neu ‘Dynol; rywsut‘
(ar ôl darllen cyfieithiad Saesneg o gerdd Bwyleg gan Anna Kamieńska)
–
“Beth yw bod yn Gymro?”
Gofynnodd y Sais.
Baich dybiwn i,
Trymedd traddodiad y tadau hen
A gollodd fy iaith ganrifoedd yn ôl,
O dan domen rhagrith crefydd
A sothach y crachach cain
A werthodd fy ngwlad
Am gadair wag yn y neuadd wen.
–
Cyn i mi ei hail-hawlio hi,
Cyn i mi ei hail-hennill hi,
Erw am erw, Gair am air,
Yn boenus o lafurus, o gwm i gwm.
–
Braint suais i,
Cân i’w chanu hi er nad oes neb
Yn gwrando; alaw werin
Sy’n ffin rhwng ddoe a heddi;
Nodau sy’n dynodi dyn.
–
Dewis meddwn i,
Gwacter a alwai arnaf i’w lenwi.
Ystafell aros athroniaeth estron, ac
Yn ifanc fe ddysgais hon –
Bod mur sy rhyngof innau a hithau; ac
Ni all hiraeth a hanes ddysgu
Dim ond geiriau.
–
Carchar gwaeddais i,
Lle mae gan eich
Cyd-garcharorion
Yr allweddi i’ch cell.
–
Dihangfa sibrydais i,
Hafan estron.
Lloches beryglus.
Gobaith enbyd.
–
“O” meddai’r Sais.
Cyn codi ei ddryll
yn ddiymdrech.
–
Published in Y Faner Newydd Issue 88 2019