“Proust and the Squid – The Story and Science of the Reading Brain” gan Maryanne Wolf

neu ‘Ydyn ni i gyd yn ddyslecsig?’

Adolygiad gan Stephen Mason (Review published in Y Faner Newydd Oct 2013)

Os mae plant bach gyda chi ac rydych chi’n becso am sut maen nhw’n dod ymlaen yn yr ysgol o ran dysgu darllen mae’na lyfr i chi sy’n gallu helpu goleuo’r holl broses. Mae “Proust and the Squid” gan y niwrolegydd Maryanne Wolf yn rhoi cais go dda ar egluro beth yw darllen yn ei hanfod a beth yw’r anawsterau posib mae plant yn dod ar eu traws wrth ddysgu’r sgiliau maen nhw angen i wneud y broses o ddarllen yn effeithiol. Wrth geisio gwneud hyn nid yw’r awdur yn siarad yn rhy wyddonol ar y cyfan ond yn hytrach mae hi’n cyfeirio’n aml at ‘wyrthiau’ darllen a’r pethau mae dynoliaeth wedi cyflawni o’u herwydd. Mae hwn yn llyfr sy’n gallu ysbrydoli ac yn addysgu ac sy’n gallu apelio at rieni ac athrawon yn eu tro. Nid oedd y pethau sy’ yn y llyfr hwn yn cael eu dysgu i mi fel darpar athro dros bymtheg mlynedd yn ôl a dw i’n amau bod y wybodaeth allweddol am y broses sy’n ganolog i addysg yn cael sylw haeddiannol o hyd gan y rhai sy’n hyfforddi athrawon yn y colegau heddiw. Cytunaf â’r awdur wrth iddi fynnu taw heddiw mae gyda ni fwy na digon o wybodaeth i gydnabod anhawster darllen bob plentyn sy’ mewn peryg o’i ddatblygu a mwy na digon o wybodaeth i ddysgu bron bob un ohonyn nhw i ddarllen yn effeithiol. Rhaid gofyn y cwestiwn ‘Pam dydyn ni ddim te?’

Yn yr erthygl hon hoffwn i godi sawl pwynt o’r llyfr er mwyn tanio dadl a thrafodaeth ac wrth wneud hynny cadw mewn cof un peth pwysig sef y cwestiwn hwn – os, fel mae Wolfe yn honni, taw’r iaith lafar sy’n allweddol i ddysgu darllen yn effeithiol oes argyfwng tawel ym myd darllen yn y Gymraeg na allai ein hysgolion datrys ar eu pennau eu hunain?

Dydy darllen ddim yn naturiol.

Yn ôl Wolfe dydy’r broses o ddarllen ddim yn naturiol ac mae goblygiadau’r ffaith hon yn gallu bod yn fendigedig ac yn drasig i lawer o bobl ond yn enwedig plant. Nid yw darllen yn datblygu’n naturiol i blant yn yr un modd â golwg a’r iaith lafar sydd wedi’i ‘rhaglennu’ ynddon ni yn barod. Mae gan blant ddawn cynhenid am synau ond mae argraff yn opsiwn atodol bod rhaid i ni ychwanegu’n ddiwyd ac yn ofalus. Mae’r safbwynt hon yn wahanol iawn i’r un sy’n llunio ein strategaethau darllen yn ein hysgolion heddiw sy’n ffocysu ar un neu ddwy elfen o’r broses ddarllen a dim mwy.

Yr iaith lafar

Yn ôl Wolfe, mae plentyn dosbarth canol cyffredin yn clywed 32 miliwn mwy o eiriau na phlentyn tlawd, difreintiedig erbyn pump oed. Mae hwn yn swnio’n nifer anhygoel. Y rhai fydd yn cael dysgu darllen yn anodd yw’r rhai sy heb gael stori ei darllen iddynt, sy heb glywed hwiangerddi, rhigymau a cherddi, sy ddim yn dychmygu ymladd â dreigiau a phriodi tywysog. Ond, fel y dywedir yn uchod mae Wolfe yn mynnu taw heddiw mae gyda ni fwy na digon o wybodaeth i gydnabod anhwaster darllen bob plentyn sy’ mewn peryg o ddioddef tlodi geiriau a mwy na digon o wybodaeth i ddysgu bron bob un ohonyn nhw i ddarllen yn effeithiol. 

“Mewn llyfrau dw i wedi teithio, dim dim ond i fyd pobl eraill ond i mewn i’m byd fy hun. Yna dysgais pwy oeddwn i a phwy roeddwn i eisiau bod.”

Anna Quindlen

Dyslecsia

Un o’r pethau mwyaf diddorol am y llyfr hwn yw’r diffiniad pendant mae’r awdur yn rhoi am ‘beth yw dyslecsia’. Yn ôl Wolfe nid anhwylder darllen yw dyslecsia gan nad yw’n bosib dioddef diffyg mewn ‘adran darllen’ yr ymennydd. Y rheswm am hyn yw nid yw’r fath beth fel ‘adran darllen’ yn bodoli yn yr ymennydd. Ystyr dyslecsia yw bod bob ymennydd yn cael ei drefnu’n wahanol ac i rai sy’n ddyslecsig mae’r trefniant hwn yn cael hi’n anodd dysgu sgiliau darllen. Felly mae’n bosib bod yn ddyslecsig ym mhob iaith hyd yn oed iaith fel y Gymraeg sy’n weddol ffonetig. Mae’n anhygoel i glywed athrawon cynradd y dyddiau yma sy’n honni nad yw’n bosibl bod yn ddyslecsig yn y Gymraeg gan ei bod hi’n iaith ffonetig. Dylai sylwadau fel hyn codi pryderon mawr os rydyn ni’n credu Wolfe. Yn ogystal felly mae’n bosib bod pob plentyn sy’n dioddef o ddyslecsia yn dioddef yn wahanol. Efallai taw hwn yw’r peth sy wedi helpu creu’r myth dros y blynyddoedd taw plant diog yw llawer sy’n ddyslecsig. Nid plant diog mohonynt ond plant sy’n dioddef mewn ffordd nad yw’n bosib cydnabod yn hawdd. Ar ochr arall y geiniog  mae Wolfe yn sôn hefyd am sut mae trefnu’r ymennydd yn wahanol yn gallu cynnig doniau anhygoel fel y rhai oedd gan Albert Einstein a Leonardo da Vinci a’u tebyg. Eto mae’n drist bod rhaid pwysleisio i rai heddiw efallai nad yw plant sy’ gyda dyslecsia yn ‘dwp’. Ond oni bai bod plentyn yn gallu cael gafael ar ei addysg wrth ddarllen yn effeithiol mae’n wir i awgrymu na fydd llawer o blant dyslecsig yn dueddol o ddysgu mor effeithiol ac mor gyflym ag eraill. Yn enwedig yn ein system addysgu heddiw sy’ dal mor hen ffasiwn.

Mae’r wybodaeth hon am hanfod dyslecsia yn arwain yn amlwg at y ffaith hon sef – os mae trefn yr ymennydd yn elfen enetig mae dyslecsia yn gallu bod yn enetig hefyd ac mae rhieni yn gallu pasio eu math o ymennydd ymlaen i’w plant. Felly mae’n wir i gredu os rydych chi wedi cael hi’n anodd dysgu darllen mae’n bosib y bydd eich plant hefyd. Mae Wolfe yn esbonio bod plant dyslecsig fel hyn yn tueddu bod yn llai sensitif i rythm yr iaith lafar a’r pwyslais a phatrymau curiadau.

Rhagweld Dyslecsia

Y rhagfynegydd gorau o ddyslecsia ym mhob iaith a brofir gan Wolfe oedd prawf perthynol i amser o’r enw “cyflymder enwi”. Yn ôl y llyfr enghraifft addas o hwn fyddai gofyn plentyn i enwi lliwiau. Mae’r gallu enwi lliwiau yn gyflym yn gallu rhagfynegi methiant neu lwyddiant dysgu sgiliau darllen. Mae plant dyslecsig yn gallu enwi lliwiau ond ddim yn gyflym. Yn syml iawn does dim amser i feddwl drwy’r cyfrwng o brint gan lawer o blant sy’n ddyslecsig.

Mathau o Ddyslecsia

Yn ôl Wolfe mae tri math o ddyslecsia:

Math 1: problemau ymwybyddiaeth o ffonemau (synau iaith)

Math 2: cyflymder enwi araf (prosesu)

Math 3: cymysgedd o fath 1 a 2 (yn aml gelwir hwn yn ‘ddyslecsia delfrydol’ /’classic dyslexia’)

Yn ôl y llyfr mae gan tua 25% o siaradwyr Saesneg gwael y fath gyntaf (Math 1). Mae Math 1 yn fwy cyffredin yn Saesneg oherwydd system ysgrifennu yn yr iaith fain yn weddol anghyson. Mewn ieithoedd fel Almaeneg a Sbaeneg (a’r Gymraeg?) sy’ ganddynt system ysgrifennu fwy cyson mae Math 2 yn fwy cyffredin. Yn Saesneg mae anhawsterau rhuglder yn cael eu colli gan nad yw athrawon yn canfod problemau ‘dadgodio’ iaith ond dydyn nhw ddim yn gweld nad yw’r plentyn yn gallu darllen yn ddigon cyflym er mwyn deall. Yn fwy diddorol byth yw ffaith nad yw tua 10% o ddarllenwyr gwael yn gallu cael eu dosbarthu o ran y tri math hyn. Mae hwn yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil a mwy o ddosbarthu. Un diffyg  posib fyddai diffyg o ran cof tymor byr.  Ar ôl darllen llyfr Wolfe dyma’r diffyg dw i’n weddol sicr sy gyda fi ers blynyddoedd maith ond dim ond wrth gyrraedd deugain oed yn ei sylweddoli. Dyma ddiffyg sy’n gallu achosi fi ddarllen yr un paragraff drosodd a throsodd heb ddeall ei hystyr, hyd yn oed o ran pynciau weddol syml. Mae’n bosib dyna pam dw i wedi datblygu strategaeth o ddefnyddio mapiau meddwl i wneud nodiadau wrth ddarllen dros y blynyddoedd heb sylweddoli pam. Ond pwy a ŵyr? Efallai taw dim ond twpsyn diog ydw i.

Niwroleg

Yn ei llyfr hynod o ddiddorol mae Wolfe yn trafod ei gwyddoniaeth hi sef niwroleg ac mae hi’n gwneud e’n syml ac yn gall. Mae hi’n trafod y dechnoleg newydd mae hi’n yn ei ddefnyddio fel niwrolegydd i ‘weld’ sut mae’r ymennydd yn darllen a beth sy’n digwydd cyn ac ôl i ddarllen yn datblygu yn yr ymennydd. Mae hi’n dweud bod y rheswm am y gallu darllen sy gyda ni yw plastigrwydd yr ymennydd ac wrth ddysgu darllen mae’r ymennydd yn newid yn ffisiolegol and yn ddeallusol. O ganlyniad hyn mae hi’n casglu rhywbeth pwysig; sef i ryw raddau ‘ninnau yw ein darllen’ – ‘we are what we read’. Mewn oes lle mae cyfryngau torfol yn fwyfwy dylanwadol mae’n bosib taw hwnnw yw’r honiad mwyaf ysgytwol. Wedyn mae’n anodd i riant beidio becso a oes gobaith am eu plant ddatblygu’n ddeallusol wedi eu corlannu gan ffonau, sgriniau, gemau a hysbysebion sy’n bwydo cymaint â sbwriel? Ond mae goblygiadau eraill i beidio darllen yn dda a dim ond darllen ystod gul o bynciau. I ystyried y pryderon hyn yn bellach mae Wolfe yn trafod barn yr athronydd Socrates a gredai bod y gair ysgrifenedig yn mynd i arwain at fyd llawn gwybodaeth heb ddoethineb ac felly un heb rinwedd chwaith. Credai Socrates bod rhaid i berson drosglwyddo gwybodaeth a bod heb ‘athro’ i addysgu gallai geiriau ysgrifenedig cael eu camddeall a’u gwyrdroi. Fel athro profiadol byddwn yn cydymdeimlo â Socrates i raddau mawr. Un o’r pethau rydw i’n gweld yn yr ysgol heddiw yw plant yn caffael ar wybodaeth heb ddealltwriaeth. A’r prif reswm am hyn wrth gwrs yw’r we. Mae Wolfe yn cydnabod hwn hefyd ac yn gofyn y cwestiwn a ddylai rhieni heddiw bryderu am effeithiau’r byd digidol ar ddyfnder addysg eu plant. Mae hi’n gofyn a fydd y byd hwn yn cynhyrchu ‘balchder gwag’ mewn cymdeithas sy’n cynhyrchu plant sy’n dadgodio iaith ond yn methu deall hi gan fod eu ffug-ddoethineb yn stopio nhw rhag dwysáu eu gwybodaeth. Felly, mae Wolfe yn dweud, nid yw’n ddigon i ddysgu plant i ddarllen ond i ddarllen yn dda. Gan gynnwys y rhai sy’n ddyslecsig.

Y Gwyddorau

Mae Wolfe yn dweud bod gwyddor iaith yn bwysig wrth ddysgu darllen. Mae plant sy’n dysgu ieithoedd â gwyddorau mwy cyson, fel Groeg, Eidaleg ac Almaeneg (a Chymraeg?) yn dod yn rhugl yn fwy cyflym na phlant sy’n dysgu gan ddefnyddio gwyddorau llai cyson, fel Saesneg a Ffrangeg. Yn yr ieithoedd ‘cyson’ hyn mae darllenwyr yn dysgu’n gyflymach ac yn osgoi llawer o amser o ddysgu rheolau ffonetig. Mae darllenwyr yr ieithoedd hyn yn cyrraedd eu llabedau’r arlais (temporal lobes) yn fwy cynnar ac yn defnyddio nhw’n fwy na darllenwyr yn ieithoedd fel Saesneg a Ffrangeg. Mae’n ymddangos bod yr amser byrrach sydd angen i ddadgodio yn caniatáu mwy o amser am ddeall. Yn fwy anhygoel unwaith eto yw’r honiad bod gwyddorau yn adeiladu ymenyddiau gwahanol ac nid dim ond ‘ninnau yw ein darllen’ ond ‘ninnau yw ein gwyddorau’. Mae system ein gwyddorau a’r iaith (neu ieithoedd) rydyn ni’n gallu darllen ynddynt yn gallu dylanwadu ar sut rydyn ni’n gweld y byd.

“Heb eiriau, heb ysgrifennu a heb lyfrau ni fyddai dim hanes, dim syniad am ddynolryw.”

Hermann Hesse

Darllen ac Empathi

Mae gallu darllen yn anrheg i ni medd Wolfe gan fod e’n galluogi ni i gydymdeimlo ag eraill a hefyd yn caniatáu i ni weld taw unigolion ydyn ni ond nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain yn y byd. Mae darllen yn rhugl ac yn effeithiol yn mynd â ni i mewn i feddyliau pobl eraill, i mewn i fyd arall a thu hwnt i ystyr y geiriau eu hunain. Oherwydd hyn mae Wolfe yn honni bod darllen wedi galluogi dyn i feddwl yn fwy ‘gwreiddiol’.

Llythrennedd Cynnar

Mae Wolfe yn dweud bod y ffordd gorau o ddysgu darllen yw yng nghol yr oedolyn. Mae cysylltu clywed y gair a gweld y gair yn gosod y sylfaen am y broses o ddarllen yn ogystal â chysylltu darllen a theimlo cariad a chael sylw. Mae gwaith Wolfe yn dangos bod gallu enwi pethau yn ifanc ac wedyn i enwi llythrennau wrth dyfu yn rhoi rhagfynegydd sylfaenol i ba mor effeithiol y bydd y gallu darllen yn datblygu mewn plentyn dros amser. Mae hi’n esbonio bod y gallu hwn yn dibynnu ar broses o’r enw ‘myelination’ yn yr acsonau niwronol (neuron axons) sy’n datblygu’n ddigonol rhwng 5 a 7. Felly mae Wolfe yn honni (ar dud.96) bod “ymdrechion i ddysgu darllen cyn 4 neu 5 oed yn fyrbwyll yn fiolegol ac yn wrthgynhyrchiol i lawer o blant.” Mae hi’n ychwanegu taw athrylith darllen fel y cymeriad scout yn y nofel ‘To Kill A Mockingbird’ yn brin mewn realiti. Beth sy’n bwysig yw gwrando ar eiriau a cherddoriaeth ac awchu’r gallu i glywed synau geiriau – y ffonemau (phonemes). Un peth arall sy’n ddiddorol iawn yw bod Wolfe yn dweud bod hi’n bosib bod y broses hon yn datblygu yn fwy araf mewn bechgyn. Pe bai hwn yn wir a fyddai’n werth ail-edrych ar sut rydyn ni’n dysgu ein bechgyn i ddarllen?

Dwyieithrwydd

Does dim llawer o sôn am ddwyieithrwydd gan Wolfe yn ei llyfr ac ar y cyfan cartrefi sy’n siarad Sbaeneg adre a Saesneg yn yr ysgol mae hi’n trafod. Ond dyma un dyfyniad pwysig yn y Saesneg gwreiddiol,

“Language enrichment at home provides an essential cognitive and linguistic foundation for all learning and it does not need to be in the school language to be of help to the child. Children who have impoverished environment in their home language, on the other hand, have no cognitive or linguistic foundation for either their first or the second, school language.”

Darllen yn rhugl

Mae gan Wolfe ddiffiniad ei hunan am beth yw darllen yn rhugl. Mae hi’n dweud,

“Fluency is not a matter of speed, it is matter of being able to utilise all the special knowledge a child has about a word – its letters, letter patterns, meanings, grammatical functions, roots and endings – fast enough to have time to think and comprehend. And everything about a word contributes to how fast it can be read.”

Mae Wolfe yn disgrifio cyrraedd y safon yma yn ôl disgrifiad Graham Greene, sef y ‘dangerous moment’. Dyma’r safon lle mae person yn gallu CASGLU (INFER) beth mae’r sefyllfa arwr mewn stori yn ei feddwl, RHAGFYNEGI (PREDICT) beth fydd y dyn drwg yn ei wneud, TEIMLO (FEEL) sut mae’r arwres yn dioddef a MEDDWL (THINK) amdanyn nhw eu hunain a’u hymateb i beth maen nhw’n darllen. Dyma’r foment rydyn ni’n gallu UNIAETHU (IDENTIFY) ag eraill.

I mi dyma’r rheswm pam fod darllen mor bwysig; mewn byd sy’n cyfeirio at ddyfodol ansicr beth dydyn ni ddim eisiau ein plant a phlant ein plant i wneud yw stopio cydymdeimlo ac uniaethu â’i gilydd. Dyna drychineb y gallen ni osgoi yn ôl Maryanne Wolfe.

“Proust and the Squid – The Story and Science of the Reading Brain” Maryanne Wolf

Icon Books UK £9.99  ISBN 978-184831030-8

Rhagolygon anwybodaeth a hiliaeth gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg ar gyfer Dydd Llun y deunawfed o Fedi 2017.

(cerddoriaeth heddychlon yn tawelu…) Ac yn awr, rhagolygon anwybodaeth a hiliaeth gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg ar gyfer Dydd Llun y deunawfed o Fedi 2017.

Cyflwynwyd gan Gymdeithas y Cerrig Blewog.

Mam Môn Cymru – Ynys y Cofis: trafferth mewn tafarn 8 o’r gloch, ffeit wrth y ffrwti erbyn deg, hiliaeth coc yn tawelu erbyn bore.

Penllŷn-Llithfaen: Caer wrth y môr mei ffwt 7 o’r gloch, naws conteflig erbyn nos. Siôn Corn yn siarad Saesneg erbyn fory.

Eryri-Ffestiniog: Rhybudd coch: Tai Haf; Codiad amlwg ar fryn gerllaw, arwydd newydd erbyn nos. Siawns o ffrwydrad wedyn. Trychineb economaidd erbyn bore.

Betws y Coed-Capel Curig a’r Bala: Dechrau gwlyb yng nghwm Tryweryn, gwynt cas o’r dwyrain yn parhau am ganrif. Posibilrwydd o fwy o gawodydd o gyfeiriad Lerpwl. Mor dawel â’r bedd erbyn bore.

Rhosllanerchrugog a’r Cylch: Cadw yn cael ei boddi gan ddirmyg gerllaw, deiseb erbyn nos, callio erbyn bore.

Castell Harlech-Penrhyndeudraeth: dan warchae gerllaw, cipars yn codi fel cocs conteflig ond diflannu erbyn bore, synnwyr cyffredin yn codi o’r gorllewin erbyn fory.

Machynlleth: hipi ddim yn deall hambôn yn siop y cigydd, dwrn mawr yn codi erbyn cinio, rhagrithwr yn ffoi nol i’r ffin erbyn bore. Clais coch fory.

Pontrhydybendigeidfran: Welsh Not wedi ei anghofio, hiliaeth eithafol, ymerodraethol yn codi o gyfeiriad y dwyrain.

Rhaeadr Gwy-Cwm Elan-Cwmddeuddwr: Siawns o eitem shite ar BBC Newsnight. Welsh language expert my arse. Gwahoddiad i ffasgwyr gan gorfforaeth Prydain. Gwrthod talu trwydded teledu erbyn nos. Boicott erbyn bore.

Llanbedr-Pont-Steffan-Cwm-Ann-Caio: iaith estron ar stryd wrth swyddfa’r bost, iesu bost, sais sy’n cwyno. Sen enfawr siŵr. Naws conteflig yn aros am sbel.

Mynydd Llanybydder-Llanllwni: baner croes goch yn hedfan o ffenest fflat rhyw dwat. strange looks in local shop erbyn bore. It’s rude to speak Welsh when I don’t understand erbyn fory.

Preseli: corwynt Beca yn codi, peryg i dai haf, tywydd braf wedyn.

Dinbych y Pysgod-Rhingyll y Wasgod Wen: Llyfrau Gleision, Carnhuanawc yn troi yn ei fedd erbyn nos, ysgolion Cymraeg yn codi yn de erbyn fory er poer yn codi mewn ambell gawod o’r cymoedd.

Bancyfelin-Cranc y Delyn: ffrae yn Llangennech yn ffrwydro, Western Mail yn mwydro drwy’r prynhawn, dim clem erbyn nos, llywodraeth Cymru dim polisi erbyn bore. Gweledigaeth gwael.

Merthyr Tudful: jôc am gnychu defaid erbyn fory, ha ha ffycin ha erbyn nos.

Maesteg-Rhondda: Churchill sending in the troops 1910, Nigel Farage, sending in the clowns 2016. Rhagolwg tymor hir – dim newid.

Caerffili-Credufe: dying language, waste of money i ddechrau. forced down my throat wedyn. Posibilrwydd we all speak English anyway erbyn prynhawn. Naws conteflig yn codi o’r dwyrain erbyn nos.

Penybont ar Ogwr: Rhybudd Coch: Sgymraeg: nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd, anfonwch unrhyw gwaith i’w gyfieithu. Codiad y ffordd yma wedyn. Diod Caca Mwnci a Dant y Llew. Rhybudd: Llwybr Hiliol erbyn nos.

Ystrad Mynach a Mynwy: Mandarin yn mwy o iws i blant Cymru erbyn y prynhawn, pennaeth ysgol breifat yn ymddiheuro erbyn nos, honni bod addysg Gymraeg yn beryg i blant erbyn fory.

Pont-y-Pŵl-y Fenni: despite being taught in Welsh yn codi’n gryf, I’m not anti the language but erbyn nos, posibilrwydd it’s just a Principality erbyn fory.

Y Gelli Gandryll: posibilrwydd Urdd Gobaith Cymru yn eithafol yn y bore, Boris yn Brif weinidog yn beth blydi marfles erbyn nos. Naws conteflig o gyfeiriad Llundain dan gwmwl parchusrwydd dosbarth canol erbyn fory.

Epynt-Pont-Senni: Ayho gyrcali, bara menyn MOD i ddechrau, hyfforddi ar ffermydd ar hyd y nos, dim siawns o ddychwelyd erbyn fory.

Abergwesyn-Cilmeri: Rhybudd: Llifogydd mis Rhagfyr; anodd croesi rhyd o’r gogledd, siawns bod twysog yn colli pen erbyn nos, wylit wylit erbyn fory.

Caerdydd: Rhybudd Coch: coc yn canu’r anthem, John Redwood, erchyll gychwyn cynta’, rhonc wedyn, ac yn lladd y Gymraeg bob cyfle wedyn.

Ac yn nawr, cyn darlleniad fyw Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc, nôl at ein sylwebaeth ar Garnifal Aberaeron… (cerddoriaeth reggae yn dechrau canu… fadeout)

Graddfa Hiliaeth Gwrth-Gymreig
crëwyd gan Gymdeithas y Cerrig Blewog

Branwen, Bendigeidfran a’r Argyfwng Bancio

'Branwen, Bendigeidfran and the Banking Crisis' - published in Y Faner Newydd Issue 77 2016

“O’r holl foddau posib sydd gennym o drefnu bancio, yr un sy’ gennym heddiw yw’r gwaethaf”

Mervyn King, Governor of the Bank of England (2003-2013) ar 25ain o Hydref 2010 (tud. 21 Modernising Money)
Efallai mai’r peth pwysicaf am chwedlau yw’r gallu i ddysgu i ni wersi oesol. Mae’r themâu a geir yn y Mabinogi mor bwysig a pherthnasol ag erioed. Ond hyd yn oed wrth wybod hyn, ces i fy synnu’n ddiweddar wrth ganfod cysylltiad posib rhwng y chwedl am Ynys y Cedyrn ac Iwerddon a’r argyfwng ariannol a welir yn ein canrif ni. Wedi’r cyfan, yn y bôn, stori am ddyled yw stori Branwen ferch Llŷr ac hefyd stori am ymdrechion ofer i gadw heddwch. Oes hyd yn oed mwy o wersi i ni ddysgu o’n chwedlau heddiw yn ein byd ôl-Brexit? 

Rydw i wedi ymddiddori yn syniadau mudiad o’r enw ‘Positive Money’ ers y chwalfa ariannol diweddaraf yn 2008. Roeddwn i eisiau dysgu mwy am ein system ariannol ond doedd y cyfryngau na’r llywodraeth yn cynnig atebion a oedd yn hawdd llyncu heb llond bwced o halen. Roedd angen cyd-destun arnaf er mwyn deall y system economaidd a oedd yn diswyddo fy ffrindiau, bwgwth cau ysgolion fy mro ac  roedd yn ceisio gwneud iechyd yn nodwedd y cyfoethog yn unig. Daeth yr ateb i mi ar ôl ymuno â Twitter. Gyda chymorth y deryn bach, fe ddarganfyddais syniadau newydd i mi wrth ddarllen gwybodaeth er wefan y mudiad ac wrth wylio’u fideos effeithiol a syml ar bynciau fel ‘Beth yw arian?’, ‘Pam mae gymaint o ddyled?’ a ‘Pam mae’r cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach fyth?’ Dysgais lawer mewn prynhawn. Ond roeddwn i eisiau dysgu llawer mwy.

Penderfynais brynu copi o lyfr a gyhoeddwyd gan y dyn ifanc a sefydlodd ‘Positive Money’ sef Ben Dyson. Dechreuodd y mudiad ar ôl iddo synhwyro diddordeb yn ei syniadau ar ei flog www.BenDyson.com Enw ei lyfr yw ‘Modernising Money’ a’r dyn arall gyda’i enw arno yw Andrew Jackson. Fel mae Ben Dyson yn dweud wrth y trosiad hwn ar ei flog, roedd sylwebwyr ac ‘arbenigwyr’ yn ceisio esbonio chwalfa y system bancio fel esbonio chwalfa adeilad gan ddweud...

“... mai pwysau’r bobl ynddo yn ormod. Doedd dim cais i ofyn a oedd strwythur yr adeilad ar fai.” 

Dyma ddetholiad o ffeithiau ysgytwol o'r llyfr:

•	Ceir argyfwng bancio bob 15 mlynedd ar gyfartaledd ers 1945 (Reinhart & Rogoff tud. 21)

•	Ceid 147 argyfwng bancio ledled y byd rhwng 1970 – 2011 (Laeven & Valencia tud.21)

•	Oherwydd argyfwng bancio 2008 collwyd arian gwerth o leiaf un flwyddyn gyfan o gynnyrch y byd i gyd - efallai gymaint â thair blynedd (Haldane tud.21)

•	Heddiw mae dros 97% o’r arian a ddefnyddir gan bobl yn y Deyrnas Unedig yn arian digidol a grëir gan y banciau preifat (broliant y clawr)

•	Byddai diwygio ddim ond un deddf o 1844 i stopio banciau rhag cynhyrchu eu harian eu hunain, yn ddigon i ddarparu’r DU gyda system ariannol sefydlog, llai o ddyled personol, llai o ddyled cenedlaethol ac economi llewyrchus (broliant y clawr)

Mae’r awduron yn denu sylw at y diffyg tystiolaeth sydd gan esboniadau clasurol ar gyfer gwreiddiau ein system o ddefnyddio arian. Maen nhw’n cyfeirio at Aristotle ac Adam Smith sy’n cytuno bod arian wedi tarddu’n naturiol ar ôl i lafur gael ei rhannu. Yn ôl y ‘cewri’ hyn roedd rhaid i gymdeithas droi at system o gyfnewid (‘barter’) a datblygodd hynny yn system cyfnewid darnau o fetel nes ymlaen. Yn ôl y cysyniad hwn nid yw arian ddim ond arwydd neu ‘token’, neu yn ôl John Stuart Mill yn 1848 (tud. 32 MM)

“There cannot, in short, be intrinsically a more insignificant thing, in the economy of society, than money...It is a machine.”

Dyma’r cysyniad a gredir gan lawer heddiw o hyd.

Yn ôl y dehongliad hanesyddol hwn, daw banciau nes ymlaen fel dim byd mwy na lle i bobl gadw eu metel / arian yn ddiogel. Ac felly, gan fod arian yn beth corfforol yn unig, nid yw benthyg arian yn cael effaith ar yr economi gan ei bod yn gwneud dim ond trosglwyddo adnoddau o un person i’r llall. Yn y cysyniad hwn mae banciau yn ddim byd ond ‘middle-man’. Am y rheswm hwn fe gredir gan y rhan fwyaf o arbenigwyr economaidd heddiw nad yw arian na banciau yn cael effaith economaidd. Hynny yw, dylid anwybyddu banciau wrth ystyried sut mae’r economi yn gweithio. Yn ôl tudalen 33 ar MM...

“This belief means that today hardly any economic models have a place for banks, money or debt.”

I’r person sy’ newydd colli ei swydd ar ôl cyflwyniad ‘Austerity’ ar ôl trychineb 2008, i’r plentyn heb ysgol lleol ac i’r claf sy’n aros am sgan ers wythnosau - mae’r diweddglo hwn i’w weld yn hollol absẃrd. A’r rheswm yw hyn; heddiw mae banciau yn creu arian o ddim.
Wrth gwrs mae derbyn hwn yn beth anodd iawn i lawer o Gymry gan fod gennym barch traddodiadol enfawr at farn yr ‘ysgolheigion’ ac ar yr un pryd wedi dewis anghofio hanes ein radicaliaeth. Os bydd Cymry yn llewyrchus yn y ganrif hon a dal yn aros yn ‘Gymru’, bydd rhaid ail-ddarganfod ein radicaliaeth yn fy marn i. Ond os rydyn ni yn derbyn bod llawer o’r arbenigwyr economaidd yn anghywir beth felly yw gwir wreiddiau ein system ariannol? Yr ateb, yn ôl y llyfr hwn a’r anthropolegwr David Graeber yw hyn; dyled.

Mae gennyf barch enfawr at syniadau David Graeber, anthropolegwr sydd yn gweithio nawr yn LSE yn Llundain ar ôl gael ei ‘wrthod yn ddadleuol’ o fyd academaidd yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Iâl. Yn MM mae Graeber yn mynnu “nad oes dim tystiolaeth” a ddatblygodd arian o’r system gyfnewid a bod “llwyth o dystiolaeth” o blaid honni bod hanes confensiynol ein system ariannol yn wyneb i waered. Hynny yw, ni ddechreuodd pethau gyda’r system gyfnewid cyn datblygu arian ac yna system o ddyled a chredyd. Yn hytrach, daeth y system o ddyled a chredyd yn gyntaf sef beth rydyn ni’n galw heddiw yn ‘arian  rhithwir’ – ‘virtual money’. Yn ôl Graeber mae tystiolaeth anthropolegol yn cyfeirio at gymdeithas, ar ôl y rhaniad llafur, lle roedd adnoddau a nwyddau a roddwyd am ddim o fewn y gymdeithas ar yr amod y byddai’r person a dderbyniodd y nwyddau yn talu yn ôl rhywbryd yn y dyfodol. Yn ôl Graeber, byddai’r syniad o ‘berchen’ ar rywbeth yn y gymdeithas hon wedi achosi rhwygau tu fewn iddi felly datblygodd arferion y byddai’n ceisio osgoi arwain at ymryson, lladd a rhyfel. Mae Graeber yn cyfeirio at wraidd y ferf Saesneg ‘to pay’ sy’n dod o air sy’n meddwl ‘tawelu’ neu ‘to appease’. Nod arian felly oedd cadw cymdeithas yn un, yn heddychol ac yn sefydlog ac hwn felly oedd system o ddyled a chredyd. 
Hwn felly, yn ôl David Graeber, oedd y system a ddatblygodd yn gyntaf yn ein cymdeithas. Wrth ystyried hyn atgoffir o ddeddfau Hywel Dda. Ai chwalu ei ddeddfau call ef oedd dechrau ein system ariannol presennol a’i gelwyddau beryglus, rhyfelgar?

Mae’r llyfr MM yn parhau wrth gyfeirio at y ffaith bod y ceiniogau mwyaf cynnar wedi ymddangos llawer o amser ar ôl y systemau dyled a chredyd hyn (yn Tsiena, India a’r Môr Aegeaidd rhwng tua 600-500 C.C.) Roedd hi’n ddiddorol iawn i nodi’r pwynt nesaf gan Graeber ar dud.35. Mae’n gofyn ai cyd-ddigwyddiad oedd creu system arian yn ystod cyfnod lle roedd bwgwth rhyfel a thrais ymhobman? Y bygwth hwn a fynnodd y byddai’r system dyled a chredyd, mor effeithiol rhwng pobl mewn cymdeithas sefydlog, yn newid i ddefnyddio metelau gwerthfawr. Mae Graeber yn esbonio’r newid fel hyn...

“On the one hand, soldiers tend to have access to a great deal of loot, much of which consists of gold and silver, and will always seek a way to trade it for the better things in life. On the other hand, a heavily armed itinerant soldier is the very definition of a poor credit risk. The economists’ barter scenario might be absurd when applied to transactions between neighbours in the same small rural community, but when dealing with a transaction between the resident of such a community and a passing mercenary, it suddenly begins to make a great deal of sense...”
(tud.35 MM)

Ond sut mae hwn i gyd yn perthyn i fyd y chwedlau a’r stori am Branwen, Bendigeidfran a Matholwch? Wel, mae ambell gymhariaeth rhwng y chwedl a stori yr Eurozone a Groeg heddiw yn fy marn i. 
Yn y chwedl mae Iwerddon eisiau ymuno â grym Ynys y Cedyrn ac yn derbyn gwobr (priodas Branwen) sy’n creu disgwyl y byddant yn talu nôl yn y dyfodol. Nid yw cynnig ceffylau Matholwch yn wobr cystal â llaw merch y Brenin Llŷr ond dyna i gyd sydd gan wlad dlawd. Er heddwch mae Bendigeidfran yn cytuno i’r cais ac mae pawb yn dathlu. Wedyn, fe ddaw Efnisien yn ôl o hela a chwalu’r cytundeb ac mae’n rhaid i Bendigeidfran gynnig mwy o wobrau i Matholwch i gadw’r heddwch a sicrhau undeb a heddwch rhwng Ynys y Cedyrn ac Iwerddon. Mae Iwerddon yn derbyn y Pair Dadeni, gwobr fwyaf y wlad. Mae hwn yn ddigon i gynnal undeb am gyfnod ac mae mab yn cael eni i Branwen a Matholwch o’r enw Gwern. Yn y cyfamser mae teulu Matholwch, sy’n methu anghofio trais y gorffennol, yn meddwl y gallen nhw elwa’n fwy byth o’r trefniant gydag Ynys y Cedyrn ac yn ei berswadio fe i gam-drin eu gwobr fwyaf, sef Branwen. Mae’r brâd hwn yn gyfrinach nes bod Bendigeidfran yn dysgu amdano ac yno mae’n rhaid ymateb i’r sarhad rhag ofn colli awdurdod ymhlith ei bobl. Mae’r penderfyniad i rhyfela yn un emosiynol ac yn un wleidyddol er mwyn peidio colli parch ymhlith gwledydd eraill. Ond nid un rhesymegol yw. Mae’r canlyniad yn drychinebus. Ar ôl cyfnod hir o ryfela yn Iwerddon mae Ynys y Cedyrn yn ennill y frwydr ond yn colli popeth wrth ddychwelyd adre i weld bod eu gwlad wedi cael ei goresgyn gan estronwyr tramor. 

I mi, dyma stori Ewrop ers 2008.

Iwerddon Matholwch yw gwledydd bychain fel Groeg sydd eisiau manteisio ar rym gwledydd mawr ac yn meddwl eu bod yn haeddu manteisio arnynt oherwydd y gorffennol. Bendigeidfran yw’r gwledydd mawr, pwerus, cyfoethog fel Yr Almaen sydd eisiau cadw heddwch gan wybod bod pris rhyfel yn ddrud ac yn gwerthfawrogi mantais masnach. Branwen yw braint yr Undeb Ewropeaidd a’i marchnad rydd sydd yn ffrwythlon ond sy’n cael ei cham-drin yn ofnadwy gan ddynion barus.
 
Ond pwy (neu beth) felly yw Efnisien? Y bancwyr seicopathig yn Llundain sy’n trin yr economi fel gêm? Mae’n debyg. Mae hela a rhyfel yn gêm i Efnisien ac mae’n dwlu arni. Does dim ots ganddo am ddioddefaint nes ei bod hi’n rhy hwyr ac mae ei genedl wedi’i difetha.

A dyma ni nawr wrth wynebu chwalfa Ynys y Cedyrn unwaith eto ar ôl 2008 ac ar ôl Brexit 2016. Mae ‘hedge funds’ yr estronwyr dramor yn plymio ar ein drysorau cyhoeddus fel adar ysglyfaethus er mwyn eu llowcio a’u defnyddio er mwyn hwb tymor-byr i economi sy’n creu gormodedd o gwningod tlawd.
Ble mae Cymru Sydd yn y chwedl hon tybed? Ai Gwern ydyn ni? Yn grwt diniwed heb allu amddiffyn ei hunan? Ai y cyrff yn y pair dadeni ydym? Wedi ein taflu yno gan ein gwleidyddion mewn gobaith bydd rhyw hen hud yn llwyddo i greu cenedl unwaith eto? Ydyn ni’n aros ar Ynys Gwales mewn rhyw freuddwyd o genedlaetholdeb diwylliannol, wedi meddwi ar gerddi a chanu? Neu, mewn gwirionedd, ydyn ni ar goll o’n chwedl ein hunain erbyn hyn? Ydyn ni y Cymry wedi diflannu o lwyfan y prif gymeriadau? 
Sefyllfa bregus yw sefyllfa ein cenedl fach ar hyn o bryd. Rydyn ni ar drothwy. Gallen ni ddadeni yn y ganrif hon pe bai modd mwy o bobl ddeall y system sydd wedi bod yn ein cam-drin ni ers dros mil o flynyddoedd a’u newid er mwyn daioni pawb yng Nghymru. Neu gallem foddi mewn pair o anwybodaeth a terfysgaeth mewn byd llawn dynion fel Efnisien sy’n dychwelyd dro ar ôl dro i’n treisio ni. 
Mae’n amser ail-ddysgu gwers ein chwedlau mae’n debyg. Ond efallai mai’r wers hanesyddol bwysicaf i ddysgu wedi canrifoedd oll yw hyn; dydy dynion ddim yn dda wrth ddysgu gwersi hanes. Dyna’r wers gyntaf. 
I’r gad?


‘Modernising Money’ -  Andrew Jackson & Ben Dyson 2014 - Cyhoeddwyr TJ International Ltd.
Positive Money www.postivemoney.org
‘Debt: The First 5000 years’ - David Graeber 2011 - New York, Melville House
Diolch hefyd i @EinCymraeg ar Trydar (a sawl deryn bach arall a’u negeseuon bach pwysig)

Stephen Mason 23.07.16