mae hi’n rhwyfo?
Gwelwn ni Ynys Llewingor ar y gorwel. Ynys y coed ywen sy’n hŷn na’r haul, lle y cedwir cyfrinachau ein byd. Ynys y nentydd gwaed sy’n llifo’n ddibaid o grombil y mynyddoedd . Ynys bedd rheswm yn y ceunant tywyll sy’n gartref i filoedd o nadroedd dall â gwenwyn yn llifo o’u croen. Ynys rhyfel a gofid lle mae’r gwaed yn gymysg gyda’r glaw. Ynys chwe miliwn o goed lle mae’r dail yn diferu dagrau. Ynys ymbelydrol sy’ ddim yn ddiogel i ddyn na deryn. Ynys lle mae cyrraedd y sêr mor hawdd â chyrraedd y traeth ond lle mae cyrraedd y gwir mor anodd ag achub y traeth rhag y llanw. Ynys sy’n gartref i mi a bydd yn gartref i ti hefyd cyn bo hir. 

Dyna lle ydw i Rhianona. Dw i ar goll ar yr ynys ar ôl y dymhestl.
Flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n meddwl y gallwn i ddysgu popeth i ti oedd angen. Dw i ddim mor siŵr nawr. Mae gormod o storïau. Po fwyaf y gwyddwn y lleiaf y deallaf. Ond wnei di ddarllen fy stori i? Oes rhai eraill yn y cwch bach ‘da ti? Wyt ti a dy ffrindiau yn dod i achub mi? Edrych! Dyma fi ar draeth yr ynys. Gallaf weld dy gwch bach yn dianc rhag cysgod y bont fawr. Dw i’n chwifio fy mraich yn yr awyr ac yn gwenu’n braf. Cyn bo hir byddi di yma gyda fi. 

Mae ein stori yn dechrau.

Ermyg Llechgi a’r Plas

“Mae’na ddywediad hen gan fy mhobl sy’n sôn bod rhywbeth yn byw dim ond cyn hired â’r person olaf sy’n ei gofio fe. Mae fy mhobl wedi dysgu ymddiried yn y cof yn lle hanes. Mae’r cof, fel tân, yn glaerwyn ac yn ddigyfnewid tra bod hanes yn was i’r rhai sydd eisiau ei reoli, y rhai sydd eisiau diffodd fflamau’r cof a’i dân sy’n wiredd peryglus. Gwyliwch rhag y rhai hyn sy’n beryglus ac yn ffôl. Ysgrifennir eu hanes hwy yng ngwaed y rhai y cofiai a’r rhai sy’n chwilio am y gwir.”

Kanghi Duta – Floyd “Brân Coch” Westerman

Roedd perchennog Y Plas, Ermyg Llechgi, yn ceisio lladd ei hunan. Am y tro cyntaf ers echddoe. Pe bai siotgyn hir, hen ffasiwn ei Dad-cu ddim wedi bod mor lletchwith i’w rhoi yn ei geg, byddai fe wedi cwpla’r jobyn erbyn hyn. Byddai wedi hen baentio’r wal yn goch gyda gwaed ei frêns oriau yn ôl. Pe bai Ermyg ddim wedi bod mor dwp â slej, byddai hwnna wedi helpu hefyd. Ond fel y safai, fe deithiai adar Rhiannon ar drên Arriva ac roedd rhyddhad angau yn rhedeg yn hwyr ac yn anghyfforddus. Ond; dyfaldonc a dyr y benglog.

‘Pe bai modd i gannoedd o ffermwyr cyffredin saethu eu hunain fel hyn bob blwyddyn, yna fe allwn i, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, gyflawni’r un weithred yn ddiffwdan hefyd’

Dyna’r mantra oedd Ermyg wedi bod yn ailadrodd ers tri o’r gloch y bore, pan ddaethai o hyd i’r Morlo Mawr Coch ei guddfan yng ngerddi’r Plas a’i gwrso’r holl ffordd adre i’r Rhandy, y bwthyn gwyn ar ochr Y Plas. Roedd dwylo Ermyg wedi crynu wrth gloi’r drws ac yna, fe ddechreuasai’r diawl gnoi’r drws a cheisio bwrw’r blydi peth i lawr. Ceisiasai Ermyg anwybyddu ei gwynfan a’i swnian wrth guddio o dan y gwely ond hen forlo styfnig oedd Y Morlo Mawr Coch. Er bod ei stafell wely ar y llawr cyntaf, fe neidiai’r bwystfil i fyny wrth ffenest y stafell yn bobio-ymbilio fel pêl tennis cythreulig. Roedd Ermyg yn siŵr ei fod e wedi dechrau siarad hefyd yn ddiweddar. Dyna forlo clyfar. Ond un frawddeg yn unig a ddywedodd Y Ci Du, dro ar ôl dro ar ôl dro ar ôl dro,

“Gad fi mewn!”

A dyna beth wnaeth Ermyg. Yn y pendraw. 
Rhuthrodd Y Morlo Mawr Coch arno fel pe bai’n eclips a rhedeg o gwmpas y Rhandy fel llo cors. A chyda phob awr a âi heibio, tyfai ei edmygedd at dyddynwyr unig y cefn gwlad a’u hanobaith medrus a’u gallu i weithio mor effeithlon o dan amodau mor dywyll.
Ers Yr Angladd, gwaith caled i Ermyg oedd byw, ond doedd hunanladdiad ddim tamaid yn haws gwaetha’r modd. Ar ôl trio bob math o dechneg syml dros yr wythnosau diwethaf, dyna fe, y bore ‘ma, dal yn cael cryn drafferth ymestyn am glicied y dryll gyda’i freichiau byr Cymreig. Doedd e ddim yn hoff iawn o roi’r dryll ar ei dafod tila chwaith. Roedd blas y metel fel gwaed. Ych a fi! Dyna ryw ragflas rhyfedd y byd nesaf oedd, yn siŵr o fod, yn waeth byth na’r byd hwn.
Yn y pendraw, tua hanner awr wedi pedwar, roedd e wedi meddwl tynnu ei sannau bant ac eistedd ar y soffa yn goesdraws fel y Bwda, gan ddefnyddio ei fys mawr ar ei droed chwith i drio tynnu’r glicied. Byddai wedi bod yn haws iddo ddefnyddio bys mawr ei droed dde ond roedd ganddo flistar mawr arno. Daeth y flistar ar ôl cerdded yr holl ffordd adre yn y glaw o’r wylnos yn nhafarn Y Celt Blin, gan wisgo’r esgidiau newydd a brynasai yn arbennig ar gyfer Yr Angladd. Roedd y blistar dal yn rhy boenus i’w rhoi drwy giard y glicied. Felly defnyddiodd Ermyg ei droed dde i gadw’r dryll yn llonydd tra bod bys y troed chwith yn cymryd y cyfrifoldeb am hyrddio ei enaid i lawr i lwnc cŵn gwyn caredig y Gwynfa. Pe bai rhywun wedi craffu drwy ffenest lolfa bwthyn Y Plas ar y pryd, bydden nhw wedi synnu bod rhyw hen gefnder coll o Awstralia wedi galw draw ‘da Ermyg a dyna fe’n ymarfer rhyw dijeridŵ egsotig. Neu efallai bod Ermyg yn sugno mwg drwg o ryw bong milwrol. 
Dywedai ei fantra unwaith eto.
‘Pe bai modd i gannoedd o ffermwyr cyffredin saethu eu hunain fel hyn bob blwyddyn, yna fe allwn i, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, gyflawni’r un weithred yn ddiffwdan hefyd’
Rhoddodd faril y dryll yn ei geg. Caeodd ei lygaid. 
Y tro ‘ma. Dyma’r tro. Y tro ‘ma. Dyma’r tro. Gweithiff hi. Y tro ‘ma!
Ffarwel y ffycyrs! Geronimo!
Bang!

Agorodd Ermyg ei lygaid. Gwelodd stafell lolfa’r Rhandy. Dim Gwynfa. Dim Nef. 
Ffyc ôl. 
Sut yffach ‘nath e fethu y tro ‘ma? 
Tynnodd Ermyg ddau faril y dryll poeth mas o’i geg ac ymestyn i deimlo cefn ei ben. Doedd dim twll. Edrychodd ar ei law. Dim gwaed chwaith. Roedd e’n fyw ac yn gyfan. 
Dyna gamwedd. Roedd e’n dechrau meddwl nad anelu oedd y broblem.
Trodd o gwmpas a gweld llanast ar y wal tu ôl iddo. Roedd twll arall yn y wal. Y pumed ers awr. Roedd Bwthyn Y Plas yn dechrau edrych fel swyddfa’r post yn Aleppo. Hongiai ddarnau o blaster yn fregus o gwmpas tyllau salw yn hen waliau’r lle. Hen waliau hen. Hen waliau hyll. Hen waliau a adeiladwyd gan law ei gyn-dadau rywbryd-rywsut. Gallai Ermyg weld berfedd y lle drwy’r asennau pren. Llwch glo a llwch gwlân. Llygredd cudd. 
Pesychodd.
O walia.
Y tro yma, roedd e wedi chwalu llun ar y wal hefyd. Llun o staff Y Plas o’r ganrif diwethaf. Llun a ddangosodd ei deulu i gyd mewn oes arall, yn gwenu o flaen Y Plas yng nghwmni gweithwyr a chymdogion. Roedd pelets o’r dryll, oedd rhywsut wedi pasio drwy ei ben ef, wedi taro’r llun gan ddryllio’r gwydr ac ebillio’r wynebau hapus. Chwalwyd y ffrâm wrth gyrraedd y llawr hefyd ac roedd darnau bach y gwydr o’i gwmpas fel pe bai’n glawio diemwnt. 
Daeth Ermyg yn grac. Roedd wynebau’r gorffennol yn yfflon ond gwynt teg ar eu hôl nhw a’u gwenau dedwydd diflas du a gwyn. Dyna nhw yn hapus dyrfa, yn falch o ddiwrnod o waith caled yn cynhaeaf had y gwanwyn. Dyna nhw nawr yn ddim byd ond sbwriel i’r bin. Neu’n hytrach yn wydr i’r bin gwydr, yn bapur i’r bin papur ac yn bren i’r bin...
Oes bin pren ‘da fi? Pam nad yw’r Cyngor yn ailgylchu pren?
Roedd Ermyg dal mewn un darn. Un corff iach. Un meddwl iach. Un cof bach. 
Ffor ffycs sêc.
Taflodd y dryll i’r llawr er mwyn codi i wneud paned. Wrth daro’r llawr aeth y gwn danio eto a saethu twll arall yn y wal gyferbyn. Safai Ermyg yn stond am eiliad. 
Sawl cetris oedd yn y blydi dryll? Roedd y lolfa yn dechrau edrych fel darn o gaws y Swistir!
Ar y ffordd i’r tegell, penderfynodd peidio trio stwffio ei fysedd yn soced y tegell am yr eildro. Doedd e ddim eisiau newid y ffiws eto neu newid dillad llosg. Y tro hwn roedd e wir eisiau paned arno fe. Roedd hunanladdiad yn codi syched ar ddyn.
Falle bod te hemloc yn y cwpwrdd. Ond be’ yffach o’dd hemloc eniwei?Rhywbeth y gellid prynu yng Ngroeg mae’n debyg. Ware teg i’r hen Socrates am fyw ac yn marw yn ôl ei egwyddorion. Ond bolycs i Tesco am beidio gwerthu’r stwff. 
Dim ond dwy ystafell lawr llaw oedd gan y bwthyn gwyn oedd yn Rhandy’r Plas – lolfa-gegin ac un stafell ‘molchi fach. Dyna lle oedd Ermyg wedi byw ers i’r tân yn asgell chwith Y Plas wedi dinistrio’r lle roedd e’n byw. Yr un tân a laddodd... 
Pwy? 
Stopiodd Ermyg wrth ymestyn am gwdyn te. Roedd e’n siŵr wnaeth rhywun fu farw yn y tân. Rhywun pwysig dros ben. Cofiai fynd i’r Angladd. Ond angladd pwy?
Daeth deigryn i gil ei lygad. Ceisiodd gofio.
Deigryn? Na, ager o’r tegell yn berwi mae’n debyg.
Rhoddodd Ermyg ddŵr y tegell mewn cwpan bach gwyn. Ar y cwpan roedd llun cartŵn o haid o ddefaid ar lôn yn y cefn gwlad. Uwchben y defaid oedd y jôc ‘Traffic Jam in Wales’. Chwarddodd Ermyg. Chwarddodd e bob tro.
Gyda’i baned yn ei law, aeth Ermyg i eistedd wrth y laptop ar fwrdd ynghanol y lolfa fach. Er mwyn trio osgoi ffws a ffwdan wrth ffarwelio â’r hen fyd creulon, roedd Ermyg Llechgi wedi bod yn ymchwilio’n hir ac yn fanwl ar y we ynglŷn â hanes hunanladdiad. Roedd e wedi dysgu loads. Dysgasai am y caethweision o Affrica a gâi eu cludo fel bocsys Amazon mewn llongau llawn dynion gwyn creulon a fyddai’n gorfodi nhw ddawnsio wrth saethu am eu traed. Yn sgil y fath triniaeth erchyll, byddai’r caethweision yn lladd eu hunain gan gredu y byddai eu heneidiau yn dychwelyd adre. Bach yn ddesprét oedd hwnnw ym marn Ermyg. Pe baen nhw ddim wedi bod mor fyrbwyll ac wedi aros nes cyrraedd America, bydden nhw wedi cael cyfle byw yng ngwlad orau’r byd, yn debyg i lwyth y Mohave yng ngheunant Afon Colorado. Dyna lwyth sydd yn bellach llai na mil o bobl o ran nifer oherwydd salwch a phla o hunanladdiad. Ym marn y Mohave ymateb i ‘unigolyddiaeth eithafol’ oedd hunanladdiad aelodau eu llwyth. Ar ôl colli perthynas. Colli cymuned. Colli cof.
‘Grym anniddig sydd gan grêd’. Pwy wedodd hwnna? Rhwyun pwysig. Socrates? Na.
Weithiau byddai geiriau od fel hynny yn dod i feddwl Ermyg ond roedd e wedi dechrau anwybyddu nhw.
Wrth gwrs, byddai’n bwysig bod Ermyg yn lladd ei hunan yn ôl defod Cymreig. Felly, er mwyn trio dysgu am sawl defod traddodiadol Celtaidd o ladd eich hunain, roedd Ermyg wedi benthyg ambell lyfr enwog o Lyfrgell Y Plas. Llyfrau fel y Gwyddoniadur Celtica. Ond roedd e wedi treulio oriau yn trio dadlwytho nhw i’r laptop, ond heb lwyddiant. Doedd dim un porth USB gan yr un ohonynt.
‘Sdim ots am lyfre. I’r tân â nhw!
Er hynny, doedd Ermyg ddim yn mynd i dorri ei ben bant fel y Celtiaid. Ni fyddai’n ystyried y peth - hyd yn oed ar ôl ei fethiant diweddaraf. Beth pe bai ei ben dal yn fyw ar ôl torri fe bant, fel iâr anffodus yn y buarth? Byddai’n rhaid gario ei ben o dan ei fraich fel ysbryd mewn hen ffilm du a gwyn. Doedd y posibilrwydd ddim yn apelio o gwbl. Ond roedd e’n barod i gyfaddef ei bod hi’n ddigon posib bod angen cymorth arno erbyn hyn. Wrth lymeitian ar ei baned o de melys (pum siwgwr), dechreuodd feddwl a allai creu rhyw beiriant i’w ladd ei hunan. Myfyriodd ar adeiladu rhyw beiriant erchyll. Aeth ei feddwl i grwydro’n bellach am eiliad, beth am ryw ffrwyth a ddygwyd gan feddwl Jac-y-do neu’r Brân efallai. Gwely llawn cyllyll hirion a flingai fe’n fyw. Llif enfawr a dorrai’n ddwy hanner o’i weryd i’w war. Byddai ei groen diwerth yn sychu yn yr haul fel lledr. Syniad campus. Syniadau da i gyd. Gellid dibynnu ar beiriant. Ond allai fe, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, greu peiriant ddigon da?
Dihunodd o’i ddelwi. Blasodd ei de. Roedd hi’n dda. Yn groes i’w awydd, a chymaint oedd diddordeb Ermyg yn y pwnc o ladd ei hunan, byddai tonnau mawr ei iselder yn gallu troi ar drai am ychydig. Ar adegau prin. Rhyw dridiau yn ôl roedd e wedi treulio prynhawn cyfan bron heb geisio lladd ei hunan. Seibiant weddol anghyffrous a dweud y gwir. Roedd e wedi ysgrifennu cerdd am y profiad hyd yn oed. Ni allai gofio ysgrifennu cerdd erioed. 
‘Na beth od i berson ‘neud, sgwennu cerdd. Oedd lot o gerddi Cymraeg? Efallai hon oedd y cyntaf! 
Enw’r gerdd oedd ‘Bod yn Sais’. 

O mae’n braf bod yn Sais, mor neis, mor rwydd,
Gyda milwyr a morwyr yn mynnu ei sicrwydd.
O mae’n braf bod yn Sais – ‘sdim ffws na dim ffwdan,
Gan ddwyn geiriau, gemau a gyns o bob man.
Sais ronc fyddwn i – am ryddhad mor hael,
Pe bai crafangau’r Cwm yn gollwng ei gafael.

Cerdd ofnadwy. Ac roedd Ermyg wedi dychwelyd yn ddof i’w obsesiwn am hunanladdiad yn fuan wedyn ar ôl ei chwpla. Roedd poen byw yn Y Plas wedi tyfu’n ormod ac na allai weld ffordd ymlaen heb... heb beth? Heb gwmni? Heb bwrpas? Roedd cyflawni’r weithred derfynol wedi profi bod mor hynod o anodd. Wel, amhosib hyd yma. Er gwaetha popeth, roedd e yma o hyd. Mor depressing.
Llowciodd gweddill ei baned. Roedd hi’n oer. Ych a fi. 
Penderfynodd Ermyg bori dros ei ymchwil o’r we unwaith eto. Cliciodd ar y groes goch yn y gornel a chau’r dudalen ar ‘sut i ladd eich hunan gyda reiffl’. Cofiai fod cymeriad Charlie Sheen wedi defnyddio reiffl fel bong yn y ffilm Platoon. Hynny yw, y ffilm gan y cyfarwyddwr Oliver Stone am filwyr Americanaidd yn Fietnam. Ffilm drist. Dyna’r ffilm lle mae un o’r arwyr yn marw ar ei bengliniau yn jyngl Asia tra bod trac sain enwog Samuel Barber yn cyrraedd crescendo anhygoel. Ffilm mor drist. Roedd Ermyg wedi ei gwylio dros hanner cant o weithiau. Cofiai’r ffilm yn dda. O am farwolaeth mor gofiadwy heddiw! Un cymaint eiconig. O am farwolaeth mor Americanaidd. Pobl od oedd Americanwyr er hynny. Doedd dim dwywaith am hynny. Pa wlad arall fyddai’n creu ffilmiau am eu milwyr yn goresgyn gwledydd eraill a’u canmol nhw am eu dynoliaeth a’u dewrder, ac yr un pryd methu sôn tamaid am yr effaith a gafodd y goresgyn ar drigolion y wlad o dan ormes byddin mwyaf yn hanes y blaned?
Dynoliaeth a dewrder. Dechreuodd y ddau air gyda’r un llythyren. Diddorol.
Ond pe bai marwolaeth eiconig yn dod, byddai’n rhaid i Ermyg trio’n fwy caled. Yn amlwg, doedd hunanladdiad ddim yn sgíl a ddaeth yn hawdd i Gymro. Tri chynnig i Gymro? Beth am mil a hanner? Erbyn hyn roedd e wedi trio lladd ei hunan dros gant o weithiau dros yr wythnos diwethaf yn unig. Yn amlwg i bawb, roedd e heb lwyddo eto. Ond y siom fwyaf efallai oedd modd y methu; mor anhygoel o ofnadwy. Roedd ei wedi ysgrifennu cerdd arall am ei fethiannau er mwyn helpu fe gofio beth roedd e wedi trio. Er mwyn peidio trio’r un peth ddwywaith. Aeth hi fel hyn, 

Trydanu, crogi, mogi, 
Y bwled, nwy a boddi,
Trywanu, tagu a gwenwyn cas
A mynnu dim ond methu.

Hon oedd ail gerdd yn hanes y Gymraeg.
Wrth gwrs, byddai Ermyg wedi trio lladd ei hunan mewn ffordd mwy dramatig pe bai mwy o ddychymyg ganddo ond roedd e’n annheg ddweud nad oedd wedi ymroi i’r syniad yn gyflawn. Byddai’n haeddu marciau llawn am ymdrech yn ôl y beirniaid. Dylai dderbyn Gradd ‘A’ serennog am drio yn ôl yr arholwyr. Ond, er gwaetha pob un, fe gâi nil points gan reithgor y nefoedd.
Er hynny, myfyriodd Ermyg yn bellach am unwaith; efallai bod hi’n amser meddwl yn fwy uchelgeisiol. Oedd modd galw airstrike drôn ar ei fwthyn? Efallai y gallai farw’n arwrol ar ei bengliniau fel Wilem Dafoe, yn sgrechian mewn cwmwl o napalm. Beth pe bai e’n treulio’r diwrnod cyfan yn gwglo ‘Sut i ladd y Brenin Siarl?’ neu ‘Sut i foddi baban Kate a Wils?’ neu ‘Sut i fomio stiwdios BBC The Archers?’. Efallai byddai rhyw James Bond o MI6 yn galw draw a saethu fe yn ei gwsg gyda Walther PPK a silencer. Neu lladd e, torri ei gorff yn ddarnau bach a’i gadael mewn bag yn y bath. Roedd mwy nag un ffordd i gael Wil i waedu. 

Gwae fe wrth fyw mewn gwlad mor sâl,	
A duw heb roi aur du dan groen y byd	
Mor braf yw byw yn Yemen bell,		
A chael y bomie’n syrthio’n fud.	
	
Wyth sillaf, yna deg sillaf, yna wyth ac wyth eto. Roedd rhyw fath o batrwm yn y gerdd honno. Y trydedd cerdd a ysgrifennwyd yn y Gymraeg erioed. Dw i’n fardd!
Syniad unchelgeisiol. Byddai’n gweithio. Y tro hwn, byddai’n llwyddo. Ond roedd Ermyg wedi bod mor sicr y byddai defnyddio siotgyn yn gweithio hefyd. Roedd e wedi cymryd hen ddryll ei Dad-cu o’r seler, ar ôl ei glanhau a’i drwsio, yn llawer mwy hawdd ac yn gyfleus ac yn fwy na dim – yn fwy effeithiol na chrogi na thrydanu. Roedd e’n sicr y byddai rhoi dryll yn ein geg yn ddigon i ddatrys ei broblem. Ond roedd e wedi methu yn y pendraw. Fel pob tro arall. 
Roedd Ermyg yn dechrau meddwl na fyddai byth yn llwyddo lladd ei hunan.
Tra bod Ermyg yn syllu’n wag ar y tyllau yn y wal unwaith eto, ni sylweddolai bod y wawr wedi dechrau gormesu’r lolfa â’i golau cynnes, melyn. Yn ei benglog aeth ei feddyliau yn ôl i filwyr Unol Daleithiau America. 
Roedden nhw wedi marw dros fy rhyddid i - arwyr dewr bob copa walltog.
Wrth ymchwilio yn hunanladdiad ar y we, er mwyn ffindo’r ffordd orau i ffarwelio i’r byd creulon, fe gofiai Ermyg ddarllen am broblem hunanladdiad ymhlith milwyr byddin yr Unol Daleithiau. Yn ôl ystadegau swyddogol, yn 2012 gwnaeth 185 o filwyr wedi lladd eu hunain wrth gymharu â dim ond 176 a gafodd eu lladd wrth ymladd yn erbyn Y Gelyn. Nodiasai Ermyg ei fod yn rhyfedd bod peiriant lladd mwyaf y byd yn fwy effeithiol wrth ladd ei filwyr ei hunan. Pe bai Ermyg yn fwy o athronydd byddai wedi canfod rhyw wireb neu berl doeth oddi wrth y myfyrio yma. Efallai byddai wedi dod i ryw gasgliad a fyddai’n taflu goleuni ar ei fywyd ef; mai fe oedd dim byd ond haid o atomau ansicr mewn bydysawd nad oedd bellach yn gwneud unrhyw synnwyr i neb. Ond nid athronydd oedd Ermyg. Roedd e mor dwp â slej. Doedd dim athronyddion yng Nghymru erioed. Nid disgynnydd Plato a Socrates oedd ef. Hanner brawd i’r twpsod ar Big Brother ydoedd ac felly daeth dim goleuni.
Yna sylwai Ermyg fod Crid yn sefyll yn y drws. 
Fel arfer, roedd hi wedi ymddangos mor dawel ag ysbryd. Yn ei hen ddwylo crych, roedd ei mop a’i bwced yn barod i lanhau’r Plas fel y byddai bob bore. Rhwng ei gwefusau minlliw coch roedd hanner sigâr a guddiodd gweddill ei wyneb mewn niwl o fwg gwyn. Edrychodd ar y llanast yn y bwthyn.
“Y ffycin twat,” meddai’n dawel wrth edrych ar y tyllau yn y wal a gan siglo ei phen, cyn troi at Ermyg a siarad yn fwy uchel, “So fi’n g’lau’r ffycin mes ‘ma g’boi! Nes i wêd wrthot ti ddwê ar ôl i ti trio slasho dy blydi wrists di.”
Ochneidiodd Ermyg gan wenu’n wan.
“Sori Crid fach. Wna i dacluso’r lle nes ‘mla’n”
“Ti’n ddidoreth g’boi” meddai Crid, cyn syllu ar y dryll ar y llawr a dweud yn fwy tawel, “Ti ‘di symud mla’n at y blydi shotgun yfe? Dyna main weapon of choice i bob ffarmwr Cwm Gwain ers Brexit.”
“Heb lwyddiant” ochneidiodd Ermyg gan godi i wneud paned arall.
“Sut yn y ffycin byd nest ti fethu ‘da blydi siotgyn?” meddai Crid, ei llais yn mynd yn uwch fesul gair gyda lefel ei siom a’i hanghred.
Rhoddodd Crid ei bwced a’i mop i lawr ym mhorth y drws a thynnu ei sigâr mas o’i cheg. Cododd y siotgyn o’r llawr ac edrych arno’n fanwl fel ditectif mewn crime scene. aroglodd y baril gyda dau sniffad uchel. Yna rhoddodd hi hep gwybodus cyn taflu’r dryll ar y soffa yn saff. Pwyntiodd ei sigâr ar Ermyg a dweud,
“Ma’ blydi melltith arall arnat ti Llechgi. ‘Na’r unig reswm. Galla’ i d’imlo fe ar y dryll ‘na.” 
Yna ffliciodd Crid ei sigâr ar draws y lolfa. Wrth iddo hedfan drwy’r awyr, trodd y sigâr yn ffigwr bach gyda breichiau a choesau a ddechreuodd chwifio’n wyllt yn yr awyr. Gellid gweld dau lygad gwyn arno hefyd. Glaniodd yn llwch y lle tân lle gellid clywed sgrech dawel eiliad wedyn.
“Melltith? Un arall?” meddai Ermyg, gan anwybyddu sgrech y sigâr, “Sawl melltith all un dyn dynnu arno fe ei hunan?”
“’Sdim rheolau am bethe fel hyn ‘chan” meddai Crid “Dyw hi ddim fel blydi i-tunes ble chi ddim ond yn gallu ca’l e ar dri dyfais ar y tro. ‘Sdim terms and conditions am ga’l melltith.”
Nid oedd yn gall i Ceridwen ddweud mai hi oedd wedi melltithio Ermyg; melltith i’w amddiffyn rhag dolur o unrhywfath ers Yr Angladd pan roedd Wyn y Galch wedi ceisio ei felltithio fe hefyd. Pe bai Ermyg yn dod i wybod hynny, byddai’n gofyn pam a doedd hi ddim yn amser i ddweud pam wrtho fe eto. Byddai hud Ceridwen yn cadw Ermyg yn ddiogel tra bod yn Nyffryn Nobath a nes bod hi’n gallu llwyddo i adfer y sefyllfa.
Tynnodd Crid ffôn a chlustffonau mas o’i ffedog las a dechrau drefnu ei offer wrth fwydro wrth ei hunan, 
“Blydi ffycars Apple wedi weipio popeth yn lân.”
“Beth alla i neud te?” gofynnodd Ermyg gyda phaned newydd arall yn boeth yn ei ddwylo.
“Be’ allet ti ‘neud?” atebodd Crid cyn chwerthin fel brân, “Dylet ti blydi cofio dysgu byw y crwt. Cer i ffindo merch. Merch bert hyfryd. Cer i shelffo hi’n dwll.”
Plannwyd yr hedyn.
“Merch? Fi?” meddai Ermyg gan stopio syllu’n drist ar y te yn ei baned; ei bair di-egni. “Ffindo wejen?”
“Sdim ishe ffindo wejen” meddai Crid “Jyst merch bert i...sdim clem ‘da ti o’s?”
“Ond pwy fyddai’n lico fi?” ocheneidiodd Ermyg “Dw i ishe bod yn olygus ond dw i ddim.”
Cymerodd Crid dim sylw o hunan-ddosturi y dyn oedd yn credu mai ei bos hi oedd ef. Doedd dim helpu rhai. Yn enwedig y to ifanc. Blydi gwastraffwyr a granffalawyr bob copa walltog. Roedden nhw’n methu weipo eu tinau ar ôl cachu heb dynnu ffycin llun ohono. Roedden nhw’n methu canolbwyntio ar un peth am fwy nag un funud cyn torri a ffocysu ar rhywbeth newydd. Yr unig agwedd gyson yn eu bywyd oedd yr ymadrodd “Dw i ishe”. Dw ishe bod yn driw i fi fy hunan. Dw i ishe gweld y byd. Dw i ishe achub y byd. Dw i ishe bod yn boblogaidd. Dw i ishe bod yn jyst, wel ti’mod ‘fi’. Dw i ishe stopio’r byd rhag ecsploetio pobl tlawd. Dw i ishe mynd i wlad dlawd i weld y bobl sy’ yno a’u helpu nhw. Dw i ishe codi ysgol ar y paith yn y Wladfa. Dw i ishe bod yn iach. Dw i ishe bod yn sexy. Dw i ishe abs. Dw i ishe ap. Dw i ishe gweld Kanye yn y Principality. Dw i ishe prynu crys-T dope. Dw i ishe cael llwyfan. Dw i ishe cael llais. Dw i ishe bawb fy nghlywed i. Dw ishe pawb cael eu clywed. Bolycs i gyd. Ydy’r to ifanc yn sylweddoli beth yw clywed llais pawb? Sŵn aflafar, dyna beth. Dyna pam dyw Duw ddim yn ateb dim. Gormod o gwyno. 
Wrth feddwl, byddai to’r tinlun yn enw da am y cwbl lot. Doedd dim gobaith. Roedd Crid wedi bod yn trio Ermyg helpu ei hunan ers achau. Hi oedd wedi rhoi y melltith arno i’w gadw rhag brifo ei hunan. Ond yn ddiweddar, roedd hi’n amau bod hi wedi gwneud y peth iawn. Oedd hi wedi gwneud y peth iawn? Bob dydd yng nghwmni’r pais bach, daethai awydd nad oedd pwrpas cadw trio adfer trigolion Dyffryn Nobath. Efallai y dylai hi drio symud ardal a ffindo pobl newydd egnïol a fyddai’n credu ynddi fel duwies. China? Roedd gormod o fytholeg gan China. Indonesia? Indo-ble? Ond roedd Kazakstan yn opsiwn diddorol. Gallai drio ei lwc yno.
Roedd Crid wedi gweithio i bob perchennog Y Plas ers canrifoedd. Ond y crwt hwn oedd ei her mwyaf. Roedd ei hwyliau yn is na Ffos Mariana. A dylai Crid wybod am ddyfnder y lee ‘na gan mai yno y cuddiodd hi ei mab twp Afagddu, mewn ogof o dan y cefnfor. Pe bai Ermyg yn cario ymlaen fel hyn, byddai’n bosib y byddai cwmni gyda Afagddu cyn bo hir. Ond roedd dal ychydig o ffydd ganddi yn eu dilynwyr eraill.
Rhoddodd ei chlustffonau i mewn a siarad â’i i-phone. Mewn acen braidd yn od, fe ddywedodd tri gair yn araf ac yn glir i mewn i’w ffôn. 
“Rhestr Chware...Glanhau” 
Arhosodd Crid yn llonydd am eiliad cyn gwenu a dechrau symud i ryw rhythm anghlyw yn ei chlustiau. Symudodd ei phelfis yn lig-log fel pe bai’n beunes yn trio denu paun. Cododd ei mop a’i bwced a dawnsloerodd ei ffordd allan o’r bwthyn fel pe bai’n Michael Jackson. Aeth i lanhau’r Plas, gan adael Ermyg, ei lanast pathetig a’i baned llugoer i ystyried ei sefyllfa. Oriau wedyn, pan ddaeth Crid yn ôl ar ôl cwpla ei waith, roedd Ermyg dal yn eistedd yn yr un lle, heb symud tamaid, yn syllu ar ei baned o ddiobaith. Ar ei gwpan roedd llun cartŵn o haid o ddefaid ar lôn yn y cefn gwlad. Uwchben y defaid oedd y jôc ‘Traffic Jam in Wales’. 

Chwarddodd Ermyg a Crid nes eu bod nhw’n llefain.