“Mae’na ddywediad hen gan fy mhobl sy’n sôn bod rhywbeth yn byw dim ond cyn hired â’r person olaf sy’n ei gofio fe. Mae fy mhobl wedi dysgu ymddiried yn y cof yn lle hanes. Mae’r cof, fel tân, yn glaerwyn ac yn ddigyfnewid tra bod hanes yn was i’r rhai sydd eisiau ei reoli, y rhai sydd eisiau diffodd fflamau’r cof a’i dân sy’n wiredd peryglus. Gwyliwch rhag y rhai hyn sy’n beryglus ac yn ffôl. Ysgrifennir eu hanes hwy yng ngwaed y rhai y cofiai a’r rhai sy’n chwilio am y gwir.”
Kanghi Duta – Floyd “Brân Coch” Westerman
Roedd perchennog Y Plas, Ermyg Llechgi, yn ceisio lladd ei hunan. Am y tro cyntaf ers echddoe. Pe bai siotgyn hir, hen ffasiwn ei Dad-cu ddim wedi bod mor lletchwith i’w rhoi yn ei geg, byddai fe wedi cwpla’r jobyn erbyn hyn. Byddai wedi hen baentio’r wal yn goch gyda gwaed ei frêns oriau yn ôl. Pe bai Ermyg ddim wedi bod mor dwp â slej, byddai hwnna wedi helpu hefyd. Ond fel y safai, fe deithiai adar Rhiannon ar drên Arriva ac roedd rhyddhad angau yn rhedeg yn hwyr ac yn anghyfforddus. Ond; dyfaldonc a dyr y benglog. ‘Pe bai modd i gannoedd o ffermwyr cyffredin saethu eu hunain fel hyn bob blwyddyn, yna fe allwn i, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, gyflawni’r un weithred yn ddiffwdan hefyd’ Dyna’r mantra oedd Ermyg wedi bod yn ailadrodd ers tri o’r gloch y bore, pan ddaethai o hyd i’r Morlo Mawr Coch ei guddfan yng ngerddi’r Plas a’i gwrso’r holl ffordd adre i’r Rhandy, y bwthyn gwyn ar ochr Y Plas. Roedd dwylo Ermyg wedi crynu wrth gloi’r drws ac yna, fe ddechreuasai’r diawl gnoi’r drws a cheisio bwrw’r blydi peth i lawr. Ceisiasai Ermyg anwybyddu ei gwynfan a’i swnian wrth guddio o dan y gwely ond hen forlo styfnig oedd Y Morlo Mawr Coch. Er bod ei stafell wely ar y llawr cyntaf, fe neidiai’r bwystfil i fyny wrth ffenest y stafell yn bobio-ymbilio fel pêl tennis cythreulig. Roedd Ermyg yn siŵr ei fod e wedi dechrau siarad hefyd yn ddiweddar. Dyna forlo clyfar. Ond un frawddeg yn unig a ddywedodd Y Ci Du, dro ar ôl dro ar ôl dro ar ôl dro, “Gad fi mewn!” A dyna beth wnaeth Ermyg. Yn y pendraw. Rhuthrodd Y Morlo Mawr Coch arno fel pe bai’n eclips a rhedeg o gwmpas y Rhandy fel llo cors. A chyda phob awr a âi heibio, tyfai ei edmygedd at dyddynwyr unig y cefn gwlad a’u hanobaith medrus a’u gallu i weithio mor effeithlon o dan amodau mor dywyll. Ers Yr Angladd, gwaith caled i Ermyg oedd byw, ond doedd hunanladdiad ddim tamaid yn haws gwaetha’r modd. Ar ôl trio bob math o dechneg syml dros yr wythnosau diwethaf, dyna fe, y bore ‘ma, dal yn cael cryn drafferth ymestyn am glicied y dryll gyda’i freichiau byr Cymreig. Doedd e ddim yn hoff iawn o roi’r dryll ar ei dafod tila chwaith. Roedd blas y metel fel gwaed. Ych a fi! Dyna ryw ragflas rhyfedd y byd nesaf oedd, yn siŵr o fod, yn waeth byth na’r byd hwn. Yn y pendraw, tua hanner awr wedi pedwar, roedd e wedi meddwl tynnu ei sannau bant ac eistedd ar y soffa yn goesdraws fel y Bwda, gan ddefnyddio ei fys mawr ar ei droed chwith i drio tynnu’r glicied. Byddai wedi bod yn haws iddo ddefnyddio bys mawr ei droed dde ond roedd ganddo flistar mawr arno. Daeth y flistar ar ôl cerdded yr holl ffordd adre yn y glaw o’r wylnos yn nhafarn Y Celt Blin, gan wisgo’r esgidiau newydd a brynasai yn arbennig ar gyfer Yr Angladd. Roedd y blistar dal yn rhy boenus i’w rhoi drwy giard y glicied. Felly defnyddiodd Ermyg ei droed dde i gadw’r dryll yn llonydd tra bod bys y troed chwith yn cymryd y cyfrifoldeb am hyrddio ei enaid i lawr i lwnc cŵn gwyn caredig y Gwynfa. Pe bai rhywun wedi craffu drwy ffenest lolfa bwthyn Y Plas ar y pryd, bydden nhw wedi synnu bod rhyw hen gefnder coll o Awstralia wedi galw draw ‘da Ermyg a dyna fe’n ymarfer rhyw dijeridŵ egsotig. Neu efallai bod Ermyg yn sugno mwg drwg o ryw bong milwrol. Dywedai ei fantra unwaith eto. ‘Pe bai modd i gannoedd o ffermwyr cyffredin saethu eu hunain fel hyn bob blwyddyn, yna fe allwn i, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, gyflawni’r un weithred yn ddiffwdan hefyd’ Rhoddodd faril y dryll yn ei geg. Caeodd ei lygaid. Y tro ‘ma. Dyma’r tro. Y tro ‘ma. Dyma’r tro. Gweithiff hi. Y tro ‘ma! Ffarwel y ffycyrs! Geronimo! Bang! Agorodd Ermyg ei lygaid. Gwelodd stafell lolfa’r Rhandy. Dim Gwynfa. Dim Nef. Ffyc ôl. Sut yffach ‘nath e fethu y tro ‘ma? Tynnodd Ermyg ddau faril y dryll poeth mas o’i geg ac ymestyn i deimlo cefn ei ben. Doedd dim twll. Edrychodd ar ei law. Dim gwaed chwaith. Roedd e’n fyw ac yn gyfan. Dyna gamwedd. Roedd e’n dechrau meddwl nad anelu oedd y broblem. Trodd o gwmpas a gweld llanast ar y wal tu ôl iddo. Roedd twll arall yn y wal. Y pumed ers awr. Roedd Bwthyn Y Plas yn dechrau edrych fel swyddfa’r post yn Aleppo. Hongiai ddarnau o blaster yn fregus o gwmpas tyllau salw yn hen waliau’r lle. Hen waliau hen. Hen waliau hyll. Hen waliau a adeiladwyd gan law ei gyn-dadau rywbryd-rywsut. Gallai Ermyg weld berfedd y lle drwy’r asennau pren. Llwch glo a llwch gwlân. Llygredd cudd. Pesychodd. O walia. Y tro yma, roedd e wedi chwalu llun ar y wal hefyd. Llun o staff Y Plas o’r ganrif diwethaf. Llun a ddangosodd ei deulu i gyd mewn oes arall, yn gwenu o flaen Y Plas yng nghwmni gweithwyr a chymdogion. Roedd pelets o’r dryll, oedd rhywsut wedi pasio drwy ei ben ef, wedi taro’r llun gan ddryllio’r gwydr ac ebillio’r wynebau hapus. Chwalwyd y ffrâm wrth gyrraedd y llawr hefyd ac roedd darnau bach y gwydr o’i gwmpas fel pe bai’n glawio diemwnt. Daeth Ermyg yn grac. Roedd wynebau’r gorffennol yn yfflon ond gwynt teg ar eu hôl nhw a’u gwenau dedwydd diflas du a gwyn. Dyna nhw yn hapus dyrfa, yn falch o ddiwrnod o waith caled yn cynhaeaf had y gwanwyn. Dyna nhw nawr yn ddim byd ond sbwriel i’r bin. Neu’n hytrach yn wydr i’r bin gwydr, yn bapur i’r bin papur ac yn bren i’r bin... Oes bin pren ‘da fi? Pam nad yw’r Cyngor yn ailgylchu pren? Roedd Ermyg dal mewn un darn. Un corff iach. Un meddwl iach. Un cof bach. Ffor ffycs sêc. Taflodd y dryll i’r llawr er mwyn codi i wneud paned. Wrth daro’r llawr aeth y gwn danio eto a saethu twll arall yn y wal gyferbyn. Safai Ermyg yn stond am eiliad. Sawl cetris oedd yn y blydi dryll? Roedd y lolfa yn dechrau edrych fel darn o gaws y Swistir! Ar y ffordd i’r tegell, penderfynodd peidio trio stwffio ei fysedd yn soced y tegell am yr eildro. Doedd e ddim eisiau newid y ffiws eto neu newid dillad llosg. Y tro hwn roedd e wir eisiau paned arno fe. Roedd hunanladdiad yn codi syched ar ddyn. Falle bod te hemloc yn y cwpwrdd. Ond be’ yffach o’dd hemloc eniwei?Rhywbeth y gellid prynu yng Ngroeg mae’n debyg. Ware teg i’r hen Socrates am fyw ac yn marw yn ôl ei egwyddorion. Ond bolycs i Tesco am beidio gwerthu’r stwff. Dim ond dwy ystafell lawr llaw oedd gan y bwthyn gwyn oedd yn Rhandy’r Plas – lolfa-gegin ac un stafell ‘molchi fach. Dyna lle oedd Ermyg wedi byw ers i’r tân yn asgell chwith Y Plas wedi dinistrio’r lle roedd e’n byw. Yr un tân a laddodd... Pwy? Stopiodd Ermyg wrth ymestyn am gwdyn te. Roedd e’n siŵr wnaeth rhywun fu farw yn y tân. Rhywun pwysig dros ben. Cofiai fynd i’r Angladd. Ond angladd pwy? Daeth deigryn i gil ei lygad. Ceisiodd gofio. Deigryn? Na, ager o’r tegell yn berwi mae’n debyg. Rhoddodd Ermyg ddŵr y tegell mewn cwpan bach gwyn. Ar y cwpan roedd llun cartŵn o haid o ddefaid ar lôn yn y cefn gwlad. Uwchben y defaid oedd y jôc ‘Traffic Jam in Wales’. Chwarddodd Ermyg. Chwarddodd e bob tro. Gyda’i baned yn ei law, aeth Ermyg i eistedd wrth y laptop ar fwrdd ynghanol y lolfa fach. Er mwyn trio osgoi ffws a ffwdan wrth ffarwelio â’r hen fyd creulon, roedd Ermyg Llechgi wedi bod yn ymchwilio’n hir ac yn fanwl ar y we ynglŷn â hanes hunanladdiad. Roedd e wedi dysgu loads. Dysgasai am y caethweision o Affrica a gâi eu cludo fel bocsys Amazon mewn llongau llawn dynion gwyn creulon a fyddai’n gorfodi nhw ddawnsio wrth saethu am eu traed. Yn sgil y fath triniaeth erchyll, byddai’r caethweision yn lladd eu hunain gan gredu y byddai eu heneidiau yn dychwelyd adre. Bach yn ddesprét oedd hwnnw ym marn Ermyg. Pe baen nhw ddim wedi bod mor fyrbwyll ac wedi aros nes cyrraedd America, bydden nhw wedi cael cyfle byw yng ngwlad orau’r byd, yn debyg i lwyth y Mohave yng ngheunant Afon Colorado. Dyna lwyth sydd yn bellach llai na mil o bobl o ran nifer oherwydd salwch a phla o hunanladdiad. Ym marn y Mohave ymateb i ‘unigolyddiaeth eithafol’ oedd hunanladdiad aelodau eu llwyth. Ar ôl colli perthynas. Colli cymuned. Colli cof. ‘Grym anniddig sydd gan grêd’. Pwy wedodd hwnna? Rhwyun pwysig. Socrates? Na. Weithiau byddai geiriau od fel hynny yn dod i feddwl Ermyg ond roedd e wedi dechrau anwybyddu nhw. Wrth gwrs, byddai’n bwysig bod Ermyg yn lladd ei hunan yn ôl defod Cymreig. Felly, er mwyn trio dysgu am sawl defod traddodiadol Celtaidd o ladd eich hunain, roedd Ermyg wedi benthyg ambell lyfr enwog o Lyfrgell Y Plas. Llyfrau fel y Gwyddoniadur Celtica. Ond roedd e wedi treulio oriau yn trio dadlwytho nhw i’r laptop, ond heb lwyddiant. Doedd dim un porth USB gan yr un ohonynt. ‘Sdim ots am lyfre. I’r tân â nhw! Er hynny, doedd Ermyg ddim yn mynd i dorri ei ben bant fel y Celtiaid. Ni fyddai’n ystyried y peth - hyd yn oed ar ôl ei fethiant diweddaraf. Beth pe bai ei ben dal yn fyw ar ôl torri fe bant, fel iâr anffodus yn y buarth? Byddai’n rhaid gario ei ben o dan ei fraich fel ysbryd mewn hen ffilm du a gwyn. Doedd y posibilrwydd ddim yn apelio o gwbl. Ond roedd e’n barod i gyfaddef ei bod hi’n ddigon posib bod angen cymorth arno erbyn hyn. Wrth lymeitian ar ei baned o de melys (pum siwgwr), dechreuodd feddwl a allai creu rhyw beiriant i’w ladd ei hunan. Myfyriodd ar adeiladu rhyw beiriant erchyll. Aeth ei feddwl i grwydro’n bellach am eiliad, beth am ryw ffrwyth a ddygwyd gan feddwl Jac-y-do neu’r Brân efallai. Gwely llawn cyllyll hirion a flingai fe’n fyw. Llif enfawr a dorrai’n ddwy hanner o’i weryd i’w war. Byddai ei groen diwerth yn sychu yn yr haul fel lledr. Syniad campus. Syniadau da i gyd. Gellid dibynnu ar beiriant. Ond allai fe, Ermyg Llechgi, disgynnydd y tywysogion, greu peiriant ddigon da? Dihunodd o’i ddelwi. Blasodd ei de. Roedd hi’n dda. Yn groes i’w awydd, a chymaint oedd diddordeb Ermyg yn y pwnc o ladd ei hunan, byddai tonnau mawr ei iselder yn gallu troi ar drai am ychydig. Ar adegau prin. Rhyw dridiau yn ôl roedd e wedi treulio prynhawn cyfan bron heb geisio lladd ei hunan. Seibiant weddol anghyffrous a dweud y gwir. Roedd e wedi ysgrifennu cerdd am y profiad hyd yn oed. Ni allai gofio ysgrifennu cerdd erioed. ‘Na beth od i berson ‘neud, sgwennu cerdd. Oedd lot o gerddi Cymraeg? Efallai hon oedd y cyntaf! Enw’r gerdd oedd ‘Bod yn Sais’. O mae’n braf bod yn Sais, mor neis, mor rwydd, Gyda milwyr a morwyr yn mynnu ei sicrwydd. O mae’n braf bod yn Sais – ‘sdim ffws na dim ffwdan, Gan ddwyn geiriau, gemau a gyns o bob man. Sais ronc fyddwn i – am ryddhad mor hael, Pe bai crafangau’r Cwm yn gollwng ei gafael. Cerdd ofnadwy. Ac roedd Ermyg wedi dychwelyd yn ddof i’w obsesiwn am hunanladdiad yn fuan wedyn ar ôl ei chwpla. Roedd poen byw yn Y Plas wedi tyfu’n ormod ac na allai weld ffordd ymlaen heb... heb beth? Heb gwmni? Heb bwrpas? Roedd cyflawni’r weithred derfynol wedi profi bod mor hynod o anodd. Wel, amhosib hyd yma. Er gwaetha popeth, roedd e yma o hyd. Mor depressing. Llowciodd gweddill ei baned. Roedd hi’n oer. Ych a fi. Penderfynodd Ermyg bori dros ei ymchwil o’r we unwaith eto. Cliciodd ar y groes goch yn y gornel a chau’r dudalen ar ‘sut i ladd eich hunan gyda reiffl’. Cofiai fod cymeriad Charlie Sheen wedi defnyddio reiffl fel bong yn y ffilm Platoon. Hynny yw, y ffilm gan y cyfarwyddwr Oliver Stone am filwyr Americanaidd yn Fietnam. Ffilm drist. Dyna’r ffilm lle mae un o’r arwyr yn marw ar ei bengliniau yn jyngl Asia tra bod trac sain enwog Samuel Barber yn cyrraedd crescendo anhygoel. Ffilm mor drist. Roedd Ermyg wedi ei gwylio dros hanner cant o weithiau. Cofiai’r ffilm yn dda. O am farwolaeth mor gofiadwy heddiw! Un cymaint eiconig. O am farwolaeth mor Americanaidd. Pobl od oedd Americanwyr er hynny. Doedd dim dwywaith am hynny. Pa wlad arall fyddai’n creu ffilmiau am eu milwyr yn goresgyn gwledydd eraill a’u canmol nhw am eu dynoliaeth a’u dewrder, ac yr un pryd methu sôn tamaid am yr effaith a gafodd y goresgyn ar drigolion y wlad o dan ormes byddin mwyaf yn hanes y blaned? Dynoliaeth a dewrder. Dechreuodd y ddau air gyda’r un llythyren. Diddorol. Ond pe bai marwolaeth eiconig yn dod, byddai’n rhaid i Ermyg trio’n fwy caled. Yn amlwg, doedd hunanladdiad ddim yn sgíl a ddaeth yn hawdd i Gymro. Tri chynnig i Gymro? Beth am mil a hanner? Erbyn hyn roedd e wedi trio lladd ei hunan dros gant o weithiau dros yr wythnos diwethaf yn unig. Yn amlwg i bawb, roedd e heb lwyddo eto. Ond y siom fwyaf efallai oedd modd y methu; mor anhygoel o ofnadwy. Roedd ei wedi ysgrifennu cerdd arall am ei fethiannau er mwyn helpu fe gofio beth roedd e wedi trio. Er mwyn peidio trio’r un peth ddwywaith. Aeth hi fel hyn, Trydanu, crogi, mogi, Y bwled, nwy a boddi, Trywanu, tagu a gwenwyn cas A mynnu dim ond methu. Hon oedd ail gerdd yn hanes y Gymraeg. Wrth gwrs, byddai Ermyg wedi trio lladd ei hunan mewn ffordd mwy dramatig pe bai mwy o ddychymyg ganddo ond roedd e’n annheg ddweud nad oedd wedi ymroi i’r syniad yn gyflawn. Byddai’n haeddu marciau llawn am ymdrech yn ôl y beirniaid. Dylai dderbyn Gradd ‘A’ serennog am drio yn ôl yr arholwyr. Ond, er gwaetha pob un, fe gâi nil points gan reithgor y nefoedd. Er hynny, myfyriodd Ermyg yn bellach am unwaith; efallai bod hi’n amser meddwl yn fwy uchelgeisiol. Oedd modd galw airstrike drôn ar ei fwthyn? Efallai y gallai farw’n arwrol ar ei bengliniau fel Wilem Dafoe, yn sgrechian mewn cwmwl o napalm. Beth pe bai e’n treulio’r diwrnod cyfan yn gwglo ‘Sut i ladd y Brenin Siarl?’ neu ‘Sut i foddi baban Kate a Wils?’ neu ‘Sut i fomio stiwdios BBC The Archers?’. Efallai byddai rhyw James Bond o MI6 yn galw draw a saethu fe yn ei gwsg gyda Walther PPK a silencer. Neu lladd e, torri ei gorff yn ddarnau bach a’i gadael mewn bag yn y bath. Roedd mwy nag un ffordd i gael Wil i waedu. Gwae fe wrth fyw mewn gwlad mor sâl, A duw heb roi aur du dan groen y byd Mor braf yw byw yn Yemen bell, A chael y bomie’n syrthio’n fud. Wyth sillaf, yna deg sillaf, yna wyth ac wyth eto. Roedd rhyw fath o batrwm yn y gerdd honno. Y trydedd cerdd a ysgrifennwyd yn y Gymraeg erioed. Dw i’n fardd! Syniad unchelgeisiol. Byddai’n gweithio. Y tro hwn, byddai’n llwyddo. Ond roedd Ermyg wedi bod mor sicr y byddai defnyddio siotgyn yn gweithio hefyd. Roedd e wedi cymryd hen ddryll ei Dad-cu o’r seler, ar ôl ei glanhau a’i drwsio, yn llawer mwy hawdd ac yn gyfleus ac yn fwy na dim – yn fwy effeithiol na chrogi na thrydanu. Roedd e’n sicr y byddai rhoi dryll yn ein geg yn ddigon i ddatrys ei broblem. Ond roedd e wedi methu yn y pendraw. Fel pob tro arall. Roedd Ermyg yn dechrau meddwl na fyddai byth yn llwyddo lladd ei hunan. Tra bod Ermyg yn syllu’n wag ar y tyllau yn y wal unwaith eto, ni sylweddolai bod y wawr wedi dechrau gormesu’r lolfa â’i golau cynnes, melyn. Yn ei benglog aeth ei feddyliau yn ôl i filwyr Unol Daleithiau America. Roedden nhw wedi marw dros fy rhyddid i - arwyr dewr bob copa walltog. Wrth ymchwilio yn hunanladdiad ar y we, er mwyn ffindo’r ffordd orau i ffarwelio i’r byd creulon, fe gofiai Ermyg ddarllen am broblem hunanladdiad ymhlith milwyr byddin yr Unol Daleithiau. Yn ôl ystadegau swyddogol, yn 2012 gwnaeth 185 o filwyr wedi lladd eu hunain wrth gymharu â dim ond 176 a gafodd eu lladd wrth ymladd yn erbyn Y Gelyn. Nodiasai Ermyg ei fod yn rhyfedd bod peiriant lladd mwyaf y byd yn fwy effeithiol wrth ladd ei filwyr ei hunan. Pe bai Ermyg yn fwy o athronydd byddai wedi canfod rhyw wireb neu berl doeth oddi wrth y myfyrio yma. Efallai byddai wedi dod i ryw gasgliad a fyddai’n taflu goleuni ar ei fywyd ef; mai fe oedd dim byd ond haid o atomau ansicr mewn bydysawd nad oedd bellach yn gwneud unrhyw synnwyr i neb. Ond nid athronydd oedd Ermyg. Roedd e mor dwp â slej. Doedd dim athronyddion yng Nghymru erioed. Nid disgynnydd Plato a Socrates oedd ef. Hanner brawd i’r twpsod ar Big Brother ydoedd ac felly daeth dim goleuni. Yna sylwai Ermyg fod Crid yn sefyll yn y drws. Fel arfer, roedd hi wedi ymddangos mor dawel ag ysbryd. Yn ei hen ddwylo crych, roedd ei mop a’i bwced yn barod i lanhau’r Plas fel y byddai bob bore. Rhwng ei gwefusau minlliw coch roedd hanner sigâr a guddiodd gweddill ei wyneb mewn niwl o fwg gwyn. Edrychodd ar y llanast yn y bwthyn. “Y ffycin twat,” meddai’n dawel wrth edrych ar y tyllau yn y wal a gan siglo ei phen, cyn troi at Ermyg a siarad yn fwy uchel, “So fi’n g’lau’r ffycin mes ‘ma g’boi! Nes i wêd wrthot ti ddwê ar ôl i ti trio slasho dy blydi wrists di.” Ochneidiodd Ermyg gan wenu’n wan. “Sori Crid fach. Wna i dacluso’r lle nes ‘mla’n” “Ti’n ddidoreth g’boi” meddai Crid, cyn syllu ar y dryll ar y llawr a dweud yn fwy tawel, “Ti ‘di symud mla’n at y blydi shotgun yfe? Dyna main weapon of choice i bob ffarmwr Cwm Gwain ers Brexit.” “Heb lwyddiant” ochneidiodd Ermyg gan godi i wneud paned arall. “Sut yn y ffycin byd nest ti fethu ‘da blydi siotgyn?” meddai Crid, ei llais yn mynd yn uwch fesul gair gyda lefel ei siom a’i hanghred. Rhoddodd Crid ei bwced a’i mop i lawr ym mhorth y drws a thynnu ei sigâr mas o’i cheg. Cododd y siotgyn o’r llawr ac edrych arno’n fanwl fel ditectif mewn crime scene. aroglodd y baril gyda dau sniffad uchel. Yna rhoddodd hi hep gwybodus cyn taflu’r dryll ar y soffa yn saff. Pwyntiodd ei sigâr ar Ermyg a dweud, “Ma’ blydi melltith arall arnat ti Llechgi. ‘Na’r unig reswm. Galla’ i d’imlo fe ar y dryll ‘na.” Yna ffliciodd Crid ei sigâr ar draws y lolfa. Wrth iddo hedfan drwy’r awyr, trodd y sigâr yn ffigwr bach gyda breichiau a choesau a ddechreuodd chwifio’n wyllt yn yr awyr. Gellid gweld dau lygad gwyn arno hefyd. Glaniodd yn llwch y lle tân lle gellid clywed sgrech dawel eiliad wedyn. “Melltith? Un arall?” meddai Ermyg, gan anwybyddu sgrech y sigâr, “Sawl melltith all un dyn dynnu arno fe ei hunan?” “’Sdim rheolau am bethe fel hyn ‘chan” meddai Crid “Dyw hi ddim fel blydi i-tunes ble chi ddim ond yn gallu ca’l e ar dri dyfais ar y tro. ‘Sdim terms and conditions am ga’l melltith.” Nid oedd yn gall i Ceridwen ddweud mai hi oedd wedi melltithio Ermyg; melltith i’w amddiffyn rhag dolur o unrhywfath ers Yr Angladd pan roedd Wyn y Galch wedi ceisio ei felltithio fe hefyd. Pe bai Ermyg yn dod i wybod hynny, byddai’n gofyn pam a doedd hi ddim yn amser i ddweud pam wrtho fe eto. Byddai hud Ceridwen yn cadw Ermyg yn ddiogel tra bod yn Nyffryn Nobath a nes bod hi’n gallu llwyddo i adfer y sefyllfa. Tynnodd Crid ffôn a chlustffonau mas o’i ffedog las a dechrau drefnu ei offer wrth fwydro wrth ei hunan, “Blydi ffycars Apple wedi weipio popeth yn lân.” “Beth alla i neud te?” gofynnodd Ermyg gyda phaned newydd arall yn boeth yn ei ddwylo. “Be’ allet ti ‘neud?” atebodd Crid cyn chwerthin fel brân, “Dylet ti blydi cofio dysgu byw y crwt. Cer i ffindo merch. Merch bert hyfryd. Cer i shelffo hi’n dwll.” Plannwyd yr hedyn. “Merch? Fi?” meddai Ermyg gan stopio syllu’n drist ar y te yn ei baned; ei bair di-egni. “Ffindo wejen?” “Sdim ishe ffindo wejen” meddai Crid “Jyst merch bert i...sdim clem ‘da ti o’s?” “Ond pwy fyddai’n lico fi?” ocheneidiodd Ermyg “Dw i ishe bod yn olygus ond dw i ddim.” Cymerodd Crid dim sylw o hunan-ddosturi y dyn oedd yn credu mai ei bos hi oedd ef. Doedd dim helpu rhai. Yn enwedig y to ifanc. Blydi gwastraffwyr a granffalawyr bob copa walltog. Roedden nhw’n methu weipo eu tinau ar ôl cachu heb dynnu ffycin llun ohono. Roedden nhw’n methu canolbwyntio ar un peth am fwy nag un funud cyn torri a ffocysu ar rhywbeth newydd. Yr unig agwedd gyson yn eu bywyd oedd yr ymadrodd “Dw i ishe”. Dw ishe bod yn driw i fi fy hunan. Dw i ishe gweld y byd. Dw i ishe achub y byd. Dw i ishe bod yn boblogaidd. Dw i ishe bod yn jyst, wel ti’mod ‘fi’. Dw i ishe stopio’r byd rhag ecsploetio pobl tlawd. Dw i ishe mynd i wlad dlawd i weld y bobl sy’ yno a’u helpu nhw. Dw i ishe codi ysgol ar y paith yn y Wladfa. Dw i ishe bod yn iach. Dw i ishe bod yn sexy. Dw i ishe abs. Dw i ishe ap. Dw i ishe gweld Kanye yn y Principality. Dw i ishe prynu crys-T dope. Dw i ishe cael llwyfan. Dw i ishe cael llais. Dw i ishe bawb fy nghlywed i. Dw ishe pawb cael eu clywed. Bolycs i gyd. Ydy’r to ifanc yn sylweddoli beth yw clywed llais pawb? Sŵn aflafar, dyna beth. Dyna pam dyw Duw ddim yn ateb dim. Gormod o gwyno. Wrth feddwl, byddai to’r tinlun yn enw da am y cwbl lot. Doedd dim gobaith. Roedd Crid wedi bod yn trio Ermyg helpu ei hunan ers achau. Hi oedd wedi rhoi y melltith arno i’w gadw rhag brifo ei hunan. Ond yn ddiweddar, roedd hi’n amau bod hi wedi gwneud y peth iawn. Oedd hi wedi gwneud y peth iawn? Bob dydd yng nghwmni’r pais bach, daethai awydd nad oedd pwrpas cadw trio adfer trigolion Dyffryn Nobath. Efallai y dylai hi drio symud ardal a ffindo pobl newydd egnïol a fyddai’n credu ynddi fel duwies. China? Roedd gormod o fytholeg gan China. Indonesia? Indo-ble? Ond roedd Kazakstan yn opsiwn diddorol. Gallai drio ei lwc yno. Roedd Crid wedi gweithio i bob perchennog Y Plas ers canrifoedd. Ond y crwt hwn oedd ei her mwyaf. Roedd ei hwyliau yn is na Ffos Mariana. A dylai Crid wybod am ddyfnder y lee ‘na gan mai yno y cuddiodd hi ei mab twp Afagddu, mewn ogof o dan y cefnfor. Pe bai Ermyg yn cario ymlaen fel hyn, byddai’n bosib y byddai cwmni gyda Afagddu cyn bo hir. Ond roedd dal ychydig o ffydd ganddi yn eu dilynwyr eraill. Rhoddodd ei chlustffonau i mewn a siarad â’i i-phone. Mewn acen braidd yn od, fe ddywedodd tri gair yn araf ac yn glir i mewn i’w ffôn. “Rhestr Chware...Glanhau” Arhosodd Crid yn llonydd am eiliad cyn gwenu a dechrau symud i ryw rhythm anghlyw yn ei chlustiau. Symudodd ei phelfis yn lig-log fel pe bai’n beunes yn trio denu paun. Cododd ei mop a’i bwced a dawnsloerodd ei ffordd allan o’r bwthyn fel pe bai’n Michael Jackson. Aeth i lanhau’r Plas, gan adael Ermyg, ei lanast pathetig a’i baned llugoer i ystyried ei sefyllfa. Oriau wedyn, pan ddaeth Crid yn ôl ar ôl cwpla ei waith, roedd Ermyg dal yn eistedd yn yr un lle, heb symud tamaid, yn syllu ar ei baned o ddiobaith. Ar ei gwpan roedd llun cartŵn o haid o ddefaid ar lôn yn y cefn gwlad. Uwchben y defaid oedd y jôc ‘Traffic Jam in Wales’. Chwarddodd Ermyg a Crid nes eu bod nhw’n llefain.