“Ro’n i’n stiff ac yn oer, pont oeddwn, gorweddais dros geunant.”
Y Bont – Franz Kafka
Mae llwybr bywyd yn dibynnu ar y fath o storïau mae person yn dewis i’w credu a’r math o storïau mae person yn dewis i beidio eu credu. Mae’na reswm syml am hyn; gwelwn ein byd ni drwy ein storïau ni. Ac mae’r ffordd rydyn ni’n gweld y byd yn penderfynu ar ba fath o berson y byddi di. Wyt ti’n credu storïau Dafydd a Goliath a’r Samariad Da? Neu wyt ti’n credu stori Ela Ulw a Branwen a Rhiannon? Efallai dy fod di’n credu’r ddwy. Wyt ti’n credu stori democratiaeth, tegwch a chyfartalwch? Neu wyt ti’n credu storïau Hitler, Stalin, Pinochet a Trump? Wyt ti’n credu storïau Rosa Parkes ac Eileen Beasley? Neu wyt ti’n credu’r mîms ar Ffesbwc ac Instagram? Mae’r ymennydd yn dy ben yn fraster plastig sy’n gaeth mewn penglog tywyll. Nid octopws wyt ti. Mae’r ymennydd hwnnw yn creu storïau i wneud synnwyr o’r byd er mwyn helpu ti i oroesi. Dyna’i swydd ers miloedd o flynyddoedd; dy storïwr personol neu ‘cyfarwydd’ yng ngeiriau’r hynafiaid, os mynni di. Ac mae’r braster plastig yn dy ben sy’n stôrïwr yn newid o hyd ond yn enwedig yn ystod yr arddegau. Felly, mae’n bwysig dros ben bod dy ben yn casglu’r straeon cywir yn y dyddiau rhyfedd hyn, oherwydd erbyn hyn, dydy dim ond goroesi ddim yn ddigon i ddyn na ddynes. Nid dafad wyt ti. Mae’n rhaid darllen pobl hefyd. Mae gan bob stori dechrau, canol a diwedd ac mae gan bob fywyd ddechrau, canol a diwedd. Felly beth fydd dy stori di? Pwy a ŵyr. Ond dyna ein byd ni; dewis credu neu dewis i beidio credu, fesul stori. Storïau newyddion, storïau am sêr enwog, storïau trychinebau, storïau am arwyr. Does dim llawer wedi newid llawer ers oes Taliesin a ganodd am eiriau dewr Urien Rheged ym mrwydr Argoed Llwyfain yn erbyn arweinydd y gelyn o’r enw Fflamddwyn. ‘...ac fe fyddwn yn ymosod ar Fflamddwyn yng nghanol ei fyddinoedd ac fe fyddwn yn lladd Fflamddwyn ynghyd â’i fintai!’ Digwyddodd y frwydr hon yn nheyrnas Rheged sydd bellach yn rhan o Loegr yn ardal Cumbria. A dyna stori ddiddorol hefyd. Mae un enw yn gallu dweud stori, hyd yn oed os dyw neb yn rhannu’r un dealltwriaeth o beth yw ystyr y gair hwnnw. Enw od yw Lloegr. Does neb yn siŵr beth yw ystyr y gair erbyn heddiw; rhyfelwyr, bobl tu hwnt i’r ffin, gwlad y Saeson, tir coll, eraill, gelyn, ymerodraeth, gormes, estronwyr. Does dim llawer wedi newid ers oes Lao Tsu yn Tseina chwaith. Canrifoedd cyn i’r Saeson ddod i Brydain, fe ganodd, ‘Mae Tao fel lle gwag, na ellir byth ei lenwi. Er hynny mae’n cynnwys popeth...’ Yn ôl traddodiad, dyn o’r enw Lao Tsu a ysgrifennodd y llyfr Tao de Ching sef ‘Llyfr y Ffordd a’i rhinweddau’. Yn y dyfyniad uchod rydw i weithiau yn meddwl ei fod yn disgrifio Cymru a’i hanes. Does dim llawer wedi newid ers oes Aristotle chwaith a ganodd, ‘Mae pawb yn gallu bod yn grac – dyna hawdd, ond i fod yn grac gyda’r person cywir, i’r eithaf cywir ac ar yr amser cywir ac am y rheswm cywir ac yn y modd cywir – ni all pawb wneud hynny ac dyw hi ddim yn hawdd.’ Dw i’n siwr dy fod di’n grac ar hyn o bryd. Dw i mor flin am hynny. Mae llawer yn y byd yn newid ar hyn o bryd. Ac mae un peth sydd wedi newid llawer; cyflymdra lledu straeon. Yn wahanol i straeon Taliesin, Lao Tsu ac Aristotle mae straeon heddiw yn tyfu’n gryf yn gyflym a theithio o gwmpas y byd mor glou â golau oherwydd dyfodiad y radio, y teledu, y lloerenni, ffiseg cwantym, y we a’r ffonau symudol. Ond ‘sdim dwywaith amdani; mae’r stori isod yn stori wahanol. Ond ydy’n bwysig? Mae hawl gennyt i benderfynu hynny. A chan fod canwaith gwell yw apêl y sgrin i ti y dyddiau hyn, man a man dechrau’r stori isod fel ffilm. Yn y modd yna, gei di ddod i weld pethau’n llawer haws, fy mhwdren fach. Gawn ni ddechrau wrth aros i logo saith cwmni mawr amlgenedlog i ddiflannu o’r sgrîn yn eu tro. Ie, does dim ffordd osgoi enwau di-enaid fel hyn, hyd yn oed yn ein stori ni. Diwedd y gân yw’r geiniog. Logo’r llew, logo’r pysgotwr yn y lleuad. Logo’r mynydd, logo’r sêr yn saethu drwy’r awyr las. Logo’r Bîb, logo’r Cadno, logo’r Madfall. Oesoedd yn ôl, roedd un person yn sefyll o flaen tân yn ddigon i greu stori a allai difyrru aelwyd a gwlad ond heddiw mae angen miloedd o bobl o gannoedd o gwmnïau i wneud yr un peth. Sut aeth ein straeon mor soffistegedig a chymhleth tybed? Pwy a wyr. Felly, mae enw cwmni ar ôl cwmni yn ymddangos ar ein sgrin ni a fesul un yn diflannu fel rhithiau yn cael eu tynnu i mewn i dwll du’r sgrîn gwag ond o’r diwedd mae’r sgrîn yn toddi i’r dduwch dechreuol ac yna toddi eto i ddangos darlun o gefnfor enfawr gwag glas tawel. Ar y cefnfor gwag glas tawel mae ewyn gwyn yn sboncio’n dyner ar y tonnau. Mae’r cefnfor yn lasaidd-las ond yn oer. Mae’r cyfarwyddwr wedi gwneud yn siwr bod naws llugoer i’r saethiad felly rydyn ni’n gwybod nad yn y moroedd twym mae’r lle hwn ond rhywle mwy tymherus; rhywle fel Cymru ond rhywle sy’ bendant ddim yn Gymru rhywfodd. Mae’r ddarlun agoriadol hon yn ein atgoffa ni am ba mor fawr yw’r cefnfor; y tarddle gwreiddiol lle cawsom ni i gyd ein geni filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddarlun hon yn ein hatgoffa ni o ba mor fach ydyn ni - yr epaod moel balch sy’ wedi lledu i lygru bob twll a chornel o’r un byd enfawr yna. Ond edrychwch. O dan y môr. Mae’na dinc o gysgod o rywbeth o dan y môr, sy’n disgleirio bron, a rhywsut, gan fod y cyfarwyddwr mor fedrus, mae Cymry sy’n gwylio yn cael eu hatgoffa o hanes Cantre’r Gwaelod, sef y gwareiddiad a gollwyd o dan donnau’r cefnfor fawr yn lledu’n ddibaid, a lyncodd tir, a ddifethodd gobeithion ofer dynion bach ymhobman. Hen stori bwysig. Ond mae’r darlun yn symud ac yn chwyddo i mewn yn araf ac rydyn ni’n dechrau sylwi bod rhywbeth bach ynghanol y gwacter sydd yn cael ei hanner llyncu gan y tonnau cyn i’r tonnau chwydu fe lan eto ar frig yr ewyn unwaith eto. Mae rhywbeth eiddil a di-nod yn mynnu byw yno gan herio’r gwacter. Ai dolffin yw e yn neidio’n chwaraeus? Efallai taw stori am ddolffin heb gynffon yw hon, un sy’n cynnwys bachgen bach a’i dad sy’n dod yn agosach yn eu perthynas wrth iddynt frwydro achub bywyd yr anifail deallus yn eu pwll nofio mewn parc adloniant. Ti wedi gweld ffilm fel honno? Wyt siwr. Ond nid y fath o ffilm yna rwyt ti’n gwylio nawr. Ai morfil yw e efallai? Neu hen angenfil mawr dinosoraidd sy’ wedi ailgreu gan wyddonwyr llwgr er mwyn ennill arian a chlod? Na. Mae’n rhy fach am fonster. Ai cwch yw e? Ie, mae’n bosib taw cwch yw e. Cwch bach gwyrdd. Cwch bach rhwyfo, maint coragl bron, sydd mewn brwydr ynghanol y cefnfor anferth. Ac mae’n wag. Ond torra’r cyfarwyddwr i saethiad agos tu fewn i’r cwch a gwelwn ni law cyhyrog cryf yn gafael ar erchwyn y cwch. Mae’n llaw sy’n gadarn; llaw na fydd byth yn gollwng ei afael ar ochr y cwch bach gwyrdd. Mae’r saethiad yn lledu. Yna, fel eog heini, mae dyn yn catapwltio ei hun i mewn i’r cwch yn wlyb ac yn heini fel pe bai’r môr wedi rhoi nerth uwchddynol iddo. Ai dyn cyffredin yw hwn neu rhyw fôr-ddyn? Ond pam mae wedi bod yn nofio? Pam mae wedi gadael diogelwch y cwch? Gwelwn ddim byd ond traed y dyn ar waelod y cwch. Mae’r dwr hallt yn rhaeadru ar lawr pren y cwch bach gwyrdd. Saethiad agos. Gwelwn gip sydyn o rywbeth yn ei law pan mae ei ddwrn yn agor; gwelwn rywbeth bach pefriog; maint dis; lliw aur. Mae’n disgleirio fel yr haul. Ond cyn i ni allu cael cip go iawn ar y dyn hynod a’r trysor yn ei law, mae’r cyfarwyddwr yn dwyn ni i ffwrdd unwaith eto’n bell, bell. Gwelwn wacter y cefnfor eto. Mae’r dyn a’i gwch ar goll ar ein sgrin unwaith eto. Er ein bod ni’n bell i ffwrdd fe allen ni weld siâp y dyn yn y cwch nawr. Mae e’n symud yn rhythmig yn ôl ac mlaen, yn ôl ac mlaen, yn ymladd yn erbyn y llif sy’n codi’n storm. Mae e’n rhwyfo nawr. Gwelwn ddyn bach yn rhwyfo’n arwrol yn erbyn y tonnau a’r gwacter o’i gwmpas. Mae e’n rhwyfo fel deg dyn, na, yn hytrach fel cant o ddynion. Mae e’n rhwyfo fel petai’n gadlong deisel gan dorri trwy’r tonnau fel torpedo. Sblash! Sblash! Sblash! Mae e’n rhywfo fel y caethweision ar yr hen ffilmiau am yr hen oesoedd, ond ble mae’r chwip anweledig? Sblash! Sblash! Sblash! Mae e’n rhywfo yn rheibus gan fwyta’r llath llydan o’i flaen bob eiliad gyda’i ysgwyddau gwydn. Wrth i’r saethiad chwyddo i mewn ac agosáu unwaith eto gwelwn ei fod e’n nawr yn gwisgo pâr o drowsus du eu lliw a chrys sy’n wyrdd fel y cwch. Mae ei gyhyrau main yn amlwg ar ei freichiau a’i goesau. Mae‘r modd mae’r cyhyrau’n cynhyrchu egni fel petai egni yn ddibaid ac yn ddiddiwedd. Mae ei gorff yn sgleinio â chwys a distrych y don. ‘Am ddyn!’ meddwn ni i gyd ar yr adeg hon, ‘Mae hwn yn arwr go lew!’ Mae’r pawb yn y gynulleidfa yn ysu gweld wyneb yr arwr ond welwn ni mohono eto. Mae rhai yn y gynulleidfa’n genfigennus gan nad oes awch cyntefig yn bodoli tu fewn iddyn nhw gan fod eu hoes nhw bellach yn ddiystyr, wedi’i dofi gan dechnoleg a doethineb annoeth. Mae rhai yn y gynulleidfa yn teimlo rhywbeth cyntefig yn corddi ynddynt, yn ddwfn ac yn ddwys. Maen nhw i gyd yn ysu’n isymwybodol am fywyd fel bywyd y rhwyfwr. Mae gan y rhwyfwr bwrpas. Mae gan y rhwyfwr rywbeth sy’n werth peryglu ei fywyd drosto ac sy’n werth ffocysu bob medr dyn arno, yn lle chwarae rygbi, yn lle gweithio mewn swyddfa, yn lle prynu car newydd, yn lle petruso am ba fwyty i ddewis ar ôl i’r ffilm orffen. Saethiad agos. Tra bod y dyn yn rhwyfo’n ffyrnig, fe welwn datŵ bach ar gefn ei wddf ond mae’n anodd gweld beth yw e ond rydyn ni’n gwybod taw tatŵ pwysig yw hwn a gafodd ei greu am reswm ac nid oherwydd diflastod na ffasiwn. Bydd arwyddocâd y tatw yn cael ei esbonio rhywbeth nes ymlaen, mae’n debyg. Mae’n gliw. Cawn weld gwallt yr arwr nawr. Mae’n hirach. Wedi’i glymu tu ôl ei ben. Ond pam dydyn ni ddim yn gweld ei wyneb eto. Pam? Mae’r dyn yma yn beiriant o ddyn a does dim wyneb gan beiriant; peiriant rhwyfo. Mae hwn wedi cael ei greu a’i fagu i rwyfo. Mae rhwyfo hwn yn ei DNA. Mae e wedi bod yn rhwyfo cyn gallu cerdded. Ond pam? Pwy fyddai eisiau gwneud sut beth? Dim ond dyn a gafodd ei eni mewn lle oedd yn garchar gan y môr. Dim ond ar ynys fechan unig. Ond dyna’r cwestiwn amlwg sydd yn ein pennau ni nesaf, ‘Pam mae’r dyn mawr cryf yn rhwyfo mewn cwch bach gwyrdd ar draws y cefnfor mawr?’ Ydy’n ffoi rhag rhywbeth? Ydy’n droseddwr efallai? Dyw peth fel hyn ddim yn gwneud synnwyr i ni yn ein sinema cyfforddus gyda’n llond bwced o bobcorn a galwn o Coca-cola neu Pepsi neu 7-up. Ac yna, saethiad weddol agos. Gwelwn ni goesau’r dyn a blwch pren maint bocs sgidiau o’i flaen yn y cwch. Mae’r blwch wedi’i gadwyno’n dyn i lawr ar waelod y cwch rhag ofn bod y môr yn ei ddwyn. ‘A!’ meddwn ni eto, dyna pam mae e’n rhywfo. Mae rhywbeth pwysig yn y blwch mae’n debyg. Mae’n mynd â rhywbeth pwysig i rywle, i rywun. Efallai taw meddyg yw e. Efallai taw moddion sydd yn y blwch. Dyna arwr go iawn! Mae’r saethiad yn tynnu allan i ddangos y gwacter eto. Nawr mae cerddoriaeth yn dechrau. Mae’n drac cân roc Americaniadd o’r wythdegau o’r ugeinfed ganrif; canrif creulonaf hanes dynion. Clywn ni ddyrnod drym uchel a styfnig yn bwrw ein synhwyrau fel cyfanrifau, tra bod riff bywiog, ysgafn gitâr trydan yn cynghaneddu fel rhif cysefin ar ei ochr. Gwelwn ni saethiad o’r cwch a’r dyn eto ond nawr gwelwn ni ynys yn y pellter tu ôl iddo ac rydyn ni’n sylwi bod y dyn yn rhwyfo tuag at yr ynys, efallai i drosglwyddo beth bynnag sy’ yn y blwch i’w fam sy’n dost neu i’w gariad sy’n aros amdano neu rhyw ddyn cas sydd wedi herwgipio ei gariad a’i fam gan fygwth i ladd y ddwy ohonynt. Yna, ar ôl dau far o’r alaw godigalon gawn ni dri fflic ar gloch wartheg ac mae llais yn dechrau canu. Mae’n llais achwynydd braidd ond stoig yn gwmws fel y dyn yn y cwch. Mae’r llais fel llais y cantor Nick Cage ond mae’n mwmian llawer mwy. Ar yr un adeg mae sŵn gitâr bas deallus yn ymuno gan arwain y gân i gyd rywsut yn yr un modd mae dramodydd yn arwain drama, hynny yw, wrth greu strwythur cudd o fewn yr alaw amlwg. Mae rhieni y rhai sy’ yn y gynulleidfa yn cydnabod y llais ac arddull y gân o’u mebyd ond dydyn nhw ddim yn nabod y gân ei hun. Maen nhw wedi anghofio pethau fel hyn erbyn eu canol oed. Mae’n gân gan un o fandiau roc mwya’r byd, sef cân o’r enw ‘Saith Brawd Tseinïg’. Mae’n gân sy’n sôn am hen stori o Dseina. Mae’n stori am un o’r saith brawd yn llyncu’r cefnfor i gyd er mwyn helpu crwt bach bysgota gasglu holl drysorau’r môr i gyd ond wrth i’r crwt mynd yn hunanol ac yn wancus mae’r brawd yn methu dal y môr i mewn rhagor ac yn boddi’r crwt. Mae’n stori am drachwant sy’n dod yn wreiddiol o stori werin sy’n dweud am bump brawd oedd ganddynt nerthoedd goruwchnaturiol. Mae’r gân yn fyrhoedlog, ailadroddus ac yn syml. Mae geiriau’r penillion yn farddonol ac yn ddigon amwys ac yn ôl arddull y band a phrif leisydd y band ar yr adeg honno yn eu gyrfa, maen nhw’n cael eu mwydro ychydig ac felly maen nhw’n aneglur braidd; fel rhyw Dafydd ap Gwilym ar asid yn siarad drwy dwnel casgen clyd Diogenes. Mae’n gân berffaith am gyflwyno’r stori hon. Marciau llawn i’r cyfarwyddwr. Mae’r gân yn creu awyrgylch sy’n achosi i ni ddisgwyl gweld pwy sy’n aros am yr arwr a’r blwch ar yr ynys fach. Tra bod y gân yn prancio yn ein clustiau mae’r saethiad yn ehangu fwyfwy byth a gwelwn ni nad yw’r cefnfor yn wag o gwbl. Yn hytrach, mae’r dyn yn rhwyfo o dan rhywbeth mawr, rhywbeth enfawr sy’n taflu cysgod llythrennol a throsiadol drosto fe a’i gwch bach. Ai dyma’r anghenfil? Ai dyma’r gelyn? Gwelwn ni taw siâp pont sy’n taflu’r cysgod du ond nid pont o faint arferol yw hi – mae’n bont enfawr sy’n ymestyn o ryw arfordir pell dros gulfor mawr tuag at yr ynys o flaen y dyn yn y cwch. Mae’n bont fawr ddu â phedair telyn dieflig ar eu cefnau, gefn wrth gefn, gefn wrth gefn, a’u tannau ynghrog fel bariau cell carchar wedi’i cuddio gan niwl trwchus sy’n stopio ni rhag gweld y miloedd o geir a loriau sy’n gwibio i lan ac i lawr ei hyd uwchben ein harwr gwallgof yn y cwch bach gwyrdd. Mae’n bont llawer hirach na phont Akashi-Kaikyō yn Siapan, y bont hiraf yn y byd hwn. Mae’n bont anferth yn wir; canwaith hirach na phontydd Hafren, y pontydd sydd ynghrog rhwng de Cymru a de Lloegr. Mae’n bont hirach na’r bont a grewyd gan y cawr-dduw Bendigeidfran. Ac nawr, nid y cefnfor sy’n llenwi ein golwg ond y bont. Gwaith crand yr epaod moel, balch a chlyfar. Mae’n anghenfil-gyfandir-sgrech o bont. Damia! A ddylen nhw wedi dangos wyneb y dyn erbyn hyn? Sut arall y gallwn ni gael y gynulleidfa i gydymdeimlo â’i sefyllfa a’i broblemau. Sut allen ni magu empathi tuag ato? Man a man torri i saethiad agos o’r dyn yn rhwyfo felly. Man a man dangos y bont dros ei ysgwydd fel bwgan yn llechu tu ôl iddo o hyd. Saethiad agos. Wyneb. Wyneb merch. Mae wyneb y ferch yn hala ofn ar y gynulleidfa rhywsut. Mae’n sgytwad braidd. Roedd popeth cyn hyn wedi awgrymu mai dyn oedd yn rhwyfo’r cwch bach gwyrdd. A beth mae merch yn gwneud tu allan mewn cwch bach gwyrdd ynghanol y cefnfor enfawr? Nid gwaith merch yw gwaith arwr yn ôl straeon heddiw. Mae’n sioc i’w gweld hi. Ond edrych arni. Mae ei wyneb yn wyneb hudoles. Mae ei wyneb hi yn gadarn fel rhyw Buddug cyntefig wedi’i cerfio allan o garreg gleision Sir Benfro; un garreg fawr i bob boch ac un enfawr ar draws ei thalcen fel drws Pentre Ifan. Gwelwn ei llygaid gleision tu fewn yn llonydd fel llyn ond yn aflonyddus braidd; digon aflonyddus i ti gredu taw merch wallgof yw hon; ond digon caredig i ti beidio bod yn hollol siwr eto. Chware teg, mae’r cyfarwyddwr a’r criw castio wedi dewis y ferch gywir i chwarae’r rôl hon heb os nac oni bai. Mae hon yn arwres mewn argyfwng. Dyma Gwenllian ar glân dôn, Branwen mewn bad, Ceridwen gyda’i phair hudol, Supergirl mewn sospan. Mae hi’n debyg i ti fy mhwdren fach. Ond i ble mae hi’n rhwyfo? Gwelwn ni Ynys Llewingor ar y gorwel. Ynys y coed ywen sy’n hŷn na’r haul, lle y cedwir cyfrinachau ein byd. Ynys y nentydd gwaed sy’n llifo’n ddibaid o grombil y mynyddoedd . Ynys bedd rheswm yn y ceunant tywyll sy’n gartref i filoedd o nadroedd dall â gwenwyn yn llifo o’u croen. Ynys rhyfel a gofid lle mae’r gwaed yn gymysg gyda’r glaw. Ynys chwe miliwn o goed lle mae’r dail yn diferu dagrau. Ynys ymbelydrol sy’ ddim yn ddiogel i ddyn na deryn. Ynys lle mae cyrraedd y sêr mor hawdd â chyrraedd y traeth ond lle mae cyrraedd y gwir mor anodd ag achub y traeth rhag y llanw. Ynys sy’n gartref i mi a bydd yn gartref i ti hefyd cyn bo hir. Dyna lle ydw i Rhianona. Dw i ar goll ar yr ynys ar ôl y dymhestl. Flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n meddwl y gallwn i ddysgu popeth i ti oedd angen. Dw i ddim mor siŵr nawr. Mae gormod o storïau. Po fwyaf y gwyddwn y lleiaf y deallaf. Ond wnei di ddarllen fy stori i? Oes rhai eraill yn y cwch bach ‘da ti? Wyt ti a dy ffrindiau yn dod i achub mi? Edrych! Dyma fi ar draeth yr ynys. Gallaf weld dy gwch bach yn dianc rhag cysgod y bont fawr. Dw i’n chwifio fy mraich yn yr awyr ac yn gwenu’n braf. Cyn bo hir byddi di yma gyda fi. Mae ein stori yn dechrau.